Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth, heddiw wedi amlinellu sut y byddai llywodraeth ei blaid yn lansio’r rhaglen fwyaf o fuddsoddi mewn isadeiledd ers datganoli er mwyn trawsnewid ffyrdd, rheilffyrdd, ysgolion, ysbytai a chartrefi Cymru.
Byddai’r elw a wneid gan NICW – y Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol i Gymru – yn cael ei gadw a’i ddefnyddio i wella’r fantolen ac i fuddsoddi mewn mwy o brosiectau seilwaith y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth y byddai’r prosiectau fyddai’n cael eu cynnwys yn NICW wedi eu lleoli ym mhob rhan o’r wlad, fyddai o les i economi Cymru gyfan yn ogystal â chysylltu cymunedau yn well ac ymdrin â’r loteri cod post sy’n bla ar yr NHS yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae NICW yn rhan o faniffesto Plaid Cymru sydd wedi ei gostio’n llawn a’i wirio yn annibynnol. Bydd y cynllun buddsoddi am godi £7.5bn ar gyfer prosiectau buddsoddi cyfalaf dros gyfnod o ddeng mlynedd.
Meddai Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi Rhun ap Iorwerth:
“I fod yn llwyddiannus yn economaidd a chymdeithasol, mae ar unrhyw wlad fodern angen seilwaith modern ac effeithiol.
“Dyna pam y mabwysiadodd Plaid Cymru agwedd arloesol tuag at ddwyn gerbron y prosiect buddsoddi cyfalaf mwyaf ers datganoli, gyda’r bwriad o drawsnewid ffyrdd, ysgolion, ysbytai a stoc dai Cymru.
“Prif amcanion NICW fyddai galluogi Llywodraeth Cymru i ddefnyddio rhan o’u gwriant cyfredol i gyllido buddsoddi cyfalaf mewn modd effeithlon. Byddai NICW hefyd yn creu corff arbenigol gyda phrofiad mewn caffael a thrafod gyda chontractwyr, fyddai’n arwain at gyflwyno prosiectau seilwaith y sector cyhoeddus yn fwy effeithiol, ac yn lleihau costau.
“Byddai unrhyw elw a gedwid yn NICW yn cael ei ddefnyddio i wella eu mantolen ac i fuddsoddi mewn mwy o brosiectau seilwaith y sector cyhoeddus.
“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i uno Cymru. Bydd hyn yn gofyn am gymunedau wedi eu cysylltu’n well, mynd yn gynt ac yn haws at wasanaethau cyhoeddus hanfodol, a mynediad dibynadwy at y rhyngrwyd sydd mor hanfodol i fusnesau.
“Trwy foderneiddio cysylltiadau rheilffordd a’r ffyrdd pwysicaf megis yr M4 a’r A55, cyflwyno band eang uwch-gyflym i bawb, gan wneud buddsoddiad nas gwelwyd erioed o’r blaen mewn effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi, bydd NICW yn cyrraedd y nod hwn.
“Byddwn hefyd yn adeiladu 10,000 o dai fforddiadwy newydd, yn sefydlu rhwydwaith o gridiau ynni lleol, gwella adeiladau ysgolion, ac yn buddsoddi yn seilwaith y porthladdoedd a datblygiadau morlynnoedd llanw ym mhob rhan o Gymru.
“Bydd NICW yn cynnig dewis gwell na model methiannus y PFI (Menter Cyllid Preifat). Mae gan y cynllun buddsoddi mentrus ond darbodus hwn botensial enfawr i drawsnewid seilwaith Cymru, symbylu’r economi, a chyflwyno gwelliannau gweladwy o fywydau beunyddiol pobl.”