Beirniadodd Steffan Lewis AC, ysgrifennydd cabinet cysgodol Plaid Cymru dros faterion allanol, Lywodraeth y DG Government am benderfynu herio’r Gyfraith a Dderbyniwyd o Fesur Undeb Ewropeaidd (Cymru) yn y Goruchaf Lys. Mae’r bil, a gynigwyd yn wreiddiol gan Steffan Lewis, yn ymgorffori rheoliadau'r UE ar faterion datganoledig i gyfraith Cymru, gan amddiffyn y setliad datganoli presennol.
Meddai Steffan Lewis AC, ysgrifennydd cabinet cysgodol Plaid Cymru dros faterion allanol:
“Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi deddfu i amddiffyn ein pwerau democrataidd rhag cael eu cipio gan y Llywodraeth yn San Steffan. Mae’n dangos y dirmyg sydd gan y Ceidwadwyr dros ddymuniadau democrataidd pobl Cymru wrth ddewis herio’r Bil yn y Goruchaf Lys, yn hytrach na parhau i drafod a dod i gytundeb sy’n gweithio i bawb.
Mae’n dangos, pan ddaw yr awr, na fydd y Ceidwadwyr yn sefyll dros Gymru. Fe bleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig o blaid fy nghynnig yn galw am Fesur Parhad yn y Cynulliad Cenedlaethol yn wreiddiol, ond pan roedd Cymru eu hangen nhw i herio eu penaethiaid yn San Steffan, roedden nhw’n fwy na hapus i ildio yn hytrach na ymuno a’r frwydr i achub setliad datganoli Cymru.
Mae'r gefnogaeth eang ar gyfer y Bil Parhad yn y Cynulliad Cenedlaethol yn profi bod amddiffyn democratiaeth Gymreig rhag gael ei gipio gan y Torïaid yn fater sy’n croesi ffiniau pleidiol. P'un a wnaethoch chi bleidleisio i adael neu aros, ni bleidleisiodd neb i dynnu grym i ffwrdd o’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru – grym a bleidleiswyd drostyn gan bobl Cymru mewn dau refferendwm. Y Bil Parhad yw cyfle Cymru i wrthsefyll cipio grym gan San Steffan. Mae'r Ceidwadwyr wedi dangos heddiw na ellir ymddiried ynddynt i sefyll dros Gymru.”