Dim ond 5 AS yn rhoi'u henwau ymlaen i eistedd ar Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan

ben_lake.jpg

Dim ond dau AS Llafur o gyfanswm o 28 sydd wedi cynnig eu hunain i eistedd ar Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin.

Deg sedd a Chadeirydd sydd gan y Pwyllgor ac y mae’r aelodaeth fel arfer yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y Senedd. Ar derfyn y Senedd flaenorol, yr oedd gan y Pwyllgor 5 AS Ceidwadol, 3 AS Llafur, 1 Plaid Cymru ac 1 Democrat Rhyddfrydol.

Gall unrhyw AS roi ei h/enw gerbron i wasanaethu ar y Pwyllgor ac o 28 AS Llafur posib yn cynrychioli etholaethau Cymreig, dim ond Paul Flynn a Geraint Davies a gynigiodd eu henwau.

Oherwydd bod angen i aelodaeth pwyllgorau adlewyrchu canlyniad yr Etholiad Cyffredinol ar lefel y DG, mae’n debyg mai un sedd fydd gan Blaid Cymru ar y pwyllgor. Mae’r Blaid wedi enwebu AS newydd Ceredigion,Ben Lake, fel eu cynrychiolydd ar y pwyllgor.

Mae Mr Lake wedi disgrifio nifer yr enwebiadau Llafur fel “adlewyrchiad o ddifrawder y Blaid Lafur tuag at Gymru.”

Meddai Ben Lake AS:

“Ein gwaith fel ASau yw cynrychioli ein hetholwyr a’n cydwladwyr yn y Senedd a dal Llywodraeth Prydain i gyfrif. Fel AS Cymreig, mae’n fraint gallu gwasanaethu ar y Pwyllgor Materion Cymreig a sicrhau bod gan fy etholwyr lais a dull o ddylanwadu ar waith Llywodraeth Prydain yng Nghymru.

“Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig yn gwneud gwaith hanfodol a bu’n ddylanwadol yn y Senedd flaenorol ar faterion megis y rheilffyrdd, y diwydiant dur ac amaethyddiaeth. Mae’n bwysig i ASau gymryd y gwaith hwn o ddifrif.

“Mae’r ffaith mai dim ond dau o’r 28 AS Llafur yng Nghymru a benderfynodd roi eu henwau gerbron yn adlewyrchiad trist o ddifrawder y Blaid Lafur tuag at Gymru. Unwaith eto, maent yn esgeuluso eu dyletswydd i ddal y Torïaid i gyfrif.

“Mae eu haddewidion i ‘sefyll cornel Cymru’ ac ‘atal y Torïaid rhag sathru dros Gymru’ yn hollol chwerthinllyd pan welwn mewn gwirionedd gyn lleied y maent yn wneud yn San Steffan.

“Mae gweld mai dim ond dau AS Llafur all drafferthu i graffu ar y Torïaid mor rhwystredig ag y mae’n sarhaus. Achos mwy o bryder, efallai, yw mai’r un Blaid Lafur swrth a difater sy’n rhedeg Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Pwyllgor Materion Cymreig i sicrhau fod gan bobl Ceredigion a Chymru lais cryf ac effeithiol yn San Steffan ac i ddal Llywodraeth Prydain i gyfrif am eu record yng Nghymru.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.