ASau Plaid Cymru yn ysgrifennu at Ken Skates gan erfyn arno dynnu’r plwg ar y fodrwy haearn

MPs_2017_nb.jpg

Mae ASau Plaid Cymru heddiw wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd i Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru Ken Skates gan erfyn arno roi'r gorau i'w gynlluniau ffôl i greu modrwy haearn yng Nghastell y Fflint.

Mae Liz Saville Roberts AS, Jonathan Edwards AS, Hywel Williams AS a Ben Lake AS wedi arwyddo'r llythyr sydd yn nodi fod y cynlluniau yn "fyrbwyll, anwybodus ac ansensitif", gan ddadlau fod Llywodraeth Lafur Cymru yn yn methu â chydnabod a pharchu gorffennol Cymru.

Mae copi o'r llythyr isod a gallwch glicio yma i'w ddarllen fel PDF. Yn ogystal mae deiseb wedi ei sefydlu er mwyn gwrthwynebu'r fodrwy haearn - gallwch ei harwyddo drwy glicio yma.

Llythyr_Modrwy_Haearn.jpg

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.