Arafwch y llywodraeth wrth gyflwyno safonau iaith yn “warthus”

Dylai fod gan bobl yr hawl i ofal gan meddyg teulu yn y Gymraeg, yn ôl lefarydd Plaid Cymru

00_Sian_Gwenllian_AC.jpg

Mae Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg Sian Gwenllian wedi beirniadu’r llywodraeth am fod yn araf wrth gyflawni safonau iaith ar wahanol gyrff sector cyhoeddus Cymru.

Nododd Sian Gwenllian fod chwe mlynedd wedi pasio ers cyflwyno’r deddfwriaeth ar yr iaith Gymraeg, ond hyd yn hyn dim ond nifer cyfyngedig o gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu’r safonau. Dydwedodd ei fod hi’n warthus nad oes mwy o gynydd wedi ei wneud ar ol i rai adroddiadau eistedd ar ddesg y gweinidog ers blynyddoedd.

Dywed fod arwyddion fod y Llywodraeth ar fin cyhoeddi’r safonau ar y maes iechyd, ond dydy’r Llywodraeth dal heb wneud cynnydd ar gymdeithasau tai ac ar gyfer cyhoeddi safonau i’r sectorau ynni, dŵr, telathrebu, a thrafnidiaeth.

Mynegodd Sian Gwenllian hefyd ei siom fod meddygon teulu heb gael eu cynnwys yn yr hawliau iaith ar gyfer y sector iechyd, gan ddweud y dylai fod gan bobl hawl i gael gwasanaethau sylfaenol yn y Gymraeg.

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg Sian Gwenllian:

“O’r diwedd mae rheoliadau fydd yn arwain at gryfhau a diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg yn y maes iechyd ar fin eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, gobeithio – bron i ddwy flynedd a hanner ers i Gomisiynydd y Gymraeg eu cyflwyno i’r Llywodraeth a phum mlynedd ers cyhoeddi strategaeth ‘Mwy Na Geiriau’ Llywodraeth Cymru oedd a nod o gryfhau gwasanaethau Cymraeg yn y maes iechyd.

“Mae arafwch y Llywodraeth hon wrth gyflwyno safonau ar wahanol gyrff yn warthus. Rhaid gofyn pam yr arafwch o du’r llywodraeth a rhaid cwestiynu parodrwydd y llywodraeth i ddeddfu o blaid y Gymraeg er gwaetha’r ymrwymiad i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Rydym yn dal i ddisgwyl cyhoeddi safonau ym maes tai a’r sectorau sectorau ynni, dŵr, telathrebu, a threfnidiaeth. Hyd yma, 6 mlynedd ers pasio’r ddeddfwriaeth, dim ond nifer cyfyngedig o gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu’r safonau iaith.

“Er fod arwyddion fod y safonau iechyd ar fin eu cyflwyno o’r diwedd yn dilyn pwyso gan Blaid Cymru, mae’n siomedig nad fyddent yn cynnwys meddygon teulu. Mae hawl i bobol gael gwasanaeth meddyg teulu yn y Gymraeg yn allweddol, ac fe ddylai’r gweinidog ailystyried hyn.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.