Plaid Cymru yn beirniadu 'geiriau gwag' Owen Smith

Hdr_parliament.jpg

Mae Plaid Cymru wedi ymateb i lansiad ymgyrch ymgeisydd diweddaraf coup arweinyddol Llafur gan ddweud fod ymgyrch Owen Smith yn cael ei ddiffinio gan "eiriau gwag."

Wrth ymateb i lansiad ymgyrch Owen Smith, dywedodd Jonathan Edwards AS Plaid Cymru:

"Tra bod yr hyn a elwir yn wrthblaid swyddogol ar chwal yn llwyr diolch i ymgyrch gyhoeddus iawn o hunan-ddinistr, mae'n addas mai'r unigolyn diweddaraf i geisio cael gwared ar yr arweinydd yw Owen Smith - yr un gwr y gellir dibynnu arno i roi'r blaid cyn y wlad.

"Yn arbenigwr mewn beirniadu ei gynulleidfa - aelod o'r CND un diwrnod, a dyn sy'n barod "i ddinistrio miliynau o bobl" gydag arfau niwclear y diwrnod wedyn. Dyn sy'n credu fod llymder "yn strategaeth economaidd sy'n trechu ei hun yn llwyr" un diwrnod, ac yn rhywun sy'n pleidleisio o blaid pecyn llymder £30 biliwn y Ceidwadwyr y diwrnod canlynol. Mae Llafur 'un genedl' wir yn ddau wynebog.

"Serch hyn, wedi iddo bleidleisio dro ar ol tro yn erbyn grymuso pobl Cymru a Senedd Cymru, gall pobl ein cenedl fod yn siwr o un peth - gellir bob amser ddibynnu ar Owen Smith i bleidleisio'n gyson yn erbyn buddiannau cenedlaethol Cymru."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.