Llafur wedi’u cyhuddo o wobrwyo methiant yn fyrbwyll wrth i fusnes a gefnogwyd gan y llywodraeth fynd i’r wal

NM.jpg

Mae cwmni gemau o Drefforest yn y de wedi mynd i’r wal ar ôl derbyn £1.4 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Symudodd Oysterworld Ltd eu gweithrediadau o Lundain i Gymru yn 2013. Dengys cofnodion, o Hydref 2013 tan fis Awst 2015 fod Oysterworld Ltd wedi derbyn wyth o grantiau cyfalaf gan Lywodraeth Cymru oedd yn dod i gyfanswm o £1,414,500.

Credir y gall hyd at 100 o bobl fod wedi colli eu swyddi, gyda dyledion yn dal heb eu talu. Bu gweithwyr siomedig yn cyfathrebu ar gyfryngau cymdeithasol, gyda rhai heb gael eu talu am eu gwaith ers mis Mawrth.

Dengys cofnodion o Dŷ’r Cwmniau fod pum cyfarwyddwr Oysterworld oll wedi eu lleoli yn Llundain, ac un yn ddinesydd Tsineaidd.

Dengys cofnodion hefyd, yn ychwanegol at dderbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru, fod Oysterworld wedi derbyn nifer o daliadau o gronfeydd buddsoddi yn Ynysoedd y Cayman a Delaware, dwy wladwriaeth sy’n ddrwgenwog fel canolfannau rhyngwladol osgoi trethi.

Ymddengys fod pob gweithgaredd arlein Oysterworld wedi dod i ben yn gynnar ym mis Mehefin eleni. Ond ar Fehefin 29, cofrestrodd Oysterworld ddyled o £220,000, ynghyd ag unrhyw log cronedig, i Christopher Rough a Timothy Rigby, ill dau wedi eu disgrifio fel ‘buddsoddwyr’ ac sydd hefyd wedi eu lleoli yn Llundain.

Ar 23 Awst cofrestrodd Osyterworld Ltd arwystl cyfreithiol gyda Alfandari Private Equities Ltd. Mae Alfandari yn arbenigo mewn ‘buddsoddiadau mewn cyfyngder’.

Daw chwalfa Osyterworld yn yr un wythnos ag yr honnodd Syr Alistair Graham, cyn-oruchwyliwr safonau mewn bywyd cyhoeddus, y gall fod y cyn-Weinidog Edwina Hart may wedi bod â gwrthdrawiad buddiannau wedi cymeradwyo £3.4 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru i gwmni o Abertawe a aeth hefyd i’r wal. Yr oedd Kancoat lai na hanner milltir o hen etholaeth Ms Hart.

Disgrifiodd adolygydd diwydrwydd dyladwy ariannol Llywodraeth Cymru ei hun gynllun busnes Kancoat fel un oedd yn ymddangos yn “wan ac anghyson”. Anwybyddodd Ms Hart y cyngor hwn, gan gymeradwyo £3.4 miliwn mewn grantiau a benthyciadau i’r cwmni “risg uchel”.

Ym mis Chwefror 2014 cymeradwyodd Ms Hartgyllid sylweddol pellach i Oysterworld o £415,000. Ar y pryd, dywedodd “Mae’n bleser gennyf gefnogi’r ehangu hwn fydd nid yn unig yn creu swyddi o safon uchel ond a fydd hefyd yn helpu i adeiladu sector gemau cryf yng Nghymru a datblygu sylfaen sgiliau syweddol”. Cyhoeddodd Oysterworld hefyd y buasent yn treulio’r 18 mis yn sefydlu tîm i ddatblygu a chynhyrchu gemau cyfrifiadurol i’w hallforio. Ond union 18 mis ers derbyn y cyllid busnes hwnnw gan Lywodraeth Cymru, aeth y cwmni i ddwylo’r derbynwyr gyda dyledion heb eu talu, ac aelodau’r tîm yn awr wedi colli eu swyddi.

Meddai AC Plaid Cymru Neil McEvoy, a gafodd wybodaeth am y cwmni:

“Mae’n rhyfeddol sut y mae Llafur yn parhau i golli arian y trethdalwyr yng Nghymru fel hyn. Mae’n digwydd mor aml bellach fel y bydd pobl o ddifrif yn meddwl a yw Llafur heb glem beth maen nhw’n wneud, neu a oes rhywbeth mwy sinistr ar waith.

“Yng Nghaerdydd, tydyn ni ddim wedi anghofio gwerthiant tir Llysfaen, pan werthodd Llafur dir gwerth o leiaf £39 miliwn am ychydig dros £2 miliwn. Cafodd trethdalwyr Caerdydd eu twyllo, ond aeth neb i’r carchar dros y peth.

“Nawr mae Llafur yn rhoi miliynau i gwmniau sy’n gwybod dim am Gymru ond pa mor hawdd yw cael Llywodraeth Cymru i brynu cath mewn cwd. Maent yn cymryd miliynau oddi ar Lywodraeth Lafur Cymru gydag un llaw a mwy o arian o osgoi talu trethi o gronfeydd buddsoddi gwledydd eraill gyda’r llall.

“Nawr, gwaetha’r modd, mae pawb oedd yn rhan o’r cwmni gemau hwn wedi colli eu swyddi. Ac i wneud pethau’n waeth, mae Llafur newydd haneru arian Twf Swyddi Cymru, gan ei gwneud yn anoddach fyth iddynt ddod o hyd i waith newydd. Mae dim swyddi a dim twf yn dod yn hanes Llafur yng Nghymru.

“Nid achosion unigol mo’r rhain bellach. Mae patrwm yn dod i’r amlwg o fargeinion llechwraidd gyda phobl amheus iawn, a threthdalwyr Cymru yn colli miliynau. Byddaf yn cyfeirio’r achos hwn at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a ysgrifennodd adroddiad hynod ddamniol am y modd y goruchwyliodd Llywodraeth Cymru y cyllid ar gyfe rgwerthu tir Llysfaen. Y tro hwn, rwyf eisiau i Edwina Hart a chyfarwyddwyr Oysterworld gael eu dwyn gerbron y pwyllgor i ateb am yr hyn ddigwyddodd.

“Byddaf hefyd yn anfon adroddiad am y mater i Swyddfa Archwilio Cymru a’r Fenter Dwyll Genedlaethol i weld a fydd canlyniadau difrifol i’r hyn ddigwyddodd.

“Dywedais yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai, poetawn i’n cael f’ethol, y buaswn yn glanhau Bae Caerdydd, a dyna’n union rwy’n wneud. Mae mwy a mwy o bobl yn dod ataf gyda hanesion fel hyn. Buaswn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am gamddefnydd Llafur o arian trethdalwyr i wneud yr un peth. Fe fyddaf yn ymchwilio.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.