Y Gymraeg wrth galon rhaglen lywodraeth Plaid Cymru

Gobaith_Newydd.png

Mae ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro, Simon Thomas, wedi dweud heddiw y byddai llywodraeth ei blaid yn rhoi cefnogaeth di-gynsail i ddiogelu dyfodol yr iaith gyda rhaglen lywodraeth sydd gyda'r Gymraeg wrth ei chalon.

Dywedodd Simon Thomas fod Plaid Cymru am weld Cymru wirioneddol ddwyieithog lle gall pobl ddewis pa iaith i'w defnyddio ym mywyd pob dydd.

Mae cynlluniau Plaid Cymru yn cynnwys creu Rhaglen Hyfforddi'r Gweithlu i ddarparu cyrsiau Cymraeg strwythuredig, ehangu darpariaeth addysg Gymraeg, a dyblu'r gyllideb 'Cymraeg i Oedolion'.

Dywedodd ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru Simon Thomas:

"Mae'r Gymraeg wrth galon rhaglen lywodraeth Plaid Cymru a byddwn yn cynnig cefnogaeth di-gynsail i ddiogelu dyfodol yr iaith.

"I wneud hyn, byddwn yn gweithredu i gynyddu'n sylweddol nifer siaradwyr y Gymraeg ledled y wlad a sicrhau bod cyfle iddyn nhw ddefnyddio'r iaith pryd bynnag y dewisan nhw.

"Rydym ni am annog rhagor o ddefnydd o'r Gymraeg yn y gweithle drwy greu Rhaglen Hyfforddi'r Gweithlu i ddarparu cyrsiau Cymraeg strwythuredig a throchi.

"Byddwn hefyd yn cefnogi economi ardaloedd Cymraeg-eu-hiaith drwy ddatblygu Caerfyrddin, Aberystwyth a chytref Menai yn fothau economaidd, gan adeiladu ar eu statws trefol a'u poblogaethau Cymraeg i greu crynswth critigol i dwf economaidd pellach.

"Fel rhan o'n cynlluniau i gefnogi'n pobl ifanc o'r crud i'r yrfa, byddwn yn ehangu darpariaeth addysg Gymraeg a gosod targed interim o 50% o blant 7 oed mewn addysg Gymraeg erbyn 2030.

"Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn parhau i gefnogi'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i roi addysg uwch yn Gymraeg ac i academwyr i wneud ymchwil yn Gymraeg.

"Amcan Plaid Cymru yw i ddyblu'r gyllideb Cymraeg i Oedolion er mwyn darparu hyfforddiant iaith i athrawon a gweithwyr sector cyhoeddus, helpu athrawon i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y cartref, a hyrwyddo'r iaith ymysg newydd-ddyfodiaid.

"Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg, i wella mynediad i wasanaethau sylfaenol yn y Gymraeg, ac i sicrhau dyfodol yr iaith fel un o gonglfeini bywyd Cymreig."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.