Dai Lloyd o Blaid Cymru yn sôn am bosibilrwydd y bydd Deddf Cymru yn “dwyn grym” dros undebau llafur

00_Dai_Lloyd_AC.jpg

Pleidlais y Blaid ar Ddeddf Cymru wedi ei “chyfiawnhau” gan sylwadau Llywodraeth y DG

Mae AC Plaid Cymru Dr Dai Lloyd wedi dweud y gellir “cyfiawnhau” pleidlais ei blaid yn erbyn Deddf Cymru os na fydd Llywodraeth y DG yn caniatáu i ddeddfwriaeth Gymreig ar undebau llafur fynd rhagddo.

Yr oedd AC Gorllewin De Cymru yn ymateb i sôn mai bwriad Llywodraeth y DG yw gweithredu i herio deddfwriaeth Gymreig ar hawliau undebau llafur.

Adroddodd Ysgrifennydd Cabinet y Llywodraeth Lafur dros Gyllid a Llywodraeth Leol fod hyn wedi ei awgrymu wrtho yn sesiwn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol mewn llythyr gan Lywodraeth y DG. Dywedodd ei bod yn bosib y byddai Llywodraeth y DG yn “gosod eu barn arnom ni (y Cynulliad Cenedlaethol)”. Er na chaniataodd yr Ysgrifennydd Cabinet ryddhau’r llythyr, cafodd ei gynnwys ei drafod mewn sesiwn gyhoeddus. Mae’n ymddangos bod y cynnwys yn fygythiad i allu deddfwriaethol y Cynulliad.

Hawliwyd yn y drafodaeth, dan Ddeddf Cymru, y pleidleisiodd Plaid Cymru yn ei herbyn, y gellid dyfarnu fod y bil arfaethedig Cymreig ar undebau llafur y tu allan i’w galluoedd.

Condemniodd Dr Lloyd hyn fel “dwyn grym gan San Steffan”. Pleidleisiodd Plaid Cymru yn erbyn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (CCD) i Ddeddf Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Ionawr, gan rybuddio y gallai’r Mesur gwallus dynnu pwerau yn ôl.

Pleidleisiodd y grwpiau Llafur a Cheidwadol yn y Cynulliad dros y CCD, gan ganiatáu i Fesur Cymru ddod yn Ddeddf.
Dywedodd Dr Lloyd, y tu hwnt i’r manylion technegol, y bydd pobl Cymru yn gweld arwyddion cynnar fod San Steffan am ddefnyddio “pwerau a gedwir yn ôl” i danseilio hawliau democrataidd y genedl Gymreig.

Meddai Dai Lloyd:

“Mae rhybudd Plaid Cymru fod Deddf Cymru yn ymgais i ddwyn pwerau wedi ei gyfiawnhau. Dwyn grym gan San Steffan yw hyn.
“Gall Llywodraeth y DG ddefnyddio’r ddeddfwriaeth hon i danseilio hawliau democrataidd y genedl Gymreig, o gymharu â’r model pwerau sydd gennym ar hyn o bryd. Y cwestiwn yn awr yw a fydd Llywodraeth y DG yn defnyddio Deddf Cymru i blismona’r setliad datganoli yn gaeth ac ymyrryd yn ein llywodraethiant ni.

“Dyw pobl yng Nghymru ddim eisiau deddfwriaeth adweithiol y DG ar undebau llafur. Maent am i ni drefnu ein cynlluniau gweithlu ein hunain a sicrhau hawliau gweithwyr yn ein gwasanaethau cyhoeddus.

“Mae Plaid Cymru eisiau dweud yn glir wrth bobl yng Nghymru - bydd ymddygiadfel hyn gan Lywodraeth DG yn dal i ddigwydd hyd nes y bydd neges bendant yn cael ei anfon at San Steffan. Os ydych am i Gymru gael ei pharchu yn y DG, yna cefnogwch Blaid Cymru.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.