Ni ddylai dyfodol S4C “orwedd yn nwylo San Steffan”

Ben_Lake_2.jpg

Plaid Cymru yn galw am ddatganoli’r darlledwr Cymraeg

Dylai’r cyfrifoldeb dros y darlledwr Cymraeg S4C gael ei drosglwyddo o San Steffan i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, medd Plaid Cymru.

Wrth ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Prydain ar S4C, dywed Plaid Cymru y gallai penderfyniadau ynghylch cyllido S4C arwain at “ergyd drom i obeithion yr iaith i oroesi a ffynnu” a galwodd am i benderfyniadau o’r fath gael eu gwneud yng Nghymru.

Argymhellodd yr adroddiad trawsbleidiol ar ddatganoli yng Nghymru, sef Adroddiad Silk, ddatganoli S4C i Gymru, gan ddweud ei bod yn “anghyson” fod y grym i gyllido darlledu cyhoeddus S4C yn gorwedd gyda llywodraeth y DG yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Mae’r Sefydliad Materion Cymreig a Chanolfan Llywodraethiant Cymru hefyd wedi galw ar i’r cyfrifoldeb orwedd gyda’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn hytrach na Steffan.

Yn ei sylw, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Ben Lake AS:

“Os ydym yn siarad yr iaith neu beidio, gallwn oll ymfalchïo yn y ffaith ei bod wedi goroesi, yn erbyn yr holl anawsterau, a’i bod yn parhau i ffynnu heddiw .

“Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg, ac y mae hynny’n iawn, ond does ganddyn nhw ddim llais dros S4C sef, o bosib, yr erfyn mwyaf pwerus i’w hyrwyddo.

“Aeth S4C a’i gwasanaethau trwy gyfnod poenus o ansefydlogrwydd ariannol. Gallai penderfyniadau am ei chyllido fod yn ergyd drom i obeithion yr iaith i barhau i oroesi a ffynnu.

“Ni ddylai penderfyniadau mor dyngedfennol fod yn nwylo San Steffan – gyda gwleidyddion sydd yn aml heb unrhyw gefndir na theimlad dros y materion sy’n ymwneud a’r iaith. Ni ddylai pobl yng Nghymru gael eu clymu gan benderfyniadau a wnaed yn San Steffan ynghylch yr unig lwyfan cyfryngol lle gallant gyrchu gwasanaethau yn eu hiaith eu hunain.

“Mae S4C yn bwysig i Gymru yn ddiwylliannol, economaidd ac hyn ieithyddol. Mae’n rhan o’n treftadaeth a’n hanes. Dyw hi ond yn iawn i bobl Cymru a’u cynrychiolwyr etholedig bennu ei dyfodol, nid gwleidyddion San Steffan sy’n cynrychioli gwlad arall.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.