Plaid Cymru yn y Cynulliad yn tynnu sylw at record Llywodraeth Llafur Cymru ar niferoedd tlodi plant sy’n gwaethygu

labpoverty.jpg

Mae ACau Plaid Cymru, dan arweiniad yr ysgrifennydd cabinet cysgodol dros Gymunedau a Thlodi, Bethan Sayed, wedi amlinellu darlun sy’n gwaethygu o dlodi plant yng Nghymru, oherwydd bod ffigyrau yn awgrymu bod traen o blant Cymru bellach yn byw mewn tlodi (200,000) gyda 700,000 yn gyffredinol, yn byw mewn tlodi ledled y wlad – y gyfradd waethaf o bell ffordd yn y DG.

Dengys ymchwil fod plant sy’n prifio mewn tlodi nid yn unig yn fwy tebygol o barhau i fyw mewn tlodi pan fyddant yn oedolion, ond eu bod hefyd yn methu â chyrraedd yr un lefelau o gyrhaeddiad addysgol a chanlyniadau iechyd. Tynnodd ACau Plaid Cymru gan gynnwys Llyr Gruffydd AC a Sian Gwenllian AC sylw at ddwy ddegawd Llafur mewn grym a’u methiant i fynd i’r afael â thlodi plant na newid yn sylfaenol wendid cymharol economi Cymru yn gyffredinol.

Meddai Bethan Sayed AC yn ystod y ddadl,

“Eto mae gennym genhedlaeth o blant Cymru yn tyfu i fyny gan ymdrech gyda thlodi. Y gwahaniaeth rhwng nawr a’r 80au pan oeddwn i’n prifio oedd bod gennym Lywodraeth Cymru. Ond lle mae’r Llywodraeth honno? Dyw’r teimlad a’r egni – Llywodraeth yn defnyddio pob erfyn sydd ganddi i fynd i’r afael ag argyfwng cenedlaethol – ddim ar gael o gwbl yng Nghymru. Mae Llafur yn gweithredu fel asiantaeth ranbarthol i ddosbarthu grantiau.

“Mae Llafur yn gwrthod hyd yn oed â cheisio cael y grym dros weinyddu lles. All yr un llywodraeth honni bod yn ddifrifol ynghylch trin gwarth ein tlodi onid ydynt am gael arfau’r newid sy’n effeithio arno. Gallaf ddeall fod y Torïaid, gyda’u cymysgedd o economeg aden dde a newidiadau lles, wedi cael effaith niweidiol dros y ddegawd ddiwethaf. Ond mae Llafur yn awr yn ei 19eg blwyddyn mewn grym. Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon gyfradd tlodi plant is na Chymru. Mae economi Cymru wedi mynd tuag yn ôl mewn cymhariaeth â gweddill y DG dan Lafur yng Nghymru: Lle mae difidend datganoli Cymru? 

“Rwy’n meddwl bod angen i Lafur ofyn cwestiwn dwys a difrifol iddi’i hun: Sut nod mae arni eisiau i’w chyfnod hi o ddatganoli? Ar y pwynt hwn, bydd llawer o bobl yn sylweddoli mai cyfnod o dlodi oedd cyfnod Llafur Cymru dros y ddegawd ddiwethaf. Cyfnod o ddirywiad. Cyfnod o ymdrech.”

Tynnodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood at ffigyrau damniol sy’n dangos sut y mae diwygiadau lles megis y cymal trais rhywiol, toriadau i gefnogaeth adeg profedigaeth a ‘llanast’ Credyd Cynhwysol yn elfennau mawr sy’n sbarduno tlodi, ond amlinellodd y ffaith fod Llafur wedi gwrthod cefnogi datganoli lles fel rhwystr o bwys.

Meddai Leanne Wood AC yn ystod y ddadl,

“Tlodi uchelgais o du’r llywodraeth hon sydd yn arwain at dlodi ein plant. Yr wythnos ddiwethaf yn unig, gelwais ar y Gweinidog i ymuno â galwadau Plaid Cymru i ddatganoli gweinyddu lles. Beth oedd ateb y llywodraeth Lafur hon? ‘Rydym yn ymddiried yn y Ceidwadwyr yn San Steffan fwy na ni ein hunain i gyflwyno budd-daliadau.’

 “Bydd trosglwyddo pwerau dros ddatganoli lles yn niwtral o ran cost ac o ran cronni gweinyddu lles - mae’r pwerau hyn gan bob senedd ddatganoledig arall. Does dim “cronni” gweinyddu lles - San Steffan a Chymru a’r gweddill ydyw.

 Mae’r casgliad yn un syml - nid plaid o egwyddorion yw Llafur ond plaid hwylustod gwleidyddol. Troi cefn ar gyfrifoldeb  a ffafrio amwysedd gwleidyddol er eu lles eu hunain.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.