Methiannau'r system gyfiawnder i amddiffyn dioddefwyr cam drîn yn y catref, yn ôl adroddiad Plaid Cymru

21900295953_ebbe837588_o.jpg

Mae adroddiad newydd ei ryddhau gan Blaid Cymru a Voice4Victims wedi datgelu methiannau difrifol gan y system gyfiawnder o ran amddiffyn dioddefwyr stelcian, aflonyddu, cam-drin yn y cartref ac ymddygiad gorfodi.

Mae’r adroddiad yn amlinellu ymchwil a wnaed gan y blaid i archwilio er mwyn gweld pa mor aml yr oedd cyswllt arlein contact a hawliadau trafferthus yn y llysoedd yn digwydd gan y sawl gyflawnodd droseddau ymhlith dioddefwyr stelcian, aflonyddu, cam-drin yn y cartref ac ymddygiad gorfodi.

Canfu arolwg o 122 oedd wedi dioddef troseddau fel hyn mai dim ond 52% gafodd orchymyn atal yn erbyn cyflawnwr y troseddau yn eu herbyn.

Er mor gyffredin yw cyfathrebu ar-lein trwy gyfryngau cymdeithasol, e-byst a dulliau anfon negeseuon, yr oedd dau ran o dair o’r Gorchmynion Atal a roddwyd yn erbyn cyflawnwyr y troseddau heb eu gwahardd yn benodol rhag cysylltu â’r dioddefwyr ar-lein. O ganlyniad, cysylltwyd â thros hanner y dioddefwyr arlein o leiaf unwaith gan y sawl a gafwyd yn euog o’i stelcian neu aflonyddu arnynt, gyda thros chwarter o’r dioddefwyr wedi cael cyswllt fwy na theirgwaith.

Cafwyd mai isel iawn oedd boddhad â’r modd y triniodd yr heddlu â chyswllt arlein gan gyflawnwyr y troseddau, gyda 65% o ddioddefwyr yn creu bod y gwasanaeth a roddwyd gan yr heddlu yn ‘Wael’ neu yn ‘Wael Iawn’.

Yr oedd un o’r dioddefwyr fu’n rhan o’r ymchwil, Julie, wedi dioddef cael ei stelcian a chafwyd gorchymyn atal yn erbyn cyflawnwr y drosedd oedd yn ei atal yn benodol rhag cysylltu â hi arlein. Ar waethaf hyn, cysylltodd â hi arlein fwy na thair gwaith. Er i’r heddlu ymchwilio mi’r achos hwn fel achos clir o dorri’r gorchymyn atal, teimlai fod y gwasanaeth a roddwyd gan yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron yn wael iawn.

Adolygydd yr adroddiad hefyd brofiad dioddefwyr o hawliadau llys trafferthus a gychwynnwyd gan gyflawnwr y troseddau yn eu herbyn, sy’n cael ei alw yn gamddefnyddio’r broses. Canfu’r dadansoddiad fod camau cyfreithiol wedi eu cymryd yn erbyn 55% o ddioddefwyr gan y sawl a gafwyd yn euog o’u camdrin, er bod gorchymyn atal yn ei le. O ganlyniad, rhaid oedd i 64% o ddioddefwyr trais yn y cartref, stelcian a rheolaeth trwy orfodi ymddangos yn y llys, gyda thraean o’r dioddefwyr bregus hyn neu rai mewn perygl mawr wedyn yn cael eu croesholi gan y sawl a gyflawnodd y drosedd yn eu herbyn.

Cymerodd ail ddioddefwr, Matt, orchymyn atal yn erbyn ei gyn-gymar a gafwyd yn euog o aflonyddu arno. Ar waethaf hyn, cymerodd cyflawnwr y drosedd gamau cyfreithiol yn ei erbyn yn y llys sifil, llys teulu ac mewn tribiwnlys. Rhaid oedd i Matt wedyn ymddangos yn y llys a chafodd ei groesholi gan gyflawnwr y drosedd. Gwnaed adroddiad i’r heddlu am hyn fel tor-gorchymyn, ond nid wnaed dim.

