Cymru’n cael ei “llyffetheirio” gan San Steffan, medd y Blaid

conference.jpg

Mae Plaid Cymru wedi mynnu y dylai Cymru gael ei “rhyddhau o lyffetheiriau San Steffan” fel y gall ei heconomi dyfu.

Dywedodd llefarydd y blaid ar y trysorlys, Jonathan Edwards, fod gwaddol San Steffan yn gwneud Cymru yn un o ranbarthau tlotaf Cymru tra bod Llundain fewnol wedi dod yn un o’r cyfoethocaf, ac addawodd i ymladd “i’r eithaf” petai’n cael ei ail-ethol ym mis Mehefin, am i Gymru gael ei “rhyddhau o lyffetheiriau San Steffan” a chael ei chaniatáu i ail-godi ei heconomi.

Dywedodd Mr Edwards fod pobl yng Nghymru yn dioddef cyflogau is a safon byw mwy heriol na’u cymdogion yn Lloegr a’r Alban o ganlyniad i fethu a thyfu ei heconomi ei hun. Dywedodd fod Cymru wedi ei “llyffetheirio” gan San Steffan, yn dibynnu ar wleidyddion Torïaidd sy’n cynrychioli etholaethau y tu allan i Gymru i wneud penderfyniadau dros Gymru.

Dywedodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, sy’n sefyll i gael ei ail-ethol ym mis Mehefin, fod yn rhaid i Gymru gael y rhyddid i “ddatrys ei phroblemau ei hun”.

Yn ei sylw, dywedodd AC Plaid Cymru Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards:

“Mae gwaddol San Steffan yn gwneud Cymru yn un o’r tlotaf o genhedloedd a rhanbarthau Ewrop tra bod Llundain fewnol wëid tyfu i fod yn gyfoethocaf na’r un.

“Pa mor hir y bydd yn rhaid i ni oddef gorfod gofyn i San Steffan adeiladu ffyrdd a rheilffyrdd yng Nghymru yn ogystal â Lloegr? Pa mor hir y gwnawn ni oddef gorfod gofyn i San Steffan gefnogi allforwyr a chynhyrchwyr Cymru, yn ogystal â sector bancio Llundain? Y gwir yw na fydd yr un AS yn San Steffan sy’n cynrychioli etholaethau y tu allan i Gymru fyth yn gweld anghenion Cymru fel blaenoriaeth.

“Mae pobl ledled Cymru yn dioddef cyflogau is a safon gwaeth o fyw nac yn unman arall yn y Wladwriaeth Brydeinig. A oes ryfedd yn y byd, a ninnau’n gweld biliynau o arian y trethdalwyr yn cael eu gwario ar brosiectau fel HS2 a Crossrail, pan na all pobl Cymru hyd yn oed deithio o ogledd i dde ein gwlad ein hunain ar drên heb orfod ei gadael?

“Os ydym am i’n heconomi dyfu, ein cyflogau i godi a’n safon byw i wella, rhaid i ni wneud hynny ein hunain. “Rhaid i ni fynnu bod Cymru’n cael ei rhyddhau o lyffetheiriau San Steffan fel y gallwn ddatrys y problemau a anwybyddwyd gan San Steffan a dechrau adeiladu ein gwlad i fod y genedl y dylai fod.

“Does dim rhaid ni oddef cyflogau isel. Gallwn fynnu ein bod yn cael y cyfrifoldeb i dyfu ein heconomi ein hunain, gan osgoi biwrocratiaeth San Steffan. Os na wnaiff San Steffan drydaneiddio ein rheilffyrdd yna fe wnawn ni hynny, ac os yw San Steffan eisiau gwario holl arian y trethdalwyr yn un gornel o Loegr, yna gallant ganiatáu i ni wneud ein buddsoddiadau ein hunain yng Nghymru.

“Mae’n hen bryd i Gymru gymryd rheolaeth dros ei dyfodol ei hun a rhoi’r gorau i ddibynnu ar sefydliad biwrocrataidd San Steffan na fydd fyth yn ystyried buddiannau Cymru.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.