Y Blaid yn Lansio Ymgyrch Brexit i 'Gael yr Atebion mae Cymru yn Haeddu'

joni_a_steff.PNG

Am y tro cyntaf, bydd Plaid Cymru yn lansio ymgyrch draws-seneddol heddiw gan alw llywodraethau Cymru a San Steffan i gyfrif ynghylch eu safbwynbt ar Brexit.

Mewn dull unigryw a gwreiddiol o fod yn wrthblaid a fydd yn pontio rhwng San Steffan a Bae Caerdydd, bydd ymgyrch Brexit Plaid Cymru yn dal llywodraethau Cymru a’r DG i gyfrif yr un pryd wrth i ni barhau ar y ffordd i’r DG adael yr UE.

Bydd cwestiynau a gyflwynir ym Mae Caerdydd a San Steffan yn pwyso ar y naill lywodraeth a’r llall i amlinellu sut y maent yn disgwyl rheoli ymadawiad Cymru o’r UE.

Beirniadwyd y Torïaid yn San Steffan a Llywodraeth Lafur Cymru yng Nghaerdydd am eu datganiadau dryslyd ar Brexit sydd yn croes-ddweud ei gilydd, gan adael pobl Cymru yn y tywyllwch ynghylch pa fath o Brexit fydd yn digwydd.

Wrth wneud sylw, dywedodd aelod Cymru o Bwyllgor Brexit ac AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards AS:

“Mae chwit-chwatrwydd annealladwy o du Llywodraeth Cymru a siarad wast dryslyd gan y Torïaid yn San Steffan yn golygu fod pobl Cymru yn y tywyllwch o hyd ynghylch beth fydd Brexit yn ei olygu, bedwar mis a mwy wedi’r refferendwm.

“Hyd yma, mae gennym fwy o gwestiynau nag o atebion. Beth addawyd i Nissan? A fydd y bancwyr yn cael bargen arbennig? Beth fydd yn digwydd i gymorthdaliadau i ffermwyr? Sut yr effeithiwr ar hawliau gweithwyr?

“Allwn ni ddim dibynnu ar Blaid Lafur ddigyfeiriad yn San Steffan i ddal y llywodraeth i gyfrif, ac y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi dangos dro ar ôl tro nad ydynt yn deall y gwahaniaeth rhwng ‘mynediad at’ y farchnad sengl ac ‘aelodaeth ohoni’ – pwnc sy’n ganolog i ffyniant ein cenedl yn y dyfodol.

“Yr oedd canlyniad y refferendwm yn bendant – rhaid i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ond does dim penderfyniad eto ar delerau’r ymadael.

“Phleidleisiodd neb dros ‘Brexit caled’ a byddwn yn defnyddio dyfarniad diweddar yr Uchel Lys fod yn rhaid i lywodraeth y DG gael caniatâd y Senedd cyn rhoi bod i Erthygl 50 fel llwyfan i alw am ein safbwynt trafod gorau.

“Ein swyddogaeth fel gwleidyddion etholedig yw sicrhau’r fargen Brexit orau i Gymru a’r DG a bu Plaid Cymru yn gyson ac yn unedig yn galw am gadw ein haelodaeth o’r Farchnad Sengl fel y dewis Brexit gorau i Gymru. Yn gyntaf, oherwydd y manteision helaeth y bydd bod yn aelod o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau yn eu dwyn i Gymru oherwydd ein gwarged o £5bn mewn masnachu nwyddau, ac yn ail am y bydd yn galluogi Cymru i fod yn gymwys am rai rhaglenni trawsffiniol a chyllid ar gyfer ymchwil ac arloesedd.

“Fodd bynnag, yn bwysicach na’r bleidlais ar roi bod i Erthygl 50 yw’r hyn fydd yn digwydd wedyn – y trafodaethau eu hunain. Ar adeg pan fo’r naratif gyhoeddus yn cael ei gyrru gan y syniad o ‘adennill rheolaeth’, mae’n hanfodol nid yn unig fod Senedd y DG, ond Seneddau cenedlaethol y DG yn cael dweud eu dweud, gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Trwy ofyn cwestiwn y dydd yn y naill Senedd a’r llall, gan gadw’r geiriad mor debyg ag sydd modd, rydym eisiau darganfod beth yw cynllun y naill lywodraeth a’r llall i gymunedau Cymru. Bydd yr atebion a gawn gan y ddwy lywodraeth yn creu’r amlinelliad gorau sydd gennym hyd yma o’r hyn y gall Cymru ei ddisgwyl o drafodaethau Brexit.

“Yn y bôn, byddwn yn gofalu fod pobl Cymru yn cael yr atebion maent yn eu haeddu.”

Ychwanegodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Allanol yn y Cynulliad Cenedlaethol, Steffan Lewis AC:

“Mae Cymru yn wynebu un o heriau mwyaf y degawdau diweddar. Bydd angen i ni ddefnyddio ein holl wytnwch a’n creadigrwydd i fanteisio ar y cyfleoedd a roddir i ni gan Brexit a lliniaru’r niwed y gall achosi i’n heconomi. Ar adeg pan fod arnom angen cryfder ac eglurder gan ein harweinwyr, ni chawsom yn hytrach ond rhethereg wag a dryswch.

“Plaid Cymru yw’r unig blaid sy’n gweithio i roi i bobl yng Nghymru lais yn dilyn pleidlais Brexit. Rydym mewn lle unigryw i ddal y llywodraethau, yn San Steffan a Chaerdydd, i gyfrif.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.