Plaid Cymru ar genhadaeth i ail-gydbwyso Cymru - Leanne Wood

00_Leanne_Wood_AC.jpg

Mae Plaid Cymru ar genhadaeth i ail-gydbwyso Cymru - dyna fydd y neges heddiw gan arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wrth iddi annerch cynhadledd wanwyn y blaid yng Nghasnewydd

Mae disgwyl i Aelod Cynulliad y Rhondda ddweud mae ymateb i anghydraddoldeb rhanbarthol yw’r sialens fwyaf sy’n gwynebu’r Gymru fodern.

Wrth annerch cynhadledd wanwyn ei phlaid yng Nghasnewydd, disgwylir i Aelod Cynulliad y Rhondda ddweud bod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol yn un o'r sialensiau mwyaf sy'n wynebu'r Gymru fodern.

Bydd hi’n dweud fod y Llywodraeth Lafur yng Nghymru wedi gwneud yr un camgymeriad â Llywodraeth y DU trwy feithrin "canolfan gorgynnes ar draul pob man arall."

Bydd hi’n dweud nad yw swyddi, cyfoeth a ffyniant yn cael eu gwasgaru'n gyfartal ar draws Cymru ac fod Plaid Cymru yn benderfynol o wneud rhywbeth am y peth.

Disgwylir i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC ddweud:

"Byddai Plaid Cymru yn sicrhau fod pob rhan o Gymru yn cael y cyfle i lwyddo. Mae’r cynlluniau sy'n bodoli eisoes yn brin o’r uchelgais sydd ei angen i ail-gydbwyso’r economi.

"Yn y gornel hon o Gymru- y de-dwyrain – mae gobeithion mawr yn cael eu rhoi ar fargen Dinas-ranbarth sy'n lledaenu pot bach o arian ymhlith hanner awdurdodau lleol ein gwlad, a hanner ein poblogaeth.

"Ni fydd hynny'n ailgydbwyso'r economi. Dyw hyn ddim yn ddigon da. Roedd gan Lywodraeth Cymru gyfle i ddangos eu bod yn awyddus i ail-gydbwyso Cymru gydag Awdurdod Refeniw Cymreig newydd.

"Cafodd Porthmadog a Wrecsam eu hanwybyddu, er bod ganddynt 400 o weithwyr treth presennol rhyngddynt. Bydd yr Awdurdod Refeniw yn sefydliad cymharol fach, gyda dim ond 40 o swyddi i ddechrau.

"Ond bydd y nifer o swyddi yn tyfu, a byddai hyd yn oed deugain o swyddi wedi gwneud llawer mwy o effaith mewn tref llai.

"Fel mai’n sefyll, mae'r penderfyniad wedi ei wneud i leoli’r corff yn Nhrefforest. Pan wnes i alw am gynifer o'r swyddi hynny â phosibl i gael eu llenwi gan bobl lleol, beth oedd ateb y Prif Weinidog?

"Y bydd y rhan fwyaf o'r swyddi yn mynd i arbenigwyr o Llundain. Nad oes gennym y sgiliau yma.
"Wel, pan fyddwch yn gyfrifol am sgiliau, tydi hynny yn dweud y cyfan? Gynhadledd, mae hynny’n dangos diffyg uchelgais Llafur i Gymru?"

Mae disgwyl iddi ychwanegu: "Mae Plaid Cymru, drwy wneud Cymru'n fwy cyfartal, yn anelu tuag at uno'r wlad. Anghydraddoldeb yw'r hyn sy’n rhannu pobl a rhanbarthau.

"Dyna pam ein bod ar genhadaeth i ail-gydbwyso Cymru. Ac rydym wedi dechrau yn barod. Rydym wedi rhoi'r cyswllt rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth ar yr agenda, gan sicrhau fod astudiaeth dichonoldeb o £300,000 yn dod â hi yn nes at gael ei gwireddu.

"Ar ôl ei chwblhau, bydd Plaid Cymru wedi sicrhau'r rheilffordd fwyaf arwyddocaol yng Nghymru ers toriadau Beeching yn y 1960au. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gael sicrwydd o hyn.

"Yn ne-ddwyrain Cymru, rydym yn pwyso am y fargen Ddinas-ranbarth i gynnwys buddsoddiad gwarantedig yn yr hen gymunedau glofaol, a rôl ddynodedig arbennig ar gyfer Casnewydd. Rydym wedi dweud y dylai gwaith ddechrau ar y pwyntiau hynny sydd bellaf i ffwrdd o'r canol.

"Nid ydym yn cefnogi bargen ddinesig sydd tynnu mwy o bobl a hyd yn oed mwy o drafnidiaeth mewn i Gaerdydd, ble mae cynghorwyr Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn tagfeydd a gor-ddatblygiad.

"Byddwn yn cefnogi Bargen ddinesig sy'n rhannu'r cyfoeth. Rydym am i'r Admiral nesaf, y stori o lwyddiant Cymreig nesaf, i gael ei bencadlys yn rhywle fel Aberdâr, Treherbert neu Maerdy.

“Rydym yn gweld hyn fel ffordd o roi dyfodol i’r bobl yn ein hardaloedd diwydiannol i’r gogledd o’r M4. Ar y funud, mae gennym Gymru heb falans. Cymru anghyfartal.

"Gall unrhyw un sy'n teithio o amgylch y wlad hon weld drostynt eu hunain y problemau sydd gennym gydag ein seilwaith drafnidiaeth. Mae gormod o bobl yn dal i fod heb gyswllt band eang.

"Nid yw swyddi, cyfoeth a ffyniant yn cael eu gwasgaru'n gyfartal ar draws y wlad. Rwy’n clywed yr un teimladau o esgeulustod yn y maes glo ag yr wyf yn ei glywed yn y Drenewydd a Wrecsam, ym Mhorthmadog a Bangor.

"Yn San Steffan o dan y Torïaid mae cyfoeth yn cael ei ailddosbarthu'n anghywir - Robin Hood tu chwaith.

"Ac mae'r un peth yn digwydd yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth Lafur yn ail-greu'r broblem o ganolfan gorboethi ar draul pobman arall.

"Mae Plaid Cymru yn darparu dewis arall. Byddem yn rhannu cyfoeth a buddsoddiad ar draws y wlad a gwneud yn siŵr nad oes dim un cymuned yn cael ei gadael ar ei hôl."

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.