'Rhesymau Plaid Cymru dros Gyd-awduro'r Papur Gwyn ar Brexit' gan Leanne Wood

2016_LW_3.JPG

Mae araith Theresa May yr wythnos ddiwethaf wedi amlinellu yn fwy nag erioed pam ei bod yn hollbwysig fod Plaid Cymru yn amddiffyn ac yn sefyll dros fuddiannau cenedlaethol Cymru.

Cafodd Plaid Cymru gyfle i ddylanwadu ar y safbwynt Cymreig ar Brexit, a’i lunio. Pe na baem wedi cymryd y cyfle hwn, byddai llais ein cenedl wedi ei gwanhau, gan nad oes gan Lafur fwyafrif etholiadol.

Yn ei haraith yr wythnos ddiwethaf, gwnaeth y Prif Weinidog ddau beth pwysig.

Dywedodd mai ei bwriad oedd ceisio’r hyn y cyfeiriwyd ato fel ‘Brexit Caled’, gan derfynu ein haelodaeth o’r Farchnad Sengl Ewropeaidd. Dyma’r ffordd waethaf oll o adael yr UE i economi Cymru, ac y mae hefyd yn safbwynt sy’n hollol groes i Lywodraeth yr Alban. 

Dywedodd hefyd y bydd barn Cymru, yr Alban ac, yn amodol ar ffurfio gweithrediaeth newydd, gogledd Iwerddon, ar adael yr UE yn cael eu hystyried yn y Cyd-Bwyllgor Gweinidogol ar Drafodaethau Ewropeaidd (JMC-EN). Bydd Cymru yn awr yn cyflwyno Papur Gwyn ar y cyd, wedi’i ysgrifennu gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru i’r pwyllgor hwnnw sydd yn amlinellu ein blaenoriaethau cenedlaethol. 

Yr hydref diwethaf, methodd Llywodraeth Cymru â chefnogi cynnig Plaid Cymru yn y Senedd oedd o blaid i Gymru barhau’n aelod o’r Farchnad Sengl. O gofio hyn, yr oedd perygl gwirioneddol y byddai’r Papur Gwyn Cymreig wedi cymryd safbwynt yn erbyn aelodaeth farchnad o’r sengl. Ein barn ni yw ei bod er lles economi Cymru i aros yn y farchnad sengl. Byddai safbwynt croes i hyn yn berygl gwirioneddol i swyddi.

Trwy fod yn awduron ar y cyd i Bapur Gwyn Cymru, mae Plaid Cymru wedi atal hynny rhag digwydd. Mae Ysgrifennydd cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Allanol, Steffan Lewis, wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru, wedi llwyddo i’w tynnu yn nes o lawer tuag atom ni ar gwestiwn y farchnad sengl.

Cafodd y Papur Gwyn ar y cyd ei lansio ar ddydd Llun, Ionawr 23 mewn Cynhadledd i’r Wasg ar y cyd yn Llundain. Y Papur Gwyn ar y cyd wedyn fydd safbwynt trafod Cymru yn JMC-EN.

Dyma fu ein hegwyddorion allweddol trwy gydol y broses hon:

  • Blaenoriaethu anghenion economi Cymru a gweithwyr Cymru.
  • Cadw cynifer o gysylltiadau ag sydd modd yn agored gyda’r Undeb Ewropeaidd.
  • Cael cynifer o bwyntiau o’n Cynnig i’n Cynhadledd Arbennig i’r safbwynt Cymreig swyddogol ag sydd modd, sydd yn cynnwys camau gwarchod i hawliau gweithwyr a’r amgylchedd.
  • Gofalu fod ffrynt mor unedig ag sy’n bosib rhwng Cymru, yr Alban a gogledd Iwerddon.

O ganlyniad i hyn, mae’r Papur Gwyn yn gosod allan:

  • Y dylai Cymru barhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl, naill ai fel aelodau o EEA a/neu EFTA, neu gyda math newydd o gytundeb.
  • Y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu polisi rhyngwladol cynhwysfawr newydd.
  • Y dylai Cymru ddatblygu cysylltiadau cyflawn gydag Iwerddon.
  • Fod yn rhaid ailfodelu cyfansoddiad y DG ac na ddylid gwneud unrhyw gytundebau heb gydsyniad Cymru a’n Cynulliad Cenedlaethol.
  • Fod yn rhaid gwarchod ein cynhyrchion amaethyddol a’n ffermwyr rhag unrhyw dariffau neu fygythiadau i’w bywoliaeth.
  • Y dylai Cymru ei hun ddeddfu i gadw safonau a rheoliadau amgylcheddol Ewropeaidd hanfodol, os penderfyna’r Ceidwadwyr eu lluchio allan drwy’r ffenest.
  • Nad “tocynnau bargeinio” yw mewnfudwyr o Ewrop sydd yng Nghymru; eu bod yn cyfrannu i’n cymdeithas; ac y dylid gweithredu egwyddor rhyddid symud mewn modd sy’n gyson â’r Farchnad Sengl, fel yn achos Norwy.

O ystyried hyn ochr yn ochr â barn ein chwaer blaid yn Llywodraeth yr Alban, byddai’r Prif Weinidog yn ffol i anwybyddu’r gofynion hyn. Mae ei hawydd i dawelu’r cenedlaetholwyr Seisning cul, ynysig yn UKIP ac yn ei phlaid ei hyn yn awgrymu y gall yn hawdd ein hanwybyddu.

Dyna pam y mae Plaid Cymru wedi dechrau datblygu cynllun manwl wrth gefn, ar wahân i Lywodraeth Cymru, i baratoi rhag ofn na fydd y safbwynt Cymreig yn y trafodaethau hyn yn cael ei barchu.

Nid yw’r Papur Gwyn hwn yn ein clymu at Lywodraeth Cymru. Bydd Plaid Cymru yn parhau i’w dal i gyfrif ar fater cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus a sut y maent yn gwario arian cyhoeddus. Byddwn yn parhau i dynnu sylw at eu methiannau, yn enwedig ym meysydd iechyd, addysg a’r economi.

Mae’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, a chael y ffordd y gwneir hyn yn iawn, yn bwysig dros ben i holl ddyfodol ein cenedl. Yn hyn o beth, mae’n rhaid i Blaid Cymru chwarae rhan effeithiol.

Mae gweithio ar y cyd fel hyn yn dangos eto y gall Plaid Cymru lwyddo i ennill llawer mwy i Gymru na’r gwrthbleidiau eraill.

Y diwrnod wedi’r refferendwm fis Mehefin diwethaf, fe ddywedasom y byddai Plaid Cymru yn sicrhau dyfodol newydd i genedl y Cymry, un sy’n edrych tuag allan, a dyna’n union yr ydym yn anelu at wneud yma.

Cenhadaeth y blaid hon yw hyrwyddo buddiannau cenedlaethol Cymru a byddwn yn cyflawni’r genhadaeth honno yn drylwyr i’r eithaf, fel erioed.

L_Wood.jpg

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.