Pobl Hŷn yng Nghymru

● Mae pobl hŷn yng Nghymru yn wynebu risg uwch o gael eu hallgau’n ariannol, gyda nifer fawr heb fod yn ymwybodol o’r hyn mae ganddyn nhw hawl i’w gael. Yn ychwanegol i hyn, mae tua tri chwarter yn adrodd nad oes ganddyn nhw unrhyw gynilion. Mae gan 140,000 o gartrefi pobl hŷn sydd yn byw mewn tlodi tanwydd.

● Mae nifer o arolygon barn wedi awgrymu bod pobl hŷn yn fwy tebygol o gefnogi gadael yr UE na’r genhedlaeth iau. Fodd bynnag, prin fu’r ymchwiliad i mewn i sut fyddai gadael yr UE yn effeithio ar y garfan arbennig hon.

● Mae dros draean o boblogaeth Cymru yn bobl hŷn – mae’n gŵp mawr ac amrywiol.

Beth yw manteision aelodaeth o’r UE?

● Rhywbeth i’w fwynhau yw ymddeoliad, ac mae aelodaeth o’r UE yn rhoi rhyddid i ddinasyddion y DG i dreulio ei ymddeoliad haeddianol mewn unrhyw wlad yn yr UE. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw pensiwn y wladwriaeth a ffurflen iechyd cofrestredig S1 i gael mynediad at system gofal iechyd aelod wladwriaeth arall.

● Newid mewn demograffeg yw poblogaeth sydd yn heneiddio ac mae’n effeithio ar yr UE cyfan, wrth i gyfraddau genedigaeth ostwng, pobl yn byw yn hirach a chenhedlaeth y “baby boom” yn cyrraedd oedran ymddeol. Yn 2013, bydd 18% o Ewropeaid yn 65 oed neu fwy, ond disgwylir i hyn gyrraedd 30% erbyn 2060. Golyga hyn fod yna newid yn cael ei deimlo ar draws Ewrop – a bydd angen ymatebion ar draws ein ffiniau.

● Yn nhermau cytundebau’r UE, mae Erthygl 19 o’r Cytundeb ar Weithredu’r Undeb Ewropeaidd yn grymuso’r UE i ddeddfu yn erbyn camwahaniaethu yn nhermau oed yn ogystal â rhyw, tarddiad hiliol neu ethnig, crefydd, anabledd a gogwydd rhywiol. Mae Erthygl 21 o Siartr Hawliau Sylfaenol yr UE yn gwahardd camwahaniaethu sydd yn seiliedig ar oed yn glir. Mae Erthygl 25 hefyd yn cydnabod hawl yr henoed i arwain bywyd gydag urddas ac annibyniaeth ac i gyfranu i fywyd cymdeithasol a diwyllianol.

● Yn nhermau cyfraith eilaidd, mae Cyfarwyddeb Cydraddoldeb Cyflogaeth yr UE yn gyffredinol yn gwahardd camwahaniaethu ar sail oed mewn cyflogaeth a galwedigaeth.

● Mae Strategaeth Cyflogaeth yr UE yn cynnig fframwaith cydlynu polisi yn unol ag argymhelliad cyffredinol yr UE. Yn ôl canlllawiau a fabwysiadwyd yn 2010, mae Aelod Wladwriaethau yn mynd i gynyddu cyfranogaeth pobl dros 50 yn y farchnad lafur drwy bolisiau heneiddio cadarnhaol sydd yn ymwneud â threfnu gwaith ac addysg gydol oes.

Beth fydai’n digwydd pe byddem yn gadael yr UE?

● Byddai gadael yr UE a’r ansicrwydd ariannol fyddai’n deillio o hynny, yn cael effaith negyddol ar sterling ac o ganlyniad ar bensiynau Prydeinig. Er y byddai hyn yn sefydlogi dros gyfnod o amser, fe allai fod yna draweffeithiau sylweddol yn y tymor byr.

● Mae mwy o bobl Prydeinig yn byw ym mannau eraill o’r UE na mewnfudwyr o’r UE ym Mhrydain. Pe bai’r DG yn gadael yr UE, gallwn ddisgwyl i nifer fawr o‘r rhain ddychwelyd. Cyfran fawr iawn o’r rhain yw’r bobl sydd wedi ymddeol i lefydd fel Sbaen – pe baen nhw’n dychwelyd, fe fydden nhw’n ychwanegu at y baich cynyddol sydd ar wasanaethau hanfodol ar gyfer pobl hŷn, fel y GIG a darparwyr gofal.

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.