Wrth weithio ochr yn ochr â’r elusen sy’n cefnogi dioddefwyr, Voice4Victims, daeth Plaid Cymru i’r casgliad nad oes gan Orchmynion Atal ddigon o sancsiynau ynghlwm a hwy i atal eu torri arlein a chamddefnyddio’r broses trwy’r llysoedd. Mae’n sefyllfa annigonol hon yn achosi mwy o loes, niwed a dioddefaint meddyliol i ddioddefwyr.

Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys cyflwyno rhagdybiaeth o garcharu am dorri Gorchmynion Atal dro ar ôl tro, ac i bob cyswllt trwy’r llysoedd rhwng cyflawnwr y drosedd a dioddefwr i’w gyfeirio at yr heddlu fel torri gorchymyn atal gan y llysoedd.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder, Liz Saville Roberts, y bydd yn cyflwyno Mesur Aelod Preifat i drin y materion hyn os caiff ei hail-ethol i’r Senedd ym mis Mehefin.

Dywedodd Liz Saville Roberts:

“Rhaid oedd i ni wneud yr ymchwil hwn i ddarganfod y profiadau roedd dioddefwyr yn eu cael gyda Gorchmynion Atal wedi i ni dderbyn fflyd o achosion lle cafodd pobl loes trwy ddigwyddiadau lle’r oedd cyflawnwyr y troseddau yn eu herbyn yn rhan.

“Cawsom fod y sefyllfa’n waeth o lawer na’r disgwyl, a daeth yn amlwg fod gwallau difrifol yn y system cyfiawnder troseddol a methiannau difrifol gan y cyrff cyfiawnder troseddol. Rhaid i’r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a’r holl gyrff eraill sy’n gweithio gyda dioddefwyr trosedd fod yn atebol dan y gyfraith os methant â chydymffurfio â Chôd y Dioddefwyr a bod eu gwasanaeth yn is na’r safon.

“Mae Plaid Cymru wedi gweithio’n llwyddiannus iawn gyda Voice4Victims i wella hawliau dioddefwyr yn y gorffennol; y cam nesaf yw diwygio Gorchmynion Atal fel eu bod yn gweithio i’r bobl sydd eu hangen, gan sicrhau eu bod yn atal cyswllt trwy drydydd partïon neu trwy geisiadau trafferthus i’r llysoedd sifil neu lysoedd teulu. Byddaf yn cyflwyno Mesur i’r perwyl hwn os caf fy ail-ethol i’r Senedd.”

Ychwanegodd Harry Fletcher, Cyd-Gyfarwyddwr Voice4Victims:

“Gwelodd Voice4Victims gynnydd aruthrol yn nifer y cyflawnwr troseddau yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn eu dioddefwyr, er mwyn eu niweidio yn emosiynol a pharhau â chyswllt nad yw’r dioddefwr yn ei ddymuno. Dylid gosod dyletswydd ar gyflawnwyr y troseddau i hysbysu’r llys o fodolaeth unrhyw euogfarnau troseddol neu Orchmynion Atal, a hawl i ddioddefwyr ddod ag unrhyw euogfarnau i sylw’r llys. Hefyd, dylai Gorchmynion Atal wahardd cyswllt trwy’r llysoedd sifil a theulu heb ganiatâd y Barnwr Ardal.”

Dywedodd Claire Waxman, Sylfaenydd Voice4Victims ac un a ddioddefodd stelcian ei hun, gan fod â phrofiad personol gyda chamddefnyddio proses:

“Pan nad yw Gorchmynion Atal yn cael eu gorfodi neu pan gânt eu hanwybyddu gan yr heddlu a’r llysoedd, mae hyn yn cael effaith andwyol tymor-hir ar y dioddefwr. Nid yw’n dderbyniol fod yr heddlu, GEG a’r llysoedd yn gadael dioddefwyr mewn perygl o wynebu’r math hwn o gam-drin sy’n cael ei oddef gan y wladwriaeth.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.