Llywodraeth Plaid am ffurfio perthynas newydd gyda San Steffan

Leanne16.jpg

Mae Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru heddiw wedi amlinellu sut y byddai llywodraeth Gymreig dan ei harweinyddiaeth hi yn ffurfio perthynas newydd gyda San Steffan, gan fynnu mwy o barch a chynrychiolaeth i Gymru.

 

Dywedodd Leanne Wood na fyddai hi fel Prif Weinidog yn oedi cyn “delio gyda’r gwaith anorffenedig o greu Senedd go iawn i Gymru”, ac yn cynnal trafodaethau brys gyda Llywodraeth y DU o fewn diwrnodau cyntaf llywodraeth Plaid Cymru.

Byddai’r trafodaethau hyn yn ceisio cynnydd ar unwaith o ran rhoi holl argymhellion y Comisiwn Silk ar waith, rhoi system ar sail angen yn lle’r Fformiwla Barnett, creu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru, a datganoli pwerau treth incwm drwy bleidlais mwyafrif syml yn y Cynulliad.

Ychwanegodd Leanne Wood fod y modd yr oedd llywodraeth bresennol Cymru wedi ymdrin a’r argyfwng dur yn datgelu diffyg dylanwad a sylwedd arweinyddiaeth Llafur gyda San Steffan.

Dywedodd Leanne Wood Arweinydd Plaid Cymru:

“Ar ol 17 mlynedd o lywodraeth Lafur, does gan Gymru ddim llais gwleidyddol yn San Steffan, ac rydym ar waelod bron pob tabl perfformiad o ran iechyd, addysg a llewyrch economaidd.

“Nid yw’r methiant o arweinyddiaeth hyn yn amlycach yn unman nag yn achos yr argyfwng sy’n wynebu ein diwydiant dur. Nid yw’r Toriaid wedi eu rhoi dan ddigon o bwysau dros hyn. Mae miloedd o weithwyr wedi eu gadael yn wynebu ansicrwydd parhaus.

“Mae’n bryd am lywodraeth Gymreig sy’n fodlon ffurfio perthynas newydd gyda San Steffan er mwyn sicrhau mwy o barch a chynrychiolaeth i’n cenedl. Dan fy arweinyddiaeth i, ni fyddai llywodraeth Plaid Cymru’n oedi cyn delio gyda’r gwaith anorffenedig o greu Senedd go iawn i Gymru.

“I wneud hyn, byddem yn cynnal trafodaethau brys gyda Llywodraeth y DU o fewn ein dyddiau cyntaf mewn grym, gan geisio cynnydd ar unwaith o ran rhoi argymhellion llawn y Comisiwn Silk ar waith.

“mae’r argymhellion hyn yn cynnwys datganoli plismona a chyflwyno model pwerau ar-gadw – trosglwyddiad pwerau a fyddai’n golygu gwelliannau ystyrlon i fywydau pobl Cymru.

“Byddem hefyd yn ceisio cyflwyno system ar sail angen i gymryd lle’r Fformiwla Barnett annheg er mwyn rhoi terfyn ar dan-gyllido hanesyddol a chronig Cymru gan San Steffan, yn ogystal a’r gallu i ddatganoli pwerau treth incwm drwy bleidlais mwyafrif syml yn y Cynulliad.

“Yn olaf, byddai Plaid Cymru yn trafod gyda Llywodraeth y DU y mater o greu awdurdodaeth gyfreithiol arwahan i Gymru i fynd i’r afael a’r anomali mai ni yw’r unig wlad yn y DU sy’n gallu pasio ei deddfau ei hun ond heb y fframwaith addas i’w gweinyddu.

“Byddai gweinyddiaeth Plaid Cymru yn gweithio’n ddiflino i warchod ein diwydiannau a’n cymunedau rhag agweddau gwaethaf llywodraeth Brydeinig Doriaidd.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.