Plaid Cymru yn gosod allan gynlluniau i amddiffyn Cymru rhag elfennau gwaethaf diwygio lles
Gallai Cymru arwain y ffordd o ran amddiffyn y bobl fwyaf bregus petai’n cymryd rheolaeth dros weinyddu Credyd Cynhwysol, meddai Plaid Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau, Bethan Jenkins fod cynllun gwael y system Credyd Cynhwysol yn achosi problemau ychwanegol i bobl sydd eisoes yn fregus.
Dywedodd y byddai Llywodraeth Cymru Plaid Cymru yn ceisio datganoli lles er mwyn gwneud newidiaidau gweinyddol i helpu i leihau rhai o’r problemau megis newid amlder taliadau, rhoi terfyn ar ddiwylliant cosbi, a sicrhau bod taliadau yn cael meu gwneud i unigolion, nid i aelwydydd.
Meddai Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau, Bethan Jenkins:
“Mae cynlluniau’r Torïaid i osod un taliad Credyd Cynhwysol unigol wedi eu strwythuro’n wael a byddant yn achosi problemau eraill diangen i bobl y mae eu sefyllfa eisoes yn fregus.
“Dan y cynlluniau presennol, mae taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu gwneud ar ôl chwe wythnos, oedi hir sydd wedi golygu bod tua hanner holl denantiaid awdurdodau lleol yn cwympo i ddyled ar eu rhent. Mae’r llywodraeth Geidwadol hefyd yn euog o greu diwylliant o gosbi, ac y mae nifer y cosbau a osodwyd ar bobl ers 2012 wedi cynyddu’n fawr.
“Mae’r ffaith fod y llywodraeth yn mynnu talu’r credyd i aelwydydd yn hytrach nac i unigolion yn gallu cael effaith enbyd ar rai pobl. Bydd y baich biwrocrataidd trymaf yn disgyn ar bobl sydd wedi eu caethiwo mewn perthynas o gamdriniaeth fydd yn gorfod dadlau dros statws eithriadol o fewn system y Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn anfaddeuol.
“Petai’r pwerau hyn wedi eu datganoli i Lywodraeth Cymru, yna fe fyddai modd i ni amddiffyn y bobl hyn. Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn ceisio newid amlder y taliadau, rhoi diwedd ar ddiwylliant cosbi, a sicrhau bod taliadau yn cael eu gwneud i unigolion, nid i aelwydydd.”