Myfyrion ar dymor Cynulliad cyntaf Aelod Cynulliad newydd

 Steffan_Lewis_AM.jpg

gan Steffan Lewis AC

Mae’n rhyfeddol pa mor gyflym mae pethau’n digwydd. Am 4am rydych mewn neuadd chwaraeon ddrafftiog yn y cyfrif, yn aros i glywed a aeth canlyniad yr etholiad o’ch plaid, yna rai oriau yn unig yn ddiweddarach, dyna chi’n sefyll yn y Senedd yn tyngu’r llw. 

Fe’m cefais fy hun yn sydyn yn wynebu’r posibilrwydd cyffrous o dreulio’r pum mlynedd nesaf yn bod yn gyfrifol am bobl y rhanbarth a’r camau dysgu serth o ddod i arfer a rheng flaen gwleidyddiaeth Cymru.

Fel Aelod Cynulliad newydd Plaid Cymru dros Ddwyrain de Cymru, fi hefyd yw’r aelod etholedig ieuengaf yn y Cynulliad, gan ddwyn y teitl oddi wrth Bethan Jenkins o Blaid Cymru.

Cyn f’ethol, roeddwn yn benderfynol, petawn yn llwyddo, y buaswn am roi sosialaeth gymunedol wrth graidd fy n gweithgareddau.

Mae hynny’n golygu mynd ati i ganfod beth yw’r materion lleol yn y gymuned a dwyn pobl ynghyd i gael atebion yn y gymuned.

Ar adeg pan fo ffydd mewn gwleidyddion yn eithriadol isel, rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni edrych o’r newydd ar y ffordd yr ydym yn gwneud pethau ac ail-feddwl am ein gwleidyddiaeth fel nad yw’n unig yn fater o ‘wrando ar bobl’, ond am gadarnhau’r cyfraniad pendant yn ein bywyd gwleidyddol.

Beirniadaeth rwyf i wedi’i glywed lawer gwaith am y Cynulliad Cenedlaethol yw ei fod yn ddiflas. Dyw pobl ddim yn dilyn yr hyn sy’n digwydd oherwydd bob tro maent yn troi’r peth ymlaen, maent yn gweld fod y trafodaethau yn rhy ddiflas i’w dilyn. Maent yn disgwyl sioe San Steffan, gyda’r gweiddi a’r gwawdio adeg Cwestiynau’r Prif Weinidog.

Rwy’n gwybod fod y polau yn dweud wrthym nad yw pobl yn hoffi naws wawdlyd Tŷ’r Cyffredin, ond yn y bôn, rwy’n amau fod pobl mewn gwirionedd yn cael rhyw foddhad o’i wylio. Pan fo siambr yn swnllyd ac yn fywiog, mae gwleidyddiaeth yn fyw; felly hefyd ddemocratiaeth.

Ond mae troi Senedd TV ymlaen yn fath wahanol o sioe. Ar wahân i brif nodwedd Cwestiynau’r Prif Weinidog ac ambell i ddadl, mae’r siambr yn aml yn debycach i swyddfa cynllun-agored yn hytrach na sedd ein democratiaeth genedlaethol.

Un o’r pethau cyntaf a wnes wedi cymryd y llw oedd gofyn i’r adran TG gymryd fy nghyfrifiadur allan o’r siambr - i wneud i ffwrdd â’r demtasiwn i mi fanteisio ar gyfnod arbennig o ddiflas yn y trafodaethau i ddal i fyny ag e-byst.

Yn anffodus, dywedwyd wrthyf nad yw hyn yn bosib oherwydd y byddai’n tarfu ar ‘natur esthetig’ y siambr. Felly yn lle hynny, rwyf wedi cytuno i gyfaddawd hanner ffordd lle mae monitor fy nghyfrifiadur wedi ei ddiffodd yn barhaol.

Mae hyn braidd yn anfoddhaol, yn anffodus, oherwydd ei fod yn golygu fy mod yn treulio pob sesiwn lawn yn edrych ar fy adlewyrchiad fy hun ar fonitor y cyfrifiadur. Pan ydych yn edrych fel fi, dyw hynny ddim yn llawer o hwyl.

Tydw i ddim o blaid gwahardd cyfrifiaduron yn llwyr o’r siambr. Rwy’n gyfarwydd ag aelodau sy’n gweithio’n galed ac yn defnyddio TG y siambr, ac y mae hynny’n gweithio iddynt hwy. Ond rwy’n meddwl y dylem oll fod â’r hawl i ofyn am ddim TG o gwbl, ac rwy’n gobeithio y bydd ein Llywydd newydd yn ystyried hyn.

Mewn gwirionedd, bu misoedd cyntaf tymor y Cynulliad hwn yn fwy cyffrous na’r gorffennol. Rhoes refferendwm yr UE yn unig ddigon o gyfle am gyffro o ddwy ochr y ddadl. Cafwyd trosiant sylweddol wedi’r etholiad diwethaf, sy’n golygu fod yno gyfran fawr o ACau – mae dros draean o aelodau’r Cynulliad hwn yn newydd. Efallai mai’r egni newydd hwn, a natur fwy cystadleuol cael gelyn gwleidyddol newydd ar ffurf UKIP, sydd wedi creu deinameg gwahanol.

