Gwasanaeth iechyd: Methiannau Lloegr yn gwaethygu argyfwng Cymru

hywelwilliams.jpg

Plaid Cymru yn ymosod ar y ‘sefydliad gwleidyddol’ am fethiannau’r gwasanaeth iechyd

Mae’r argyfwng yn GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol) Cymru yn ganlyniad i waith llywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Gyfunol yn gwaethygu llanast methiant Llywodraeth Lafur Cymru, yn ôl Plaid Cymru.

Cyhuddodd llefarydd y blaid ar iechyd yn San Steffan, Hywel Williams, Lywodraeth San Steffan o beryglu’r GIG trwy esgeuluso gwasanaethau oedd yn cael eu cyflwyno gan awdurdodau lleol. Mae esgeulustod o’r fath yn arwain at gyfyngiadau llym ar y gyllideb yng Nghymru, ac y mae hyn, ynghyd ag “anfedrusrwydd a chamreoli tymor-hir” yn Llywodraeth Lafur Cymru, yn gwaethygu’r argyfwng yn iechyd Cymru.

Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno gwasanaethau hanfodol fel gofal cymdeithasol sy’n cadw pobl oedrannus allan o ysbytai ac yn cadw cyfnodau yn yr ysbyty mor fyr ag sydd modd. Maent yn rhoi gwasanaethau tai sydd yn mynd i’r afael â thai o safon wael a gorlenwi, gwasanaethau amgylcheddol sydd yn atal afiechyd a chlefydau, a diolch i ddiwygiadau’r Torïaid, llawer o wasanaethau iechyd cyhoeddus hefyd. Mae’r holl wasanaethau hyn yn atal afiechyd ac yn hybu adferiad.

Rhybuddiodd AS Arfon fod yr argyfwng yn adrannau brys Lloegr wedi ei achosi nid yn unig gan gyfyngiadau ar gyllideb y GIG ond gan y cyfyngiadau cyllidebol ar awdurdodau lleol, diolch i flynyddoedd o lymder diangen San Steffan. Anogodd San Steffan i newid trywydd er mwyn lliniaru’r effaith ar wasanaethau Cymru.

Yn ei sylw, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd yn San Steffan, Hywel Williams:

“Mae’r argyfwng iechyd yng Nhymru yn ganlyniad i lywodraeth Dorïaidd flêr yn San Steffan yn gwaethygu methiant anfedrusrwydd Llywodraeth Lafur Cymru.

“Mae cyfyngiadau cyllidebol yn San Steffan wedi cael effaith ddifrifol ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ac yn parhau i gael, er bod iechyd wedi ei ddatganoli.

“Yr hyn na all y sefydliad gwleidyddol yn San Steffan a Llywodraeth Cymru fel ei gilydd ddeall yw bod awdurdodau lleol yn hanfodol o ran darparu gwasanaethau gofal iechyd megis gofal cymdeithasol sy’n cadw pobl oedrannus allan o ysbytai ac yn cadw cyfnodau yn yr ysbyty mor fyr ag sydd modd. Maent yn rhoi gwasanaethau tai sydd yn mynd i’r afael â thai o safon wael a gorlenwi, gwasanaethau amgylcheddol sydd yn atal afiechyd a chlefydau, a diolch i ddiwygiadau’r Torïaid, llawer o wasanaethau iechyd cyhoeddus hefyd. Mae’r holl wasanaethau hyn yn atal afiechyd ac yn hybu adferiad.
“Mae honni eu bod yn amddiffyn ein gwasanaeth iechyd ond mewn gwirionedd yn amddiffyn un agwedd ohono yn unig yn y GIG, a gwneud hynny trwy dorri’r ecosystem ehangach o wasanaethau iechyd, yn hynod gamarweiniol a pheryglus. Mae’r ffaith fod San Steffan wedi honni eu bod yn gwneud hyn ers 2010, heb eu herio, yn dystiolaeth fod system wleidyddol y DG yn methu yn ei thasg o graffu ac adrodd yn iawn am faterion o bwys i’r cyhoedd.

“Collodd awdurdodau lleol yn Lloegr 27 y cant o’u pwer gwario ers 2010. Mae rhai gwasanaethau, megis y rhai sy’n canolbwyntio ar ofal ataliol a gofal cymdeithasol dewisol, wedi eu torri o 45 y cant. Mae’r toriadau hyn i wasanaethau hanfodol yn cael effaith uniongyrchol ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ac ochr yn ochr ag anfedrusrwydd a chamreolaeth tymor-hir gan Lywodraeth Lafur Cymru, yn gyrru gwasanaeth iechyd Cymru at argyfwng.

“Mae argyfwng yn adrannau brys Cymru sydd “cynddrwg, os nad yn waeth” na’r sefyllfa yn Lloegr, yn ôl Is-Lywydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys. Mae ein prinder meddygon yn waeth byth diolch i anallu Llafur i gynllunio gweithlu’r GIG yn iawn i Gymru gyfan.

“Er ei bod yn gwario mwy ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru nac a werir yn llawer o ranbarthau Lloegr, nid yw’n cael ei wario’n ddoeth gan Lywodraeth Lafur Cymru. Mae pobl Cymru yn cael eu peryglu gan sefydliad gwleidyddol anfedrus.

“Mae’n arwyddocaol iawn fod y Blaid Lafur yn San Steffan – yr ‘wrthblaid swyddogol’ honedig – wedi galw dadl am fwy o arian i wasanaethau iechyd, ac wedyn wedi caniatau i welliant Ceidwadol yn dileu eu galwadau gael ei basio’n dddiwrthwynebiad.

“Mae ar Gymru angen llywodraeth fedrus sy’n gwario arian y trethdalwr yn ddoeth. Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, gan gydnabod y cysylltiad annatod rhwng y ddau, ac yn recriwtio 1,000 o feddygon newydd a 5,000 o nyrsus newydd i weithio yn GIG Cymru.

“Mae hyfforddi a recriwtio mwy o staff yng Nghymru yn arbennig o bwysig gyda Brexit yn bygwth recriwtio o dramor. Cam hanfodol fyddai sefydlu ysgol feddygol yng ngogledd Cymru i hyfforddi amrywiaeth o weithwyr iechyd proffesiynol. Mae’r Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd wedi addo’r datblygiad hwn ers blynyddoedd, ond er mawr gywilydd iddynt, nid ydynt wedi cyflawni dim eto.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.