Mae Llafur wedi colli eu cyfeiriad moesol

lebah.jpg

Unwaith arferai Llafur yng Nghymru gadw gweddill Llafur y DG yn onest.

Unwaith, hwy oedd plaid y tlotaf a’r mwyaf bregus mewn cymdeithas; heddiw, rydym yn gweld mwy na chwarter y plant yng Nghymru Llafur yn byw mewn tlodi. Mae’r Llywodraeth Lafur wedi dileu ei strategaeth tlodi plant ac wedi rhoi’r gorau i’w targedau. Mae wedi dileu Cymunedau’n Gyntaf - eu prif raglen gwrthdlodi - heb roi dim yn ei lle. Mae hefyd wedi rhoi’r gorau i’w cynllun grantiau oedd yn cefnogi ein teuluoedd tlotaf gyda chost prynu gwisg ysgol - ac y mae hyn wedi digio rhieni sy’n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.

Mae Llafur hefyd wedi dileu Grant Byw Annibynnol Cymru, yn groes i benderfyniad eu haelodau eu hunain yn eu cynhadledd flynyddol. Cyflwynwyd y grant i amddiffyn ein pobl gyda’r anableddau mwyaf difrifol rhag toriadau’r Torïaid. Maent yn awr yn wynebu llai o gefnogaeth a mwy o galedi.

Saith gwaith cynigiodd Plaid Cymru ddileu contractau dim-oriau. Saith gwaith, pleidleisiodd Llafur yng Nghymru yn erbyn hyn – eto yn groes i bolisi eu plaid eu hunain.

Mae’r unig weinyddiaeth genedlaethol dan reolaeth Llafur yn y DG yn prysur ddod yn destun cywilydd i Blaid Lafur Jeremy Corbyn. Mae mwy a mwy o aelodau yn siarad yn ddirmygus am fethiannau Llafur Cymru wedi bron i 20 mlynedd mewn grym.

Unwaith, hwy oedd plaid y GIG, perchenogaeth gyhoeddus a gwladoli, mae Llafur heddiw yn chwarae’r ffon ddwybig. Er i’r Prif Weinidog ddatgan fod ei lywodraeth yn “gyfan gwbl yn erbyn preifateiddio” ac i’w Ysgrifennydd Gwasanaethau Cyhoeddus ddweud wrth gynhadledd ei blaid yn y DG nad oes preifateiddio yng Nghymru, mae eu gweithredoedd yn dweud stori wahanol iawn.

Mae’r bwrdd iechyd mwyaf yng Nghymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - yn awr wedi cadarnhau fod ganddynt gefnogaeth Gweinidogion Cymru i breifateiddio’r holl wasanaethau dialysis ledled y gogledd. A hyn gan lywodraeth sy’n treulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn osgoi cwestiynau yn y Senedd trwy gondemnio preifateiddio iechyd gan y Torïaid yn Lloegr!

Dylid cyhuddo Llafur Cymru o wrthdroi gwaddol Nye Bevan yn y wlad a ysbrydolodd y GIG.

Dyw hyd yn oed addysg ddim yn cael dianc. Dan Lafur, mae nifer yr asiantaethau athrawon llanw preifat yng Nghymru bellach wedi saethu o 12 i bron i 50 cwmni. Maent oll yn cystadlu i elwa ar draul ein hysgolion sydd dan bwysau ariannol, ac yn gwneud hynny gyda chydsyniad clir y llywodraeth hon.

Unwaith, hwy oedd plaid cydraddoldeb a chyfle i bawb , ond mae Llafur wedi dewis eithrio’r plant tlotaf - y rheiny o deuluoedd di-waith - o gael gofal plant am ddim. Mae eu penderfyniad i gyfyngu eu polisi poblogaidd o 30 awr o ofal plant am ddim i deuluoedd sy’n gweithio wedi ei feirniadu’n hallt gan Gomisiynydd Plant Cymru ac arbenigwyr eraill yn y maes megis Achub y Plant. Dywed Llafur fod rhaglen Dechrau’n Deg yn ffynhonnell arall o gefnogaeth - ond y mae’r rhan fwyaf o’r plant mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn byw y tu allan i’r rhaglen ddaearyddol gyfyngedig hon. Mae hynny yn gadael grŵp enfawr o’n plant tlotaf yn debygol o ddisgyn hyd yn oed ymhellach y tu ôl i’w cyfoedion cyn iddynt  ddod i oed ysgol.

Unwaith, hwy oedd y blaid oedd yn credu mewn datganoli, ond mae Llafur yn awr wedi ildio i’r Torïaid ar Fesur Ymadael yr UE ac yn rhoi grym i Lywodraeth Dorïaidd Llundain ar feysydd polisi cyhoeddus allweddol. Roed dyn arwyddocaol gweld Aelodau Cynulliad Torïaidd ac UKIP yn un rhes yn llongyfarch Ysgrifennydd Cyllid Llafur ar y fargen. Dