“Rhaid ail-wladoli’r gwasanaeth prawf”, medd Plaid Cymru

LSR_conf_small.jpg

BBC Panorama am ddatgelu cyfres o fethiannau ers preifateiddio

Mae Plaid Cymru wedi galw am ail-wladoli’r gwasanaeth prawf, cyn ymchwiliad gan raglen Panorama y BBC, a ddarlledir heno, sy’n datgelu cyfres o fethiannau ers preifateiddio’r gwasanaeth prawf yn rhannol yn 2014.

Preifateiddiwyd dwy ran o dair o’r gwasanaeth prawf yng Nghymru a Lloegr gan Lywodraeth Prydain ym mis Chwefror 2014, a’i werthu i’r sector preifat. Mae troseddwyr a ddosbarthwyd fel rhai risg isel neu ganolig yn awr yn cael eu goruchwylio gan ‘Gwmnïau Adsefydlu Cymunedol (CACau) y sector preifat, gyda throseddwyr risg uchel yn aros yn y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol.

Bydd ymchwiliad gan Panorama, a ddarlledir heno (Mercher 25 Hydref 2017), yn datgelu methiannau mewn goruchwyliaeth gan un o’r CACau a arweiniodd at lofruddiaeth erchyll y llanc 18 oed, Conner Marshall, 30 mis yn ôl. Cafodd gwybodaeth ei gadw’n ôl tro ar ôl tro rhag teulu Conner Marshall nes iddynt gael ar ddeall o’r diwedd fod gan y llofrudd euogfarnau am ymosod, trais domestig a bod ym meddiant cyffuriau. Yr oedd wedi colli o leiaf chwe apwyntiad gyda’i oruchwylwyr ac nad oedd wedi ei ddwyn yn ôl i’r llys am fethu â dod i’r cyfarfodydd hyn, rhywbeth a ddylasai fod wedi digwydd.

Yn dilyn cyfarfodydd gyda theulu Conner Marshall, gofynnodd AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts nifer o gwestiynau i Lywodraeth Prydain am berfformiad ac effeithiolrwydd y gwasanaeth prawf ers ei breifateiddio, gan ddatgelu methiannau sy’n achosi pryder ac a barodd i Blaid Cymru alw am ai ail-wladoli. Mae llawer o gwestiynau mwyaf beirniadol Ms Saville Roberts heb eu hateb, sydd yn dangos diffyg atebolrwydd trychinebus.

Mae Plaid Cymru wedi galw am i gyfiawnder troseddol gael ei ddatganoli i Gymru, fel y gall Llywodraeth Cymru reoli’r gwasanaeth prawf yng Nghymru.

Gwybodaeth i gefnogi:

  • Bu cwymp sydyn yn nifer y troseddwyr a gymerwyd yn ôl i’r llys am dorri eu gorchmynion, yn ôl ymarferwyr ac ynadon

  • Mae troseddwyr yn cael eu goruchwylio’n gynyddol dros y ffôn neu trwy ‘giosgau biometrig’ yn hytrach nag wyneb yn wyneb

  • Torrodd y gwasanaeth prawf preifat 40% o’i staff trwy ddiswyddiadau gwirfoddol a gorfodol

  • Derbyniodd CAC dros £20 miliwn mewn arian i’w hachub gan Lywodraeth Prydain ym mlwyddyn ariannol 2016/17 a bydd yn derbyn hyd at £200 miliwn eleni

  • Mae mudiadau gwirfoddol ledled Cymru a Lloegr wedi terfynu partneriaethau gyda CAC oherwydd safonau isel

  • Gosododd Llywodraeth Prydain gymalau prynu-allan sylweddol yn y contractau yn ystod preifateiddio er mwyn atal ailwladoli

  • Datgelodd Cwestiynau Seneddol eraill gan Liz Saville Roberts AS nad yw’r Llywodraeth yn casglu data ar faterion allweddol megis troseddwyr a elwir yn ôl i’r carchar, colledion staffio a throseddwyr yn cael eu hail-asesu o ran eu categori risg

