Plaid Cymru yn annog datganoli system gyfiawnder a throsedd yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar garchardai

datganolicyfraith.jpg

Mae Plaid Cymru wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â sefydlu unrhyw garchardai pellach yng Nghymru - gan gynnwys y carchar enfawr arfaethedig ym Mhort Talbot, nes y bydd trafodaethau ‘ystyrlon’ wedi cael eu cynnal gyda llywodraeth y DG. Ond mae’r blaid hefyd wedi ailadrodd ei galwadau i Gymru reoli ei system cyfiawnder troseddol ei hun yn dilyn y datganiad gan Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus y prynhawn yma.

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn Datganiad Ysgrifenedig gan Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yr wythnos hon yn cadarnhau y rhoddir pwerau newydd i Faer Llundain dros gyfiawnder troseddol.

Meddai Bethan Sayed AC rhanbarthol Plaid Cymru dros Gorllewin De Cymru a llefarydd dros Gymunedau a Phlant a Dur,

‘Rwy'n falch iawn gyda’r cyhoeddiad hwn. Gan fod y mater o ‘garchar enfawr’ newydd wedi dod i’r amlwg ychydig  tros flwyddyn yn ôl, mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson ac yn glir ein barn nad oedd Cymru angen, nac yn gorfod darparu lle, i fwy a fwy o garchardai. Doedd carchar newydd nid yn unig yn amhriodol i Bort Talbot ond y byddai’n ffolineb codi carchar newydd arall yn unrhyw le yng Nghymru. Rydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i weld y goleuni ar hyn ers tro ac  ar ôl blwyddyn o negeseuon cymysg ac anwybodaeth mae’n edrych fel eu bod yn awr wedi gweld synnwyr. Rwy’n siŵr bod yr ymgyrch leol ym Mhort Talbot yn erbyn y carchar newydd wedi mynd yn bell iawn i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru hefyd.’

‘Mae gennym bryderon o hyd, fodd bynnag. Er bod comisiwn yn edrych ar ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru, mae’r penderfyniad a waned yn gynharach yr wythnos hon oedd yn rhoi pwerau penodol i Lundain ar drosedd a chyfiawnder yn gofyn y cwestiwn – pam fod Cymru yn parhau i aros am yr un peth? Os yw Llywodraeth y DG yn gallu rhoi pwerau i Lundain ar ddim, pam mae Cymru'n derbyn triniaeth is-raddol unwaith eto? Edrychaf ymlaen at weld cynnwys gohebiaeth Llywodraeth Cymru i ddarganfod beth yn union y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddweud a'i wneud, a'r hyn y maent yn bwriadu ei wneud, pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd o'r toriad. Nes bod gan Gymru reolaeth dros gyfiawnder troseddol a system gosb ei hunain, ni ddylai fod mwy o garchardai yng Nghymru, a dyna’r diwedd arni. Bydd Plaid Cymru yn parhau i ymgyrchu a phwysleisio'r pwynt hwnnw, tan fod y pwerau hynny yn dod i'n Senedd genedlaethol. Ond mae hyn yn newyddion da heddiw’.

Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am ddatganoli Plismona a Chyfiawnder Troseddol i Gymru ers tro er mwyn gweithredu polisïau a gwasanaethau sydd yn cwrdd ag ag anghenion cymunedau lleol, yn hytrach na pholisi cyffredinol o Lundain. Mae plismona eisoes wedi eid datganoli yn yr Alban a gogledd Iwerddon, yn ogystal â dinasoedd Lloegr, Manceinion a Llundain.

Dywedodd yr AS Jonathan Edwards fod weithred diweddaraf llywodraeth San Steffan yn enghraifft arall o Lundain yn trin Cymru fel  gwladfa gosbi. 

Meddai AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards:

'Mae cefnogaeth eang i ddatganoli Plismona a Chyfiawnder Troseddol i Gymru gan lawer o unigolion a sefydliadau. Byddai datganoli plismona yn arwain at heddlu Cymru yn derbyn £25 miliwn ychwanegol pob blwyddyn ar gyfer gwasanaethau lleol - digon i amddiffyn adnoddau hanfodol yr heddlu a hofrenyddion.'

'Yr enghraifft ddiweddaraf o ddirmyg San Steffan tuag at Gymru yw datganoli pwerau cyfiawnder troseddol sylweddol i Lundain, gan alluogi'r ddinas i greu system gyfiawnder fodern ac ymatebol sydd wedi ei theilwra i'r ddinas tra ein bod ni yng Nghymru yn wynebu toriadau i'n Llysoedd Ynadon a chymorth cyfreithiol, gyda Llundain yn ein trin ni fel gwladfa gosbi, yn gosod carchardai arnom ac yn mewnforio carcharorion i'n cymunedau.'

'Yn y cyfamser mae ganddom ni brinder cyfleusterau ar gyfer menywod a throseddwyr ifanc, ac mae ein hymdrechion mewn adsefydlu carcharorion yn cael eu rhwystro tra bod San Steffan yn defnyddio i ddatrys argyfwng cosb gwlad arall.'

'Cyn belled bod ein system gyfiawnder yn cael ei gynllunio a'i weithredu o San Steffan ni fydd yn cwrdd ag anghenion Cymru.'

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.