'Sicrhau Dyfodol Llewyrchus i Ffermio Cymreig' - Simon Thomas

Simon_Thomas.jpg

Mae ffermio, a’r stiwardiaeth gynaliadwy ar gefn gwlad a ddaw yn ei sgil, yn un o gonglfeini Cymru annibynnol.

Rhaid i ni ofalu bod y diwydiant allweddol hwn, sydd yn darparu bwyd maethlon o safon uchel ac sy’n cadw rhyw 58,000 o weithwyr yn gofalu am ein hamgylchedd mewn modd cadarnhaol, a lle mae twristiaeth, busnesau bach a’n cymunedau yn ffynnu, yn gallu edrych at ddyfodol hyfyw.

Mae’n ganolog hefyd i unrhyw weledigaeth o Gymru ddwyieithog, neu filiwn o siaradwyr Cymraeg, o gofio mai amaethyddiaeth yw’r gweithle gyda’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg: 27%.

Mae’r dyfodol, wrth gwrs, yn dibynnu ar gael mewnlifiad o unigolion newydd wedi eu hyfforddi i safon uchel i mewn i’r diwydiant. Mae gwaed newydd yn dwyn syniadau newydd yn ei sgil i’r sector ac yn hyrwyddo sefydlu busnesau fferm cynaliadwy, proffidiol a gwydn yng Nghymru.

Pobl ifanc a newydd-ddyfodiaid sydd yn rhoi llawer o’r gwaed newydd hwn. Ac os ydym am gael unrhyw gyfle o ymaddasu a phlygu i wyntoedd dyfodol wedi Brexit, bydd angen i ni gael fflyd o bobl ifanc frwd ac ymrwymedig.

Yn anffodus, mae oedran cyfartalog ffermwyr yng Nghymru dros drigain – dim ond tri y cant sydd dan 35 oed.

Felly roeddwn yn awyddus i sicrhau y byddai unrhyw gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru dros y gyllideb yn rhoi rhywbeth i bobl ifanc mewn amaethyddiaeth. Rhwng 2010 a 2014 helpodd Plaid Cymru, trwy ein gweinidog, Elin Jones, dros 520 o pobl ifanc yn y diwydiant ffermio gyda chynllun gwerth £7m.

Dan fargen y gyllideb, fe wnes sicrhau £6m dros ddwy flynedd i gael cynllun newydd i helpu ffermwyr ifanc ymsefydlu. Dyma arwydd clir o ymrwymiad Plaid Cymru i’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr a’n cred yn y diwydiant fel un o gerrig sylfaen ein cenedl.

Byddaf yn cyfarfod ffermwyr ifanc, yr undebau ac eraill i gynllunio’r ffordd ymlaen. Rwy’n cychwyn y sgwrs hon ynghylch beth mae pobl eisiau o ran cynllun newydd-ddyfodiaid y mis nesaf gydag AC Dwyrain De Cymru Steffan Lewis yn y Fenni, a chyda chydweithwyr yn y Drenewydd pryd y byddwn yn trafod sut i greu Powys fwy cynaliadwy.

Gan ddenu doniau newydd i’r diwydiant ffermio a chefnogi mentrau newydd, bydd yn rhaid i’r cynllun asio gyda strategaethau bwyd a ffermio tymor-hir.

Gallai man-ddaliadau’r Cynghorau Sir fod yn ‘gam cyntaf’ ar yr ysgol i newydd-ddyfodiaid neu bobl ifanc. I’r perwyl hwn, dylid annog tenantiaid i symud ymlaen ac i fyny er mwyn rhyddhau’r ffermydd hyn i’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr.
Dros y blynyddoedd diwethaf, bu pryder cynyddol am nifer y daliadau cyngor a ‘gollwyd’ i newydd-ddyfodiaid trwy werthu ac uno. Credwn fod y dirywiad yn rhwydwaith ffermydd y Cynghorau Sir wedi golygu colli ased o bwys fyddai wedi annog pobl i mewn i’r diwydiant.
Er y carem yn ddelfrydol weld awdurdodau lleol yn ail-fuddsoddi mewn daliadau ym meddiant y cyngor, buasem yn annog yn gryf cadw’r daliadau sydd yn weddill, a’u gwella ar lefel leol trwy nodi ffyrdd i fireinio eu rheolaeth ledled Cymru.
Cryfder mawr rhwydwaith daliadau’r cyngor yw ei allu i ddarparu cyfleusterau cychwynnol o ran tir ac adeiladau ar rent gystadleuol fel y gall dechreuwyr adeiladu cyfalaf a phrofiad.
Mae cyrchu cyllid yn broblem o hyd i newydd-ddyfodiaid i ffermio, ac fe fyddwn yn ymchwilio i ffyrdd o annog ,mwy o gyfleoedd buddsoddi.
Gallai’r sector tenantiaid roi cyfleoedd pwysig i newydd-ddyfodiaid yng Nghymru ac yr ydym ni o’r farn y dylid annog tirfeddianwyr i osod mwy o dir allan am gyfnodau hwy ar gyfer ffermio, gan y gall cytundebau tenantiaeth gynnig ffordd bwysig i bobl fynd i mewn i’r diwydiant.

Os ydym am annog pobl ifanc i ddilyn gyrfa yn y diwydiant amaethyddol, rhaid i ni chwalu’r dybiaeth fod ffermio yn waith di-ddiolch, gyda chyflogau isel a’i fod yn sector gwaith llaw yn unig. Mae’n waith caled, yn sicr, ond mae hefyd ar flaen y gad o ran arloesedd a thechnoleg. Roboteg, cynaeafu ynni adnewyddol, bioamrywiaeth, twristiaeth, hydroponeg, garddwriaeth, lles anifeiliaid o safon uchel: bydd angen manteisio ar y rhain oll a mwy gan y genhedlaeth nesaf o ffermwyr. Bydd angen i’n hysgolion, ein colegau a’n prifysgolion i fod yn rhan o ddatblygu a chynnal y sgiliau yn y meysydd hyn.

Mae sgiliau busnes a rheoli hefyd yn hanfodol i’r sawl sy’n dod i mewn i’r sector ac y maent yn angenrheidiol o ran datblygu proffesiynol parhaus. Gall mentora hefyd chwarae rhan bwysig mewn hyfforddi a datblygu, a gall helpu newydd-ddyfodiaid i adeiladu busnesau llwyddiannus a datblygu eu galluoedd busnes.

Rwy’n awyddus i unrhyw un sydd yn ymddiddori ym muddiannau amaethyddiaeth Cymru i gysylltu fel y gallwn ddyfeisio’r cynllun gorau i newydd-ddyfodiaid.

Rhan o’m gweledigaeth am Gymru gynaliadwy, annibynnol yw i ni fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf yn awr, gan mai hwy fydd yn adeiladu ac yn datblygu ein hadnoddau naturiol cyfoethog ac yn gwneud hynny mewn ffordd fydd yn batrwm i’r byd.


 

Dewch i sgwrsio gyda mi am ddyfodol ffermio yn y digwyddiadau canlynol:

Tachwedd 20, Pen-Y-Pound, Y Fenni 7pm: https://www.facebook.com/events/155534908520736/ 

Tachwedd 24, Elephant & Castle, Y Drenewydd, 2pm: https://www.facebook.com/events/1979434998993469/ 

Bydd cyfarfodydd ym Mhorthmadog ac Aberteifi hefyd yn cael eu cyhoeddi'n fuan.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.