Plaid Cymru yn pwyso am ehangu data symudol

hywel_conf.jpg

Mae Plaid Cymru wedi yn cyflwyno gwelliannau yn Nhŷ’r Cyffredin er mwyn sicrhau y gall y DG gyfan gael mynediad at signal data symudol cyflym iawn.

Byddai gwelliannau Plaid Cymru yn galluogi cwmnïau rhwydweithiau symudol i ddefnyddio seilwaith a gyllidir yn gyhoeddus fel mastiau, gan wneud i ffwrdd â’r angen am godi mastiau ychwanegol ac a allai gyflymu’r broses o gyrraedd smotiau duon symudol ar hyd Cymru a gwledydd eraill y DG.

Mae’r blaid hefyd wedi galw ar i ddefnyddwyr ffonau symudol gael caniatâd i ‘grwydro’ i rwydweithiau eraill lle na all eu darparwr hwy ddarparu signal. Bydd llefarydd y Blaid ar y cyfryngau, Hywel Williams AS, yn dadlau ei bod yn “wirion”, tra bod dinasyddion Cymru yn y tywyllwch o ran signal data symudol, nad yw’n broblem i deithwyr tramor sydd yn cael crwydro.

Mae adroddiad ‘Cenhedloedd Cysylltiedig’ Ofcom, a gyhoeddwyd yn 2015, yn nodi Cymru fel y wlad yn y DG gyda’r lleiaf o signal 3G. Mae derbyniad llais 2G a 3G yn yr awyr agored ar ffyrdd A a B gan y pedwar cwmni tua 50%, gydag un cwmni yn unig yn cyrraedd figwr o 76%. 65% yn unig oedd canran yr eiddo oedd yn cael derbyniad galwadau llais sylfaenol o’r pedwar rhwydwaith mawr yn 2015, o gymharu â 85% i weddill y DG.

Sylw llefarydd Plaid Cymru ar y cyfryngau, Hywel Williams AS, oedd:

“Bu’r hyn a elwir yn ‘smotiau duon’ yn broblem yng Nghymru yn rhy hir o lawer, ac y mae un llywodraeth ar ôl y llall wedi methu’n llwyr â’i thrin. Mae Ofcom wedi nodi Cymru fel y wlad leiaf cysylltiedig yn y DG, gyda chefn gwlad Cymru yn arbennig yn cael gwasanaeth gwael iawn.

“Nid anhwylustod yn unig mo hyn – mae’n rhwystr niweidiol iawn i lawer rhan o Gymru ac yn enwedig ardaloedd gwledig lle nad oes mo’r fath beth â ‘masnach sy’n galw heibio’. Mae rhwystr i fusnes hefyd yn rhwystr i swyddi a dirywiad trefi gwledig.

“Er bod y broblem yn ddifrifol i ddinasyddion a busnesau Cymru, nid yw’n broblem i ymwelwyr â’r DG oherwydd bod eu cardiau SIM tramor yn awtomatig yn caniatau crwydro cenedlaethol, sy’n golygu y bydd eu ffonau symudol yn cysylltu â’r signal cryfaf sydd ar gael, waeth pwy sy’n darparu.

“Ar y llaw arall, mae defnyddwyr ffonau symudol Prydain yn gorfod aros gydag un darparwr, ac o’r herwydd, yn dioddef diffyg derbyniad ffonau symudol mewn ardaloedd lle nad yw eu darparwr yn weithredol. Mewn rhai ardaloedd yng ngogledd-orllewin Cymru, mae defnyddwyr gwasanaeth yn fwy tebygol o fedru codi signalau crwydrol cryfach o Iwerddon na signalau gan gwmni eu darparwr eu hunain.

“Mae crwydro cenedlaethol yn cael ei ganiatáu yn Awstralia, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau, Canada a rhai rhannau o Ffrainc. Byddai ein gwelliannau ni yn caniatau dinasyddion a busnesau Cymru i wneud hynny hefyd.

“Byddai ein gwelliannau hefyd yn caniatau i gwmnïau rhwydweithiau ffonau symudol lluosog megis O2 a Vodafone ddefnyddio seilwaith a gyllidir yn gyhoeddus fel mastiau, nid dim ond EE fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Byddai hyn yn gwneud i ffwrdd â’r angen iddynt godi mastiau newydd eu hunain, gan gyflymu’r broses o gyrraedd y smotiau duon symudol hyn a helpu i gael derbyniad ym mhob cwr o’r wlad.

“Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyllido mastiau i Rwydwaith y Gwasanaethau Brys felly bydd y seilwaith yno eisoes. Er bod y Llywodraeth wedi mynd i’r contract hwn gydag EE, ein dadl ni yw, am y gall EE gynnig gwell gwasanaethau masnachol o ganlyniad i’r seilwaith hwn, dylai’r Llywodraeth ganiatáu mynediad i bob rhwydwaith masnachol yn hytrach na rhoi monopoli i un cwmni.

“Mae un llywodraeth ar ôl y llall wedi addo trin y broblem hon ac wedi methu â gwneud hynny. Dylai’r llywodraeth dderbyn gwelliannau Plaid Cymru a chadw eu haddewid i bobl Cymru a’r DG.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.