'I droi at bethau ymarferol: beth sydd i’w wneud?' - Erthygl Adam Price ar Tata Steel

26004689405_c588377a1b_z.jpg

Nid gor-ddweud yw awgrymu, ers cyhoeddiad Tata ddydd Mawrth, fod Cymru mewn stad o argyfwng economaidd. Gyda’r gadwyn gyflenwi gyfan wedi’i chynnwys, mae bron cymaint o swyddi mewn perygl ag oedd mewn perygl yn ystod Streic y Glowyr a barodd flwyddyn.

Ni yw’r genedl fwyaf dwys ym maes dur yn Ewrop, gyda 20% o’n sector gweithgynhyrchu mewn metalau. Byddai colli dur Cymreig yn ergyd debyg i’r DG yn colli ei diwydiant ceir, deirgwaith drosodd. Yn llythrennol, allwn ni ddim gadael i hyn ddigwydd.

Y tro diwethaf i’r fwyell hongian dros Port Talbot, yng nghanol streic dur 1980, erfyniodd y diweddar wleidydd Llafur T.W. Jones, gan gyfeirio at y Bleidlais Na y flwyddyn cynt, ar y Llywodraeth i “drefnu Refferendwm arall....Gadewch i ni gael Cynulliad Cymreig, lle gall ein cynrychiolwyr ni ein hunain drafod ein problemau penodol a chynnig ein hatebion ein hunain i’r Llywodraeth.”

Goroesodd Port Talbot, ac yn y pen draw, fe gawsom ein Cynulliad. Mae galw’r Cynulliad yn ôl ar ddydd Llun yn gyfle i ni brofi ei fod yn werth ei gael, a bod atebion Cymreig i broblemau Cymreig yn fwy nac ymadrodd gwleidydd.

I droi at bethau ymarferol: beth sydd i’w wneud? I raddau, mae pawb nad ydynt eto wedi gweld y cynllun trawsnewid yn y tywyllwch i raddau: os na allwn gael gafael ar y gwreiddiol, yna mae angen i ni gomisiynu un ein hunain. Ond mae’r bras-amlinelliad eisoes yn gyhoeddus - buddsoddiad cychwynnol o ryw £100m i gadw pethau’n wastad ym Mhort Talbot, ynghyd â chyfalaf gweithio i dalu am golledion gweithredu.

Mae’n debyg bod y rhain eisoes yn llai na’r na’r achos-gwaethaf o £1m y dydd sy’n cael ei ddyfynnu mor aml, wrth i gyfuniad o gynnydd graddol ym mhrisiau dur ledled y byd ers cwymp mis Tachwedd, cwymp yn y gyfradd gyfnewid a’r swyddi a grybwyllwyd eisoes yn cael eu colli yn dechrau taro.

Byddai £1 biliwn ychwanegol o fuddsoddiad (cyfuniad, efallai, o bwerdy newydd, gwaith BOS newydd, buddsoddiad mewn ffwrnais chwyth, gwaith pelennu mwyn haearn, etc) yn creu sylfaen am ddyfodol cynaliadwy tymor-hir, yn ôl y rheolwyr lleol, y gweithlu a’r ymgynghorwyr - er nad oedd y gymhareb risg/elw yn amlwg yn ddigon i argyhoeddi Bwrdd Tata.

Prin fod Tata, wrth roi eu rhesymau dros wrthod y cynllun, wedi gwneud y cais am brynwr preifat yn hawdd iawn. Nid yw disgrifio’r cynllun trawsnewid fel un “anfforddiadwy, peryglus ac... ansicr iawn o gyflwyno” yn union yn brosbectws deniadol. Gall hyn newid wrth i rai o’r ffactorau cylchol a ddyfynnwyd gan Tata wrth amddiffyn eu penderfyniad leihau. Ond yn y tymor byr i ganol, gall y Llywodraeth yn wir gymryd yr arweiniad, oherwydd y gall gymryd agwedd fwy tymor-hir ac ehangach na rhywun o’r sector preifat.

Er y dylai’r dwy lywodraeth yn amlwg fod yn rhan o hyn, mae diddordeb Cymru mewn cynnal diwydiant dur cynhenid yn fwy na strategol – mae’n ddirfodol. Buasai’n ddoeth i ni osgoi Mumbai arall lle’r oeddem yn sylwedyddion goddefol heb sedd wrth y bwrdd. Petaem yn cael pethau’n iawn, gallai’r argyfwng presennol hyd yn oed fod yn gyfle.

