“Dyw Llafur ddim yn ffrind i Gymru” - Jonathan Edwards

Jonathan_Edwards1bsmall.jpg

Mae Plaid Cymru wedi lansio ymosodiad ar y Blaid Lafur, gan rybuddio pleidleiswyr nad yw Llafur yn “ffrind i Gymru o gwbl”.

Wrth dynnu sylw at record bleidleisio’r blaid yn San Steffan, cyhuddodd ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards, y Blaid Lafur o “dwyllo” gyda gwleidyddion yn barod i gamarwain pleidleiswyr er mwyn ennill eu pleidleisiau.

Cyhuddodd y Blaid Lafur o anwybyddu ei record yn Llywodraeth Cymru – pleidleisio yn erbyn dileu contractau dim oriau, codi £9,000 y flwyddyn ar fyfyrwyr am eu haddysg, a methu â chadw gwasanaethau cyhoeddus yn nwylo’r cyhoedd.

Byddai pleidleisio i’r Blaid Lafur yn bleidleisio trwy tombola, medd Mr Edwards, sy’n dweud fod ASau Llafur yn treulio mwy o amser yn ymosod ar eu harweinydd eu hunain nac a wnânt yn sefyll yn erbyn Theresa May.

  • Dywed y Blaid Lafur eu bod yn gwrthwynebu’r toriadau gwariant a osodwyd gan y Torïaid yn San Steffan ond fe wnaethant bleidleisio gyda’r Torïaid i weithredu £30 biliwn o doriadau gwariant, yn canoli’n bennaf ar fudd-daliadau lles;
  • Mae maniffesto’r Blaid Lafur yn cynnwys ymrwymiad i ddileu contractau dim oriau ond fe wnaethant wrthwynebu ymdrechion Plaid Cymru i ddileu contractau gorfodol dim oriau yng Nghymru ar saith achlysur gwahanol;
  • Pleidleisiodd y Blaid Lafur i ddyblu incwm y teulu brenhinol er bod gweddill y wlad yn dioddef mesurau llymder;
  • Pleidleisiodd y Blaid Lafur gyda’r Torïaid i ostwng taliadau credyd treth i’r gweithwyr ar y cyflogau isaf;
  • Mae maniffesto’r Blaid Lafur yn cynnwys ymrwymiad i ddatganoli plismona i Gymru, ond mae eu ASau wedi gwrthod ymdrechion Plaid Cymru dro ar ôl tro i wneud hynny;
  • Pleidleisiodd y Blaid Lafur gyda’r Torïaid i dorri budd-daliadau i bobl anabl a’r rhai gyda salwch tymor-hir;
  • Ni ddaeth y Blaid Lafur i bleidleisio er mwyn sicrhau y byddai’n rhaid i’r Prif Weinidog ystyried amcanion Cymru wrth gynnal trafodaethau gyda’r UE;
  • Pleidleisiodd y Blaid Lafur yn erbyn mynnu bod cytundebau masnach yn y dyfodol yn cael eu cymeradwyo gan bob un o bedair gwlad y DG, gan bleidleisio yn hytrach dros i Lundain ddweud beth fyddai’r telerau.

Meddai Jonathan Edwards:

“Bob etholiad, mae’r Blaid Lafur yn dweud yr un peth - mai hwy yw’r blaid all atal y Torïaid ac y byddant yn sefyll dros Gymru, ond gweithredoedd, nid geiriau, sy’n cyfrif. Dyw pleidleisio dros Lafur ddim yn atal y Torïaid - y cyfan mae’n roi i ni yw’r status quo.

“Mae gweithredoedd yn llefaru’n uwch na geiriau, ac y mae record y Blaid Lafur yn siarad drosto’i hun.

"Dyw Llafur ddim yn ffrind i Gymru. Pan fyddant yn trafferthu i bleidleisio, yn amlach na heb maent yn pleidleisio yn erbyn buddiannau Cymru, nid drostynt.

“Yn yr Alban, maent yn gweithio ochr yn ochr â’r Toriaid mewn cynghorau, ac y maent yn gweithio gyda’i gilydd i ennill seddau San Steffan rhyngddynt. Mae Jeremy Corbyn ei hun yn gyson wedi pleidleisio yn erbyn datganoli - cadw adnoddau naturiol Cymru yn nwylo gwleidyddion San Steffan; cadw Cymru mor ddibynnol ag sydd modd ar San Steffan. Ysgrifennydd Gwladol cysgodol Cymru a sicrhaodd fod y consensws trawsbleidiol ar gryfhau democratiaeth Gymreig yn cael ei chwalu trwy Broses honedig Gŵyl Dewi.

“Beth bynnag ddywed Jeremy Corbyn, mae ei ASau yn pleidleisio gyda’r Toriaid pan ddaw’n fater o helpu’r tlotaf. Pleidleisiodd Llafur dros y pecyn £30 biliwn o doriadau gwariant oedd yn canoli yn bennaf ar gapio taliadau lles i’r rhai sydd ei angen. Fe wnaethant bleidleisio i ostwng taliadau credyd treth i’r rhai ar gyflogau isaf ac ar y llaw arall, fe wnaethant gefnogi pleidlais i ddyblu incwm y teulu brenhinol.

“Dywed eu maniffesto eu bod eisiau dileu ffioedd dysgu, ond byddai modd iddynt wneud hynny heddiw yng Nghymru lle maent yn llywodraethu. Yn hytrach, codir £9,000 y flwyddyn ar fyfyrwyr Cymru i fynd i’r brifysgol, diolch i Lafur. Maent yn dweud eu bod eisiau dileu contractau dim oriau, ond cawsant saith cyfle gwahanol i wneud hynny yng Nghymru, a phob tro, maent naill ai wedi ymatal neu bleidleisio yn erbyn Plaid Cymru.

“Dywed eu maniffesto eu bod o blaid datganoli plismona, ond y maent wedi gwrthwynebu hyn yn gyson pan ddaw’n fater o bleidleisio arno. Mewn gwirionedd, dywedodd yr ymgeisydd Llafur yn y Rhondda yr wythnos hon ei fod yn ei wrthwynebu, er ei fod yn ei faniffesto.

“Byddai rhoi croes gyferbyn â Llafur yn yr etholiad hwn yn bleidleisio trwy tombola. Beth gewch chi - Corbynista, Blairiad neu Browniad? Yr unig beth sy’n sicr gyda’r Blaid Lafur yw y bydd yn rhaid iddynt yn wastad ateb i’w prif swyddfa yn Llundain, fyth i’r bobl sy’n eu hethol.

“Hyd yn oed petai Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog, yr unig ffordd i’w orfodi i gymryd sylw o Gymru - i gofio ein bod yn bodoli ac i gyflwyno ar brosiectau hanfodol a anwybyddwyd gan un llywodraeth Dorïaidd a Llafur ar ôl y llall, yw gofalu bod bloc cryf, swnllyd ac unedig o ASau Plaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin, yn sefyll dros Gymru bob amser.

“Mae gan yr Alban ei bloc yn San Steffan. Mae ar Gymru angen ei bloc ei hun.

“Yr unig ffordd i sicrhau bod ein rheilffyrdd yn cael eu trydaneiddio, fod Morlyn Bae Abertawe yn digwydd, a bod rhwydwaith y ffyrdd yn addas i’r 21ain ganrif yn cael ei godi ledled Cymru yw pleidleisio dros Blaid Cymru.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.