  • Nid oes data ar gael ar risg y niwed i’r cyhoedd o du troseddwyr neu newid yn lefel eu risg

  • Nid oes data ar apwyntiadau a gollwyd

  • Nid oes data ar gael ar beidio â chydymffurfio â gorchmynion triniaeth am gyffuriau

  • Nid oes data ar gael ar droseddwyr a gymerir yn ôl i’r llys am gamymddwyn n eu am droseddau newydd

Hefyd, datgelodd Plaid Cymru ym mis Awst fod nifer y troseddwyr dan oruchwyliaeth profiannaeth statudol yn cael eu cyhuddo o lofruddiaeth, dynladdiad, trais neu droseddau treisgar neu rywiol difrifol eraill wedi codi o 26.4% ers i’r gwasanaeth prawf yng Nghymru a Lloegr gael ei breifateiddio yn rhannol.

Dengys adroddiad a ryddhawyd yn answyddogol yn 2013 fod Llywodraeth Prydain wedi ei rhybuddio yn eu hasesiad risg eu hunain yn erbyn preifateiddio, ac y gallai arwain at “ostyngiad annerbyniol mewn perfformiad gweithredol", a roes fod i “fethiannau cyflwyno a difrodi enw da”. Chwe mis wedi derbyn yr adroddiad hwnnw, gwerthodd Llywodraeth Prydain ddwy ran o dair o’r gwasanaeth prawf.

Meddai llefarydd Plaid Cymru ar Gyfiawnder ac AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts AS:

“Mae’r gyfres o arferion sy’n peri pryder yn y cwmnïau prawf preifat a’r diffyg atebolrwydd enbyd a ddatgelwyd gan atebion Llywodraeth Prydain i’m cwestiynau yn achosi annifyrrwch.

“Mae troseddwyr dan oruchwyliaeth y cwmnïau hyn yn cyflawni llofruddiaeth, dynladdiad a thrais. Mae nifer yr enghreifftiau o hyn wedi codi o 26 y cant ers preifateiddio’r gwasanaeth prawf yn achosi pryder mawr, a gwyddom o’r dogfennau a ddatgelwyd fod Gweinidogion wedi eu rhybuddio y gallai preifateiddio arwain at hyn.

“Mae’r diffyg atebolrwydd yn hollol annerbyniol. Rôl y cwmnïau prawf yw amddiffyn y cyhoedd ac adsefydlu troseddwyr ond nid yw’r Llywodraeth yn gofyn iddynt fonitro gwybodaeth sylfaenol fel faint o droseddwyr sy’n cael eu gwysio i’r llysoedd am golli apwyntiadau.

“Rhaid ailwladoli’r gwasanaeth prawf rhag blaen, gydag elw yn cael ei gymryd allan o’r hafaliad, a rhaid datganoli’r cyfrifoldeb dros gyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys y gwasanaeth prawf, i Lywodraeth Cymru.”

Ychwanegodd cyfarwyddwr ymgyrch Hawliau Dioddefwyr, Harry Fletcher, a gefnogodd deulu Connor Marshall:

“Rhaid i brofiannaeth breifat fod yn fwy atebol. Yn achos Conner Marshall, dylai’r troseddwr gael ei gymryd yn ôl i’r llys am beidio â chadw apwyntiadau goruchwylio, ond wnaeth hyn ddim digwydd, er iddo golli o leiaf chwech o apwyntiadau.

“Mae’n anhygoel nad oes gofyn i’r Cwmnïau Adsefydlu ffeilio gwybodaeth am faterion sylfaenol megis risg i’r cyhoedd, cyfraddau torri, niferoedd staffio neu gyfarfodydd a gollwyd gan y sawl sydd ar orchmynion triniaeth am gyffuriau. Mae diogelwch y cyhoedd yn cael ei beryglu.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.