Mae AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi ei dewis i arwain grŵp Plaid Cymru yn San Steffan.
Dewiswyd Ms Saville Roberts yn ddiwrthwynebiad yn ystod cyfarfod grŵp cyntaf y blaid ers yr etholiad, yn Llundain y prynhawn yma. Cynyddodd y blaid eu cynrychiolaeth yn San Steffan o dir i bedwar AS yn yr etholiad yr wythnos ddiwethaf.
Bydd Liz Saville Roberts yn cymryd drosodd o AS Arfon, Hywel Williams.
Mae’r blaid hefyd wedi cyhoeddi portffolios newydd ar gyfer eu llefarwyr, gyda Hywel Williams yn cymryd cyfrifoldeb dros Brexit a Masnach Ryngwladol, Liz Saville Roberts yn cymryd y cyfrifoldeb dros Gyfiawnder a Materion Cartref; bydd Jonathan Edwards yn arwain ar y Trysorlys, Materion Tramor ac Amddiffyn, a bydd AS newydd Ceredigion, Ben Lake, yn arwain ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Materion Cyfansoddiadol a Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, fydd chwip newydd y blaid.
Yn ei sylw, meddai arweinydd newydd grŵp San Steffan Plaid Cymru, Liz Saville Roberts:
“Mae’n anrhydedd mawr cael fy newis i arwain grŵp cryf a dawnus Plaid Cymru yn San Steffan, sydd yn fwy nac y bu ers etholiad 2001. Rwy’n ddiolchgar i gael cefnogaeth fy nghydweithwyr yng ngrŵp Plaid Cymru ac am anogaeth gan gydweithwyr yn y blaid a thu allan.
“Arweiniodd Hywel y grŵp yn fedrus a llwyddiannus yn ystod y Senedd ddiwethaf, ac y mae’n uchel iawn ei barch, nid yn unig yng ngrŵp Plaid Cymru ond ar hyd Tŷ’r Cyffredin. Arwydd o’i arweinyddiaeth fu ei benderfyniad i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed bob tro yn ystod y Senedd flaenorol ac yr oedd ei arweiniad yn ganolog i wneud Plaid Cymru yn wrthblaid swyddogol ar fesur Cymru mewn popeth ond enw.
“Mae grŵp Plaid Cymru yn fwy nac y bu ers tair blynedd ar ddeg ac yr wyf yn edrych ymlaen at fanteisio ar y cyfleoedd sylweddol a roddir i Gymru ac i Blaid Cymru gan Senedd gytbwys; i wrthwynebu obsesiwn trychinebus San Steffan a thoriadau gwario, pwyso am gryfhau Senedd Cymru, a sicrhau y bydd Brexit yn gweithio i Gymru.”
Meddai arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood:
“Mae Liz wedi ei phrofi ei hun yn eiriolwraig gref dros ei hetholwyr ei hun a phobl y DG gyfan. Daeth yn awdurdod yn Nhŷ’r Cyffredin ac y mae eisoes wedi ennill parch ASau o bob plaid.
“Mae Liz wedi arwain ar faterion o bwys i Gymru a’r DG gyfan, gan gynnwys seibr-ddiogelwch, plismona a goroeswyr cam-drin yn y cartref, ac yr wyf yn sicr y bydd yn arwain y grŵp yn llwyddiannus trwy’r Senedd nesaf ac yn sicrhau y clywir llais Cymru yn ystod y trafodaethau hanfodol ar ein perthynas yn y dyfodol gydag Ewrop a gweddill y byd.”