“Gwnewch rywbeth ynghylch ynni’r llanw, neu gadewch i ni ein hunain wneud”, medd Plaid Cymru

LSR_conf_1.jpg

Rhaid i San Steffan gyflwyno morlyn llanw Bae Abertawe neu adael i Gymru wneud y gwaith eu hunain, yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar Ynni, Liz Saville Roberts AS.

Mae AS Dwyfor Meirionnydd wedi rhybuddio fod y Wladwriaeth Brydeinig yn wynebu posibilrwydd “gwasgfa ynni”, fyddai’n arwain at doriadau trydan wrth i’r galw fynd yn fwy na’r cyflenwad oni fydd San Steffan yn cyflwyno ar ynni’r llanw.

Dadleodd Ms Saville Roberts y byddai cynigion am forlynnoedd llanw ym Mae Abertawe a Chaerdydd yn cyflwyno’r trydan rhataf o bob gorsaf bŵer newydd ac ar yr un pryd yn cynhyrchu cymaint o ynni â gorsaf bŵer niwclear Hinkley C.

Byddai’r pum morlyn llanw sydd ar y gweill yn cynhyrchu digon o drydan ar gyfer 30 y cant o gartrefi’r DG am 120 mlynedd – dwbl einioes unrhyw orsaf bŵer newydd. Byddai morlyn Bae Abertawe yn creu 2,323 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu ac 181 yn ystod y cyfnod rhedeg, fyddai’n ychwanegu £316 miliwn at GVA Cymru yn ystod y cyfnod adeiladu a £76 miliwn y flwyddyn wedi hynny.

Amcangyfrifir y bydd morlyn llanw arfaethedig Caerdydd yn denu £8 biliwn o gyfalaf p[reifat, gyda thros 3,000 o swyddi adeiladu a thros 8,000 o swyddi gweithgynhyrchu yng nghadwyn gyflenwi’r prosiect. Mae’r datblygwr yn amcangyfrif y gallai gyfrannu hyd at £2 biliwn mewn gwerth Gros Ychwanegol i economi Cymru yn ystod y cyfnod adeiladu, gyda’r potensial am £500 miliwn ym mhob un o 120 blwyddyn ei redeg.

Meddai llefarydd Plaid Cymru ar Ynni, Liz Saville Roberts AS:

“Mae un llywodraeth ar ôl y llall wedi siarad digon am ynni’r llanw, ond nid ydynt wedi cyflwyno unrhyw brosiect ynni’r llanw.

“Gallai Cymru arwain y byd mewn ynni carbon-niwtral diolch i’n cyfoeth o adnoddau naturiol, ond ers canrifoedd, cawsom ein hatal rhag eu meithrin ac elwa arnynt oherwydd cyfyngiadau mympwyol San Steffan.

“Mae morlyn llanw Bae Abertawe wedi denu cefnogaeth nas gwelwyd ei fath gan bobl Abertaw a Chymru gyfan – yn hollol wahanol i ddatblygiadau ynni mawr yn unman arall yn y DG. Nid yn unig y byddai’n cynhyrchu ynni glân a diogel i lawer o Gymru ond yn braenaru’r tir ar gyfer morlynnoedd mawr rhwng Caerdydd a Chasnewydd fyddai’n cynhyrchu cymaint o ynni â gorsaf bŵer niwclear Hinkley C . Yn bwysig iawn, buasent hefyd yn cynhyrchu’r trydan rhataf o’rholl bwerdai newydd, ac fe allent fod ar waith erbyn 2020.

“Caeodd 18 gorsaf bŵer fawr dros y pedair blynedd ddiwethaf, gan golli 18,000 megawatt o ynni. Disgylir y bydd hyn yn codi i 38,000 megawatt erbyn 2020, sef traean o’n gallu presennol. Mae’r Wladwriaeth Brydeinig mewn gwir berygl o wynebu gwasgfa ynni, fyddai’n arwain at doriadau trydan ar hyd a lled Ynysoedd Prydain. Daethom yn beryglus o agos at hyn llynedd.

“Cawsom ddigon o eiriau teg gan San Steffan: gweithredu sydd ei angen. Os yw’n well gan San Steffan eistedd ar eu dwylo, dylent adael i ni wneud y gwaith ein hunain a datganoli’r cyfrifoldeb i bobl Cymru.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.