Mae Leanne Wood AC, Arweinydd Plaid Cymru, wedi addo heddiw y byddai llywodraeth Cymru dan ei harweiniad yn dangos 'uchelgais digynsail' i gryfhau sefydliadau democrataidd y genedl a sicrhau pwerdy o senedd i Gymru.
Wrth nodi Dydd Gwyl Dewi a phum mlynedd i'r wythnos ers refferendwm 2011 ar bwerau deddfu i Gymru, dywedodd Leanne Wood fod setliad datganoli presennol Cymru 'yn anghyfiawn, aneglur ac anghynaliadwy.' Dywedodd hi fod llywodraethau ar ddau ben yr M4 wedi methu a sicrhau cytundeb teg a pharhaol i Gymru a bod oedi wrth gyflwyno'r Mesur Cymru diweddaraf yn atal cynnydd y genedl.
Ychwanegodd hi y byddai cynlluniau Plaid Cymru'n gweld Cymru'n cael cynnig yr un pwerau a'r rhai sy'n cael eu trosglwyddo o San Steffan i'r Alban a Gogledd Iwerddon er mwyn datrys natur anghytbwys tirlun cyfansoddiadol y DG.
Dywedodd Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru:
"Mae pum mlynedd ers refferendwm 2011 ar bwerau deddfu i Gymru yn gyfle da i ystyried pa gynnydd sydd wedi ei wneud ar sichrau Cynulliad Cenedlaethol cryfach a mwy atebol.
"Credai Plaid Cymru fod gan Gymru nawr setliad datganoli anghyfiawn, aneglur ac anghynaliadwy. Mae llywodraethau Llafur a Thoriaidd ar ddau ben yr M4 wedi methu a sicrhau cytundeb teg a pharhaol ar fwy o bwerau i'n cenedl - ffactor sy'n atal datblygiad economaidd ac aeddfedrwydd ein democratiaeth.
"Yn ein dogfen 'Dod A'n Llywodraeth Adref', amlinellodd Blaid Cymru gynlluniau i ailfframio setliad datganoli Cymru er mwyn sicrhau cydraddoldeb adnoddau a chyfrifoldebau gyda gwledydd eraill y DG. Ni yw'r unig blaid sydd wedi ymrwymo i herio San Steffan i gynnig yr un pwerau i'n gwlad a'r hyn sydd ar gynnig i'r Alban a Gogledd Iwerddon.
"Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau pwerdy o senedd i Gymru. Byddwn yn dangos uchelgais digynsail i gryfhau ein sefydliadau democrataidd, a sicrhau pwerau defnyddiol ac ystyrlon.
"Nid yw hyn yn fater o geisio pwerau jysd er mwyn cael pwerau, ond yn hytrach bwerau gyda phwrpas - i ddatblygu'r economi Gymreig, i sicrhau Cynulliad Cenedlaethol mwy atebol, ac i wella bywydau pobl o ddydd i ddydd yn nhermau gwell gwasanaethau cyhoeddus a system gyfiawnder fwy effeithiol.
"Am lawer rhy hir rydym wedi dioddef dan lywodraeth Llafur a Cheidwadol yn San Steffan sydd wedi dangos prin dim awydd na brwdfrydedd i sicrhau'r math o ddatganoli y mae pobl Cymru am ei weld. Gyda mwyafrif yn ffafrio'n cenedl yn cael mwy o ddweud dros ei materion ei hun, mae'n bryd i lywodraeth y DU barchu ewyllys pobl Cymru.
"Nid yw newid drafft Mesur Cymru yn hwyr yn y dydd yn ddigon da. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai Cymru gael yr un setliad datganoli a'r Alban a Gogledd Iwerddon. Rhaid i hyn fynd law yn llaw gyda threfniant cyllido teg i gymryd lle'r Fformiwla Barnett gwallus, er mwyn datrys y ffaith fod San Steffan wedi gadael Cymru ar ei cholled yn hanesyddol.
"Fel yr unig blaid sy'n fodlon gweithio dros Gymru i gael y pwerau y mae eu hangen i sefyll ar ei thraed ei hun, mae Plaid Cymru'n cynnig y newid sydd ei angen fis Mai."