Y Blaid i geisio cyflwyno cynnig i roi llais i’r Cynulliad ar danio Erthygl 50

31120242681_dbbc343864_o.jpg

Mae Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Allanol, Steffan Lewis AC, wedi cadarnhau y bore hwn y bydd ei blaid yn ceisio cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn sicrhau y gall ACau gael llais ar danio Erthygl 50.

Daw sylwadau Steffan Lewis AC wrth i’r Goruchaf Lys ddyfarnu’n unfrydol y byddai angen pleislais yn Senedd y DG i danio Erthygl 50, ond nad oes angen cydsyniad y gweinyddiaethau datganoledig.

Ychwanegodd fod rhoi llais i’r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch a allai Llywodraeth y DG gychwyn y broses o adael yr UE yn “fater syml o ddemocratiaeth" ac y dylai’r Prif Weinidog ddisgwyl "canlyniadau difrifol” petai llais Cymru’n cael ei anwybyddu.

Meddai Steffan Lewis AC, Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Allano:

"Dylid croesawu dyfarniad y Goruchaf Lys y bydd gan Senedd y DG lais ar danio Erthygl 50. Fodd bynnag, mae’n siomedig clywed na fydd ymgynghori â’r gweinyddiaethau datganoledig ar y mater tyngedfennol hwn.

"Oni fydd Aelodau Cynulliad, fel cynrychiolwyr pobl Cymru a etholwyd yn ddemocrataidd, yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar danio Erthygl 50, bydd Plaid Cymru yn ceisio cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mater syml o ddemocratiaeth yw i’r deddfwriaethau datganoledig gael rôl yng nghychwyn y broses o adael yr UE.

“Y cyfan wna dyfarniad y Goruchaf Lys nad yw Confensiwn Sewel yn rhoi bod i rwymedigaeth y gellir ei orfodi’n gyfreithiol yw amlygu nad yw’r Deyrnas Gyfunol yn deulu o genhedloedd cyfartal o bell ffordd. Allwn ni ddim caniatau i sefydliad San Steffan ddewis setliad Brexit sy’n rhoi blaenoriaeth i’w buddiannau hwy.

"Gwres yn fwy na goleuni gawsom ni gan araith y Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf ar ei gweledigaeth am Brexit. Nid yw’n glir eto beth yn union y bwriada wneud i amddiffyn swyddi a masnach Cymru, nac i warchod hunaniaeth cyfansoddiadol ein Cynulliad Cenedlaethol.

"Ar Fehefin 23, gofynnwyd i bobl fynd i’r blwch pleidleisio wedi eu dallu – dim strategaeth, dim cynllun, dim papur gwyn wedi’i gyflwyno gan yr ymgyrch Adael. Bydd Plaid Cymru yn parhau i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod gan Gymru lais wrth i’r trafodaethau i adael yr UE fynd rhagddynt. Fe all canlyniadau cyfansoddiadol difrifol godi os anwybyddir llais Cymru.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.