Tawelu llais Cymru yn nhrafodaethau Brexit

Jonathan_Edwards_MP.jpg

Does gan Lywodraeth Prydain ddim cynlluniau i gynnal Cyd-Bwyllgor Gweinidogol yn y dyfodol ar Drafodaethau'r UE, datgelodd Plaid Cymru.

Mewn ateb i gwestiwn Seneddol ysgrifenedig a gyflwyno ydi gan Jonathan Edwards, AS, cadarnhaodd Llywodraeth Prydain mai trafodaethau dwyochrog anffurfiol a heb gofnodion gyda'r llywodraethau datganoledig fyddai'n cymryd lle'r is bwyllgor ffurfiol.

Sefydlwyd yr is-bwyllgor ffurfiol gan Lywodraeth Prydain i gynnal cysylltiadau rhwng y DG a'r gweinyddiaethau datganoledig yng nghyswllt ymadawyr â'r UE. Mewn datganiad a gyhoeddwyd wedi cyfarfod cyntaf y CBG (EN), dywedwyd y byddid yn cynnal cyfarfodydd misol. Ni chyfarfu is-bwyllgor ers misoedd Chwefror, sy'n golygu mai ad hoc a thu ôl i ddrysau caeedig y but ymgynghori  â'r cenhedloedd datganoledig  ac mai felly y bydd pethau yn parhau.

Mae economi Cymru, sy'n dibynnu'n drwm ar allforio nwyddau i'r Farchnad Sengl Ewropaidd ac ar gyllid rhanbarthol ac amaethyddol, yn golygu bod ganddi safbwynt unigryw i'w leisio. Heb allu cyflwyno'n ffurfiol y safbwynt Cymreig trw'r CBG (EN), mae Cymru mewn perygl o weld ei hanghenion yn cael eu hanwybyddu a'u hanghenion gan Lywodraeth Prydain. 

Meddai Jonathan Edwards, AC, Is-Gadeirydd y Grwp Seneddol Amlbleidiol ar gysylltiadau â'r UE:

"Rwy'n cael fy synnu'n barhaus gan amarch llwyr Llywodraeth Prydain tuag at y cenhedloedd datganoledig. Mae'n hollol amlygu fod Gweinidogion Brexit yn San Steffan yn tybio mai pethau i'w taflu o'r neilltu yw mecanweithiau ffurfiol lle gall y cenhedloedd datganoledig gyfrannu at drafodaethau am yr UE. Mewn gwirionedd maent yn gorchymyn mygu Cymru er mwyn bwrw ymlaen â'u hagenda ideolegol. 

Bwriad y CBG (EN), a sefydlwyd yn 2016, oedd cyfarfod yn fisol. Mae'r ffaith  nad yw wedi cwrdd ers mis Chwefror ynddi'i hun yn anfaddeuol. Ac mae cael ar ddeall wedyn nad oes gan Lywodraeth Prydain unrhyw gynlluniau i gynnal cyfarfod byth eto yn y dyfodol yn warthus. Mae'n cadarnhau i mi eu bwriad i fwrw ymlaen â Brexit niweidiol, costied a gostio. 

Mae economi Cymru, sy'n dibynnu'n drwm ar allforio nwyddau i Farchnad Sengl yr UE ac ar gyllid rhanbarthol ac amaethyddol, yn golygu bod gennym  safbwynt unigryw  i'w leisio. Heb allu  cyflwyno safbwynt Cymreig i Weinidogion Brexit  trw'r CBG  (EN), rydym mewn perygl o weld ein hanghenion yn cael eu hanwybyddu a'u hanghofio eto fyth gan Lywodraeth Prydain. 

I wneud petha'n waeth, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cytuno â'r gwarth hwn. Rwy'n galw ar Weinidogion Brexit i ail-ystyried a gosod dyddiad ar gyfer y CBG nesaf yn eu dyddiaduron.  Rwy'n galw ar Lafur Cymru i fynnu eu bod yn gwneud hynny."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.