Amodau carchar “annynol” yn rhwystr i adsefydlu

LSR_conf_3_small.jpg

Nid yw trefn garchardai San Steffan yn “addas at y diben”, yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder, Liz Saville Roberts.

Galwodd AS Plaid Cymru am dymheru “egwyddorion dwrdio a dial” gan “foeseg adsefydlu ac adfer”, wrth i boblogaeth y carchardai saethu i’r entrychion ac i lefelau hunan-niweidio a hunanladdiad ymysg carcharorion fod yn uwch nac erioed o’r blaen.

Cymerodd pedwar carcharor eu bywydau eu hunain lai nac wythnos wedi cyrraedd Carchar Abertawe dros y pedair blynedd diwethaf, ac y mae gorlenwi difrifol, toriadau llym mewn cyllidebau a phrinder dybryd staff wedi golygu, mewn rhai achosion, fod carcharorion yn cael eu cloi yn eu celloedd am 23 awr y dydd.

Disgrifiodd Prif Arolygydd y Carchardai amodau mewn rhai carchardai fel “aflan, brwnt a gwarthus”.

Erthyglau perthnasol:

"Dim angen a dim eisiau" carchar Baglan, medd Plaid Cymru

“Atal y Glas rhag gwanio a cholli eu lliw” - Plaid Cymru yn addo cynyddu cyllid yr heddlu

Wrth siarad mewn dadl yn Neuadd Westminster y bore yma ar iechyd meddwl mewn carchardai, dywedodd Liz Saville Roberts fod cadw carcharorion mewn amodau annynol yn rhwystro ymdrechion i adsefydlu, ac yn gwaethygu problemau iechyd meddwl y mae llawer o garcharorion yn dioddef ohonynt.

Mae Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) yn cynnig ‘Gweledigaeth Amgen am Garchardai’, gan alw ar i garchardai fod yn “llefydd lle mae diwygio go-iawn yn digwydd a lle mae pobl yn cael eu trin mewn ffordd sydd yn esgor ar barch cyffredinol at ei gilydd a gwir adsefydlu”.

Galwodd Ms Saville Roberts hefyd ar i garcharorion sydd â’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt allu cael gwasanaethau yn eu mamiaith, gan ddadlau fod gwadu hawliau iaith i garcharorion yn dwysau eu teimlad o ynysu ac unigrwydd.

Cred Plaid Cymru y dylai cyfiawnder troseddol gael ei ddatganoli i Gymru, i adlewyrchu’r sefyllfa yn yr Alban, a chaniatáu i Lywodraeth Cymru sicrhau y gall y system cyfiawnder troseddol ateb anghenion unigryw Cymru.

Wrth siarad yn y ddadl, meddai llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder, Liz Saville Roberts AS:

“All cymdeithas wâr gyda system cyfiawnder troseddol sy’n gweithio ddim goddef y lefelau presennol o hunan-niweidio a hunanladdiad ymysg carcharorion. Mae hyn, a dyblu poblogaeth y carchardai dros y 30 mlynedd diwethaf, yn arwydd bod trefn garchardai San Steffan yn sylfaenol anaddas at y diben.

“Mae angen diwygio ein system o gosbi a charcharu. Rhaid tymheru egwyddorion hen-ffasiwn dwrdio a dial â moeseg adsefydlu ac adfer.

“Mae gorlenwi eithafol, toriadau llym i gyllidebau a phrinder dybryd o staff yn golygu ei bod yn dod yn gynyddol gyffredin i garcharorion gael eu cloi yn eu celloedd am 23 awr y dydd – celloedd, fel y rhai yng Ngharchar Lerpwl, a ddisgrifiwyd gan Brif Arolygydd y Carchardai fel rhai “aflan, brwnt a gwarthus”.

“Mae gwneud i unrhyw un, waeth beth fo’u troseddau, ddioddef amodau annynol yn amlwg yn rhwystro unrhyw ymgais i adsefydlu, a gall ond waethygu’r problemau iechyd meddwl y mae cymaint o garcharorion yn ddioddef.

“Os ydym am wneud carchardai yn wir yn llefydd i ddiwygio, gydag adsefydlu ac adfer yn ganolog iddynt, rhaid i ni greu amgylchedd lle gall y carcharorion deimlo’n gyfforddus, a darparu gofal iechyd meddwl digonol, i hwyluso’r adfer hwnnw.

“Un esiampl pwysig iawn o hyn yw darparu gwasanaethau yn Gymraeg i siaradwyr Cymraeg. Mae llawer o bobl yng Nghymru, yn byw eu bywydau trwy’r Gymraeg. Rhaid i gael eich anfon i garchar, am ba bynnag drosedd, olygu y gall pobl ddal i allu cael gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg.

“Mae gwadu hawliau o’r fath i droseddwyr yn aml yn gwaethygu’r ymdeimlad o unigrwydd y mae cymaint o garcharorion eisoes yn deimlo.

“Trwy fethu a gweithredu ar y niferoedd enbyd o hunan-niweidio a hunanladdiad mewn carchardai, yr ydym mewn gwirionedd yn cytuno â’r gosb eithaf sy’n digwydd ar hap a heb gyfiawnder."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.