AS Plaid Cymru yn ymosod ar wleidyddiaeth ‘Lloegr Fach’ San Steffan

LSR_conf_3.jpg

Mae’r AS Plaid Cymru a anwyd yn Llundain, Liz Saville Roberts, wedi cwestiynu hawl San Steffan i osod hunaniaeth Brydeinig ar gymunedau Cymru, gan gyhuddo gwleidyddion San Steffan o chwarae “gwleidyddiaeth hunaniaeth Lloegr Fach.”

Ymateb yr oedd AS Dwyfor Meirionnydd i gwestiwn brys yn Nhŷ’r Cyffredin ar gyhoeddi Adolygiad y Fonesig Casey, sydd yn argymell gorfodi pobl i dyngu “llw o integreiddio gyda gwerthoedd a chymdeithas Prydeinig”.

Archwiliodd yr Adolygiad ffyrdd i wella cydlynedd cymunedol ac integreiddio. Byddai unrhyw un fyddai’n symud i unman yn Ynysoedd Prydain o wlad arall, ac unrhyw un fyddai’n dal swydd gyhoeddus, waeth ym mha wlad y’u ganwyd, yn gorfod tyngu llw, os derbynnir argymhelliad yr adroddiad.

Sylw yr AS Plaid Cymru a anwyd yn Llundain, Liz Saville Roberts AS, oedd:

“Fel Llundeinwraig a anwyd ac a fagwyd yno, sydd yn cynrychioli’r etholaeth fwyaf Cymraeg ei hiaith yn unman yn y DG, wela’i ddim sut y bydd hunaniaeth a orfodir gan y Wladwriaeth Brydeinig yn arwain at gytgord cymunedol na pharch.

“Fydd gwleidyddiaeth hunaniaeth Lloegr Fach San Steffan ddim yn arwain at fwy o integreiddio cymdeithasol – yr hyn a wnaiff fydd dieithrio pobl ymhellach oddi wrth sefydliad yn ne-ddwyrain Lloegr sydd eisoes yn bell ac allan o gysylltiad.

“Fe fydd integreiddio a chydlynedd cymunedol yn tyfu o beri bod y gwasanaethau a’r strwythurau cefnogi angenrheidiol ar gael er mwyn gofalu y caiff cymunedau difreintiedig yr un cyfleoedd â chymdeithas yn gyffredinol. Byddai mygu rhai diwylliannau, a gorfodi eraill trwy lw, yn gam imperialaidd niweidiol iawn tuag yn ôl.

“Ers yn rhy hir, mae pobl sydd wedi mudo i’r DG, yn aml oherwydd eu bod wedi gorfod ffoi rhag rhyfel, tlodi a thrychinebau naturiol, wedi eu gadael ar eu pennau eu hunain mewn gwlad estron heb ddim neu fawr ddim cefnogaeth gan y Llywodraeth, ac yna yn cael eu beirniadu am fod yn rhy ara-deg yn dod yn rhan o gymdeithas.

“Cred Plaid Cymru y dylai pawb deimlo eu bod yn cael eu parchu yn eu cymunedau, nid cael eu beirniadu am eu hamrywiaeth a’u ffyrdd gwahanol o fyw. Mae angen i wasanaethau fod ar gael i’w sawl sy’n ymgartrefu yn y DG, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod sut i fyw a bod mewn cymdeithas a chychwyn ar eu bywydau newydd.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.