Cyn-arweinydd Plaid Cymru yn galw am ‘glo triphlyg Brexit’

15104561784_85151d3c4e_o.jpg

Mae Arglwydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley, wedi galw am ‘glo triphlyg Brexit’, gan ddadlau, oni fydd y Llywodraeth yn rhoi pleidlais i’r Senedd ar ganlyniad y trafodaethau, y dylid gofyn i’r cyhoedd gymeradwyo’r canlyniadau eu hunain.

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru wedi amlinellu tair cam y dylai’r Llywodraeth eu cymryd i sicrhau yr ymgynghorir yn llawn â’r cyhoedd ar y berthynas yn y dyfodol rhwng yr UE a’r Wladwriaeth Brydeinig.

Galwodd ar i Lywodraeth y DG amlinellu pa ganlyniad fyddai orau ganddynt hwy cyn i’r Senedd bleidleisio ar danio Erthygl 50, ac oni wnânt hynny, galwodd ar i Seneddau’r DG, gan gynnwys y Seneddau cenedlaethol datganoledig, gadw’r hawl i dynnu’n ôl eu cefnogaeth i danio Erthygl 50. Yn niffyg hynny, dywed yr Arglwydd Wigley y dylid ymgynghori unwaith eto â’r cyhoedd mewn refferendwm ar ganlyniadau’r trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Dywed Arglwydd Plaid Cymru, a fu’n ymgyrchu dros bleidlais Aros, ei fod yn parchu canlyniad y refferendwm ond dadleua na ddylai gadael yr Undeb Ewropeaidd olygu gadael y farchnad sengl na’r undeb tollau.

Meddai’r Arglwydd o Baid Cymru, Dafydd Wigley:

“Dwyf i ddim yn celu’r ffaith fy mod yn siomedig iawn â phenderfyniad y bobl i adael yr Undeb Ewropeaidd ond yr wyf hefyd yn derbyn na ellir anwybyddu canlyniad y refferendwm.

“Fodd bynnag, tra bod pobl a bleidleisiodd yn y refferendwm hwnnw yn gwybod yn union beth yr oeddent yn pleidleisio yn ei erbyn – ein haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd – fe wnaethant hynny am amrywiaeth o wahanol resymau. Fe wnaeth rhai hynny i ailgyfeirio £350 miliwn bob wythnos i’r GIG; roedd perchen ogion rhai busnesau bach eisiau gweld gostyngiad yn rheoliadau’r UE; ac yr oedd eraill eisiau gweld gostyngiad yn lefel y mewnfudo i’r DG. Beth bynnag oedd eu rhesymau, yr oeddent yn gwybod beth y mynnent roi diwedd arno – ein haelodaeth o’r UE.

“Yr hyn nad oedd ganddynt gyfle i’w ddatgan, fodd bynnag, oedd beth ddymunent ei weld yn lle aelodaeth o’r UE. Mae gwahanol ymgyrchwyr Gadael wedi pledio gwahanol ddewisiadau. Yr oedd rhai eisiau patrwm tebyg i un Norwy, fyddai’n cadw ein haelodaeth o’r farchnad sengl; yr oedd eraill o blaid perthynas debyg i’r rhai a ddaeth o ganlyniad i drafodaethau gydag Albania, Twrci neu’r Wcrain; yr oedd rhai eisiau bargen ar ddull un Canada – a gymerodd wyth mlynedd i’w chyrraedd; ac yr oedd eraill yn fodlon na ddylem gael cysylltiadau arbennig gyda’r farchnad sengl o gwbl, gan dderbyn y byddai hyn yn golygu gosod tariffau ar allforion cynnyrch Cymru i Ewrop.

“Ni chafwyd unrhyw benderfyniad gan y bobl ar y berthynas newydd hon. Efallai bod y refferendwm wedi rhoi mandad i adael yr UE ond ni roes fandad am y dewis amgen y dylai’r llywodraeth fynd amdano. Nid yw’r Llywodraeth Geidwadol bresennol chwaith wedi cael mandad trwy etholiad cyffredinol – eu polisi bryd hynny oedd aros yn yr UE.

“Dyna pam fod yn rhaid i’r Seneddau – gan gynnwys Seneddau cenedlaethol Cymru a’r Alban, a Chynulliad Gogledd Iwerddon – chwarae rhan wrth benderfynu ar y berthynas newydd.

“Mae’n hanfodol fod y Llywodraeth yn cyhoeddi pa un yw eu dewis o ran Brexit cyn gofyn i’r Senedd bleidleisio ar Erthygl 50. Os gwrthodant wneud hynny, yna dylai’r Senedd gadw’r hawl i dynnu’n ôl eu cefnogaeth i Erthygl 50 os na fydd canlyniadau’r trafodaethau yn foddhaol. Os na all y llywodraeth gytuno â’r amodau hynny, yna mae’n hollol resymol mynnu ymgynghori â’r cyhoedd eto, trwy refferendwm ar ganlyniad y trafodaethau.

“Mae’n iawn i’r bobl a gymerodd y penderfyniad i adael yr UE gael y gair terfynol ynghylch a ydynt yn fodlon i wneud hynny, ar y telerau a drafodwyd gan y Llywodraeth.

“Yn sicr, mae parhau i fod yn aelod o’r farchnad sengl – sy’n golygu nid yn unig fynediad at y farchnad sengl ei hun ond mynediad at y 53 bargen fasnach arall a drefnwyd gan y farchnad sengl – o les i Gymru a’r Wladwriaeth Brydeinig gyfan, ac fe fyddaf i, ynghyd â’m cydweithwyr ym Mhlaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin ac yn y Cynulliad Cenedlaethol yn parhau i bledio’r achos hwnnw.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.