Mae’n werth nodi pan fu drama yn y Cynulliad– fel gydag ethol y Prif Weinidog – fod holl docynnau’r oriel gyhoeddus yn y Senedd wedi eu cymryd. Mae gan bobl ddiddordeb, pan fyddwn ni’n rhoi rhywbeth i’w diddori.

Rwy’n meddwl fod dyletswydd ar grwpiau gwleidyddol i fod yn fwy creadigol gyda’r pynciau maent yn ddewis ar gyfer dadleuon yn y Senedd a allai fywiogi pethau trwy drafod yn fwy cyffrous ar faterion amserol y dydd. Rwy’n credu hefyd y dylem ystyried newid y rheolau sefydlog i ganiatáu mwy o bleidleisiau trwy alw yn hytrach na thrwy bleidleisio electronig dienw. Efallai pan fyddwn yn pleidleisio ar gyllideb derfynol y llywodraeth, y gallem bleidleisio trwy alw. Nid yn unig y byddai hyn yn gwneud gweld y siambr yn fwy diddorol, fe fyddai hefyd yn fwy tryloyw.

Rwy’n meddwl mai ffactor arall, er mai un bychan, sy’n effeithio ar y siambr fel golygfa, yw naws y trafodaethau. Nid fy mod yn credu o gwbl y dylem fabwysiadu dull San Steffan o alw pobl yn ‘anrhydeddus’ neu ‘wir anrhydeddus’, ond efallai fod y Cynulliad, wrth geisio bod yn wahanol i San Steffan, wedi mynd yn rhy bell i’r cyfeiriad arall?

Rwy’n dal i glywed rhai yn gofyn cwestiynau neu’n gwneud areithiau nad ydynt yn cael eu cyfeirio trwy’r Llywydd ac y mae cyfeiriadau weithiau at aelodau eraill wrth eu henwau cyntaf. Oni ddylid cael rhyw naws ffurfiol bob adeg sy’n adlewyrchu difrifoldeb y sefydliad a’i waith?

Dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol hefyd i’r modd mae cwestiynau yn cael eu cyflwyno i aelodau cabinet. Ar hyn o bryd, dim ond arweinyddion y pleidiau a llefarwyr sy’n cael cyfle i holi cwestiynau heb roi rhagrybudd am y pwnc maent am godi. Mae dwy her yn hyn. Yn gyntaf, mae’n golygu fod cwestiynau yn cael eu cyflwyno ymlaen llaw ac o’r herwydd efallai nad ydynt mor amserol na pherthnasol ag yr oeddent pan luniwyd hwy gyntaf.

Yn ail, mae’n golygu fod nifer o gwestiynau ac atebion yn swnio fel mynd trwy’r mosiwns, am eu bod yn gofyn cwestiynau parod sy’n derbyn atebion parod cyn gofyn cwestiwn atodol.

Efallai y byddai’n werth newid ychydig ar y system fel bod aelodau yn cael eu dethol i ofyn cwestiynau yr wythnos cyn amser cwestiynau, ond eu bod yn gallu gofyn unrhyw gwestiwn – ac yna un atodol – ar y diwrnod. Byddai hyn yn gwneud y trafodaethau yn fwy anodd eu rhagweld ac efallai yn fwy perthnasol a diddorol.

Mae ymwneud â’r cyhoedd yn fwy na rhoi sioe dda ymlaen. Mae’n rhaid i ni feddwl hefyd am bwy yr ydym yn estyn allan atynt pan fyddwn yn chwilio am syniadau newydd a phan fyddwn yn ceisio dal y sawl mewn grym i gyfrif. Buaswn wrth fy modd yn gweld pwyllgorau’r Cynulliad yn cymryd agwedd fwy mentrus er mwyn cynnwys amrywiaeth mwy o leisiau mewn ymgynghoriadau a sesiynau casglu tystiolaeth.

Fe hoffwn weld y cyhoedd yn gallu trydar neu e-bostio neu’n anfon cwestiynau trwy facebook wrth i bwyllgorau groesholi tystion arbenigol. Gallai cadeirydd pob pwyllgor wedyn roi cwestiynau i dystion sydd yn cael eu cyflwyno’n syth gan aelodau’r cyhoedd.

Byddai’n ffordd o glywed safbwyntiau gwahanol, a byddai’n agor drysau democratiaeth Cymru i’r boblogaeth yn gyffredinol.

Mae cychwyn Cynulliad newydd yn gyfle i ni adnewyddu gwleidyddiaeth Cymru ac ymchwilio i ffyrdd gwreiddiol o estyn allan at bawb y tu hwnt i Fae Caerdydd. Rwy’n teimlo ei bod yn anrhydedd o’r mwyaf bod yn un o ddim ond trigain o bobl mewn gwlad o dair miliwn sy’n cael eistedd yn ein deddfwrfa genedlaethol. Fy ngobaith yw y byddaf yn perthyn i Gynulliad fydd yn ymdrechu’n gyson i’w ail-ddyfeisio ei hun er mwyn adfywio’r genedl a’i chymunedau.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.