TTIP

Bu Jill Evans ASE yn un o wrthwynebwyr mwyaf amlwg TTIP yng Nghymru, a Grŵp EFA/y Gwyrddion yn Senedd Ewrop ac mae wedi arwain ar hwn ar lefel Ewropeaidd.

● Cytundeb masnach yw TTIP sydd yn cael ei drafod tu ôl i ddrysau caeedig rhwng yr UDA ac Ewrop. Dyma Gomisiwn Ewrop, yn hytrach nac aelodau etholedig Senedd Ewrop, sydd yn negodi ar ran yr UE – ond bydd gan yr Aelodau Seneddol Ewropeaidd yr hawl i bleidleisio arno ar ddiwedd y broses.

● Bwriad TTIP yw lleihau rheoleiddio ar yr hyn a gaiff ei ystyried gan rai i fod yn rwystrau i fasnach; pethau fel diogelwch bwyd, cyfraith, iechyd, a deddfwriaeth amgylcheddol.

● Gellid dirwyo llywodraethau am bolisiau neu ddeddfwriaeth sydd yn effeithio ar elw busnesau neu gorfforaethau mawrion. Byddai’r penderfyniadau yn cael eu gwneud mewn Tribiwnlysoedd Cyflafareddu Rhyngwladol yn hytrach na rhai cartref, ac fe fyddai hyn yn cyfyngu ar allu llywodraethau i ymddwyn er lles cyhoeddus.

● Bydd TTIP yn bygwth gwasanaethau cyhoeddus drwy eu hagor nhw i’r farchnad.

● Mae’r UE a’r UDA yn gyfrifol am 47% o Gynnyrch Domestig gros y byd. Mae’r cytundeb masnach yma’n gosod cynsail pwerus ar gyfer masnach ryngwladol yn y dyfodol – ac yn gosod ras i’r gwaleod sydd yn rhoi elw o flaen pobl.

● Mae TTIP hefyd yn rhoi’r iaith Gymraeg mewn perygl sylweddol. Gallai arwain at breifateiddio ein gwasanaethau cyhoeddus – a does gyda ni ddim digon o ddeddfwriaeth ar hyn o bryd i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei amddiffyn yn y sector breifat. Bydd yn arwain at golli sofraniaeth i Lywodraeth Cymru.

Beth fyddai’n digwydd pe byddem yn gadael yr UE?

● Cafodd ei awgrymu gan nifer o ymgyrchwyr sydd o blaid gadael yr UE y dylsem bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd fel mod o ffoi rhag TTIP. Credwn taw nid dyma’r ffordd o gyflawni hyn am nifer o resymau.

● Pe baem yn gadael yr UE, byddai Llywodraeth Prydain yn cael rheolaeth lawn o gytundebau masnach tramor yn y dyfodol. Mae’r Llywodraeth Geidwadol yn un o gefnogwyr mwyaf TTIP yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn hytrach na bod yn rhydd o TTIP, byddai gadael Ewrop yn golygu ein bod yn rhoi pŵer i Lywodraeth y Ceidwadwyr i sicrhau ei fod yn cael ei yrru drwodd.

● Mae yna nifer o bobl o blaid gadael Ewrop sydd yn awgrymu y gallwn aros yn y farchnad sengl heb fod yn yr UE. Golygai’r dewis hwn y byddai’n rhaid i ni gydymffurfio â darpariaethau’r TTIP heb gael llais o gwbl yn y broses ddemocrataidd sydd yn ei greu.

Beth yw manteision bod yn aelod o’r UE?

● Nid yw TTIP yn anochel. Mae yna fudiad sylweddol i drechu TTIP yn Ewrop. Mae wedi ennill cefnogaeth dros 3 miliwn o Ewropeaid. Yn Berlin, cymerodd 250,000 o gefnogwyr i’r stryd fis Hydref diwethaf mewn gwrthdystiad heddychlon yn erbyn TTIP. Ac mae’r mudiad hwn wedi gohirio’r broses eisoes – roedd fod wedi ei lofnodi erbyn hyn. O fewn yr UE, rydym wedi uno gyda’n cynghreiriaid ar draws y cyfandir drwy roi rhwystrau yn erbyn y ddeddfwriaeth gyfrinachol yma. Pe bai’r DG yn gadael, fe fyddem yn cael ein hynysu, gyda Llywodraeth y DG sydd o blaid TTIP yn rhydd i ffurfio eu cytundebau masnach eu hunain.

Beth allen ni ei wneud yn well yn yr UE?

● Mae Cynghorau Gwynedd, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg wedi pasio cynigion yn erbyn TTIP. Gellid dyblygu hyn ar draws Cymru, a’i gwneud hi’n glir nad yw Cymru’n mynd i dderbyn urhyw gytundebau masnach sydd yn cymryd democratiaeth i ffwrdd ac yn gosod elw o flaen pobl.

● Gall masnach ryngwladol fod yn arf pwerus dros gydradoldeb a lleihau tlodi. Mae Plaid Cymru’n galw am gytundeb masnach gwahanol sydd yn rhoi ein cymdeithas, ein hamgylchedd a’n pobl yn gyntaf.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.