Adroddiad yn cefnogi Morlyn Llanw Bae Abertawe yn ‘drawsnewidiol’ medd Plaid Cymru

tidal_lagoon.jpg

Mae Plaid Cymru wedi dweud fod cyhoeddi adroddiad yn San Steffan gan gyn-Weinidog ynni y DG Charles Hendry yn cefnogi Morlyn Llanw Bae Abertawe yn gam a all drawsnewid diwydiant morlynnoedd llanw.

Galwodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood AC am i’r prosiect ddod â chynifer ag sydd modd o swyddi lleol, gan ddweud y bydd y morlyn yn “datgloi cyfnod newydd” i ynni gwyrdd ledled Cymru a thu hwnt.

Mae Ms Wood heddiw yn ymweld â disgyblion chweched dosbarth yng Nghrymych a Dinbych y Pysgod yn Sir Benfro, a dywedodd y dylid lledaenu manteision economaidd y prosiect ar hyd y gorllewin cyfan.

Meddai AC y Rhondda Leanne Wood:

“Mae’r adroddiad heddiw sydd yn cefnogi’r Morlyn Llanw yn newyddion sydd yn drawsnewidiol i Abertawe ac i’r genedl.

“Nawr mae’n rhaid i ni wneud yn siwr fod y prosiect yn cynhyrchu ac yn esgor ar swyddi lleol. Mae ar Abertawe angen y buddsoddiadau mawr hyn ac i fod yn ganolbwynt diwydiannol i’r gorllewin, gan greu gwaith i’r bobl yn y ddinas a hefyd i bobl yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

“Mae gan y Llywodraeth Lafur ran hanfodol i’w chwarae yma, a bydd Plaid Cymru yn galw arnynt i greu cynllun sgiliau llawn fydd yn sicrhau fod pobl leol yn cael cyfle i gael y sgiliau iawn ac ymgeisio am swyddi, yn enwedig mewn adeiladu. Rydym eisiau gofalu fod dur Cymru’n cael ei ddefnyddio i’w godi, a bod cwmniau Cymreig yn cael contractau i weithio arno.

“Nid yw gorllewin Cymru wedi cael cyfran deg o fuddsoddiad yn y gorffennol. Ond os aiff y prosiect hwn rhagddo, bydd yn datgloi cyfnod newydd i ynni gwyrdd.

“Fe fydd yn rhoi Cymru ar y map a gallai arwain at fwy o forlynnoedd llanw ar ein harfordir.

“A derbyn y bydd pryderon amgylcheddol a rheoleiddiol yn cael eu hateb trwy’r broses gynllunio, fe allem fod yn gweld Cymru yn arwain y byd yn y dechnoleg newydd hon.”

Meddai’r Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Simon Thomas:

“Mae’r adroddiad sy’n cefnogi datblygu’r Morlyn Llanw i‘w groesawu. Mae canfyddiadau Charles Hendry yn cryfhau’r achos dros ddatblygu ynni o forlynnoedd llanw.

“Does gan Cymru eto mo’r rhyddid i benderfynu ar y cynllun hwn. Rhaid i’r Llywodraeth Geidwadol wrando ar y dystiolaeth yn yr adroddiad hwn a chefnogi cynllun Bae Abertawe, neu fe fyddant yn cael eu gweld fel rhai sy’n troi eu cefn ar Gymru.
“Cefnogwyd prosiect morlyn Abertawe ar draws y pleidiau yng Nghymru. Rwyf wedi trafod gyda llawer o gwmniau yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin sydd yn barod i fidio am y caffael a ddaw yn ei sgil.

“Yn ogystal â’r manteision economaidd sylweddol, byddai mur arfaethedig y môr hefyd yn amddiffyn cymunedau arfordirol Bae Abertawe rhag erydu a stormydd. Gallai’r buddsoddiad felly leihau’r angen i wario ar amddiffynfeydd llifogydd a’r arfordir.
“Byddai’r morlyn yn galluogi Cymru i weithredu o ran ei chyfrifoldeb byd-eang am newid hinsawdd a chwarae rhan arweiniol yn sector ynni’r môr, gan weithredu fel catalydd i weddill y DG ac yn fyd-eang er mwyn datblygu’r dechnoleg.”

Ychwanegodd AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts:

“Fel mae’r adroddiad hwn yn argymell, rhaid i Lywodraeth San Steffan beidio â bod yn chwit-chwat a bwrw ymlaen gyda datblygu Morlyn Llanw Bae Abertawe i ddatgloi potensial Cymru fel arweinydd y byd mewn ynni gwyrdd.

“Bydd Plaid Cymru yn awr yn gweithio ar bob lefel i bwyso ar y rhai sydd mewn grym i wneud i’r prosiect hwn greu swyddi lleol i bobl yn y gorllewin.”

“Mae’r gwerth y gall morlynnoedd llanw ei ddwyn i Gymru yn amlwg ac y mae’n bryd i Gymru allu penderfynu ar y prosiectau seilwaith allweddol hyn.

“Mae Cwmni Morlyn Llanw Bae Abertawe wedi ail-ddatgan ei ymrwymiad i ganoli ar sylfaen cyflenwi Cymreig lleol, a rhaid i Lywodraethau Cymru a’r DG yn awr weithio ynghyd i wireddu hyn.”

1. Postiad blog

http://www.iwa.wales/click/2016/12/ynni-cymru-and-an-energy-efficient-wales/

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.