Dicter with i’r grant Brenhinol godi i dros £70 miliwn y flwyddyn

conference.jpg

Adnoddau naturiol Cymru i dalu am adnewyddu Palas Buckingham

Mae Plaid Cymru wedi disgrifio penderfyniad San Steffan i gynyddu’r grant Brenhinol fel un “anfad” ac mae wedi galw am ddatganoli Stad y Goron rhag blaen er mwyn sicrhau fod yr elw o adnoddau naturiol Cymru yn aros yng Nghymru.

Pleidleisiodd ASau heddiw i gynyddu’r hyn a elwir yn ‘grant sofran’ o 15% i 25% o elw Stad y Goron. Honna llywodraeth San Steffan y defnyddir yr arian i dalu am “ddyletswyddau swyddogol y Frenhines” ac adnewyddu Palas Buckingham.

Daw’r penderfyniad ddyddiau yn unig wedi i Ganghellor y Deyrnas Gyfunol wneud datganiad ar y Gyllideb oedd yn ymrwymo pobl Cymru a’r Deyrnas Gyfunol i ddegawd arall o lymder a rhoi’r baich trymaf o drethi ers cenhedlaeth ar bobl gyffredin.

Mae Stad y Goron yn berchen ar dir ac asedau yng Nghymru sy’n werth £100 miliwn gyda refeniw blynyddol o £10 miliwn. Cynigiodd ASau Plaid Cymru welliannau i Ddeddf Cymru San Steffan yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, i ddatganoli Stad y Goron i Gymru, fel y byddai’r sefyllfa’r un fath â’r un yn yr Alban. Gwrthod y gwelliannau hyn a wnaeth San Steffan.

Sylw llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, Jonathan Edwards, oedd:

“Ar adeg pan fo San Steffan yn gofyn i bobl gyffredin ysgwyddo’r baich trethi trymaf ers cenhedlaeth, mae bron i ddwblu’r grant Brenhinol i £70 miliwn yn sarhad ac yn beryglus. Yr hyn sy’n waeth yw y daw’r arian hwn o elw a wneir o Stad y Goron, sy’n cynnwys tir ac asedau yng Nghymru sydd yn nwylo’r Frenhiniaeth.

“Mae adnoddau naturiol Cymru yn cael eu defnyddio i adnewyddu Palas Buckingham. Mae’n ddigon drwg fod San Steffan yn gwrthod rhoi i bobl Cymru berchenogaeth dros eu hadnoddau eu hunain, ond mae defnyddio’r arian maen nhw wedi’i odro o’n hadnoddau ni i roi mwy fyth o arian i’r frenhiniaeth yn anfad ac yn sarhad dwfn ar bobl Cymru.

“Pwysodd Plaid Cymru am ddatganoli Stad y Goron ym Mesur Cymru ond gwrthodwyd hyn gan San Steffan, er ei fod wedi ei ddatganoli yn yr Alban. Does dim rheswm yn y byd pam na ddylai pobl Cymru gael perchenogaeth dros eu hadnoddau naturiol eu hunain.

“Hawdd y gall San Steffan ddweud wrth Gymru ein bod yn rhy fach a rhy dlawd, a hwythau ond yn rhy falch i odro elw o’n hadnoddau naturiol i fwydo eu pibelli dŵr ac i dalu am eu palasau.

“Mae’n bryd i Gymru gymryd ei dyfodol i’w dwylo ei hun. Mae’n amlwg nad yw San Steffan yn hidio taten am Gymru, a hyd nes i ni fynnu newid, bydd San Steffan yn parhau i drin Cymru yr un mor sarhaus.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.