Rhaid i Brydain ddilyn yr UDA a rhoi diwedd ar werthu arfau i Sawdi Arabia

conf_dark.jpg

Mae Plaid Cymru wedi ymateb i'r newyddion fod yr Unol Daleithiau wedi rhoi diwedd ar werthu arfau i Sawdi Arabia.

Wrth ymateb i'r newyddion fod yr Unol Daleithiau wedi rhoi diwedd ar werthu arfau i Sawdi Arabia, dwedodd arweinydd Grwp San Steffan Plaid Cymru, Hywel Williams AS:

“Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu ers blynyddoedd i rhoi diwedd ar werthu arfau Prydeinig i Saudi Arabia ac mae ein gwaith yn y gorffennol wedi datgelu mai llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wnaeth hyfforddi milwyr Saudi Arabia oedd yn gysylltiedig âg erchyllteroedd yn y gorffennol.

“Rwyf yn croesawi’r ffaith fod llywodraeth Obama wedi cymryd y penderfyniad cywir yma ac mae hi’n hanfodol nawr fod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn dilyn yr un trywydd ac yn terfynu eu busnes gwerthu arfau i’r wlad ormesol, annemocrataidd yma.

“Mae pobl diniwed yn cael eu lladd yn Yemen gan fomiau cafodd eu cynhyrchu ym Mhrydain. Mae hi’n hynod rhagrithiol o San Steffan i drafod poen a’r dioddefaint pobl diniwed ar draws y Dwyrain Canol wrth iddynt barháu i fwydo llywodraethau o’r math yma.

“Mae pobl yn cael eu lladd oherwydd bomio diwahân ar dargedau gwan megis ysbytai a chartrefi gan luoedd arfog Saudi Arabia a’i chyngrheiriaid yn defnyddio arfau â werthwyd iddynt gan y Deyrnas Gyfunol.

“Mae rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ddilyn yr Unol Daleithiau a rhoi’r gorau i werthu arfau i Saudi Arabia.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.