San Steffan yn rhwystro datganoli adnoddau naturiol

joni_s4c.PNG

Wrth ymateb i'r bleidlais ar ddatganoli adnoddau naturiol i Gymru, mi ddwedodd llefarydd Plaid Cymru ar ynni, Jonathan Edwards:

“'Dw i'n gresynu dros y ffaith fod y sefydliad Prydeinig mor benderfynol o rwystro Cymru rhag tyfu, ar rwystro pobl Cymru rhag elwa o'u hadnoddau naturiol, eu bod yn fodlon bod mor digywilydd ac i bleidleisio yn ddiamwys i gadw adnoddau naturiol Cymru yn nwylo gwleidyddion San Steffan.

"Mae ein adnoddau naturiol yn hanfodol i'n ffyniant. Yn eilradd dim ond i'n pobl, ein adnoddau naturiol yw ein asedau mwyaf gwerthfawr, ac mae San Steffan yn dweud wrthym nad oes unrhyw hawl gennym i'w defnyddio er mwyn buddiannau'n hunain - fod rhaid i ni adael i San Steffan wneud fe fynnwn nhw gyda'n hadnoddau tra bod pobl Cymru yn brwydro'n enbyd er mwyn talu eu biliau.

“Mae'n hawdd i wleidyddion San Steffan ddweud wrth bobl Cymru ein bod ni'n rhy dlawd ac yn rhy fach wrth iddyn nhw gymryd mantais o'n hadnoddau naturiol a gwneud popeth posib i gadw eu dwylo ar yr adnoddau yno yn San Steffan.

"'Dw i wedi hen flino o weld y Blaid Lafur yn dweud y gwnawn nhw ein cefnogi ni ar ddatganoli, ac yn eu gweld nhw'n eistedd yn segur, pleidleisio gyda'r Ceidwadwyr, neu'n waeth fyth, yn ymatal o bleidleisio o gwbl.

"Heno, ddaru nhw ymatal ar ein gwelliant ni i gael gwared ar hawl Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wahardd unrhywbeth gan Senedd Cymru sydd yn effeithio ar gyflenwad, neu safon y cyflenwad dwr yn Lloegr.

"Nes i Gymru gymryd rheolaeth dros ei dyfodol, cawn ni byth elwa, a thra fod Cymru yn cael ei chynrychioli yn San Steffan gan bleidiau San Steffan, wneiff San Steffan byth cynrychioli buddiannau Cymru."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.