Byddai gan Gwmni Dur Cymreig, bron yn unigryw i genedl o’n maint ni, bortffolio cyflawn o gynhyrchu dur i gynhyrchion gwerth-uchel, uwch-dechnegol yn is i lawr y llinell gynhyrchu. Dylem osgoi ar bob cyfrif gael y gweithfeydd mwyaf proffidiol ac uwch-dechnegol yn cael eu cymryd drosodd tra bod Port Talbot yn cael ei lluchio ar domen enfawr.

Sut i dalu am hyn? Mae Llywodraeth Cymru yn honni nad oes arian ar gael, ond roedd ganddynt, mae’n ymddangos, gannoedd o filiynau o bunnoedd wedi eu cadw’n ddiogel fel ‘cist ryfel’ o arian wrth gefn heb ei neilltuo ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol. Yn hytrach na’i ddefnyddio i dalu am ddiswyddo uwch-reolwyr llywodraeth leol, beth am ei ddefnyddio yn hytrach i osgoi colli swyddi gweithwyr dur, gan brynu cyfran ecwiti i ddinasyddion Cymru mewn Cwmni Dur Cymreig newyd?

Os, am ba bynnag reswm, nad yw hynny ar gael fel ffynhonnell arian, yna byddai cyllideb gynyddol niwlog Adran Economi Llywodraeth Cymru a rhaglen gyfalaf nad yw’n cael ei defnyddio ddigon yn ddewis arall. Gallai Llywodraeth y DG gyfatebu unrhyw fuddsoddiad gyda benthyciad tymor-hir yn cael ei ad-dalu yn unig pan ddaw’r cwmni yn broffidiol – dyw hyn ddim yn afresymol oherwydd am bob £1 o gyfoeth a grewyd yn Tata fod y Trysorlys yn cael rhyw 36c beth bynnag mewn treth, cyfraniadau yswiriant gwladol, TAW, etc. Gan y byddai arian gan y naill Lywodraeth a’r llall yn cael ei osod yn nosbarth cymorth buddsoddi i hybu cystadleuaeth, yn hytrach na bod yn gymorth i achub cwmni methiannus heb obaith o fod yn hyfyw, fe fyddai’n dod dan y rheolau Cymorth Gwladwriaethol.

Ffynhonnell olaf o arian fyddai Tata eu hunain. Yn hytrach na chael eu talu am gymryd y cwmni, byddai disgwyl iddynt gynnig gwaddol yng nghyswllt diffyg eu cronfa bensiwn ac atebolrwydd am liniaru amgylcheddol. Gallai hyn gael ei drosi, gyda chefnogaeth y gweithlu a Llywodraeth Cymru, i gyfranddaliad ym mherchenogaeth y gweithwyr yn y busnes.

Ar yr ochr arall, gallai Llywodraeth y DG hefyd ymrwymo i reolau newydd ar gaffael dur y DG, rhoi’r golau gwyrdd i brosiect morlyn y llanw fel marchnad fawr newydd o bwys, a dileu’r rheolau treth llai yn ôl cais y Comisiwn Ewropeaidd fyddai’n golygu gosod tariffau cosb arfewnforion o China.

O’u cymryd gyda’i gilydd, fe fyddai hyn yn creu llwybr credadwy at gynllun trawsnewid tair i bum mlynedd, gyda’r potensial o leiaf i achub y diwydiant, ennill elw parchus i’r trethdalwr, a chreu cwmni Cymreig gwerth biliynau sydd wedi ei integreiddio yn unionsyth a fyddai, fel Mondragon enwog yng Ngwlad y Basg, yn awdur ei dynged ei hun i raddau helaeth.

Yn y pen draw, os ydym am i ddur barhau i gael ei wneud yng Nghymru, yna efallai y bydd yn rhaid i ni ddysgu - a dysgu’n sydyn - creu ein hatebion ein hunain a llunio ein dyfodol ein hunain, fel y gobeithiodd y diweddar T.W. Jones y gwnaem ryw ddydd.

Fe gafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi'n wreiddion yn y Western Mail ar Fawrth 31, 2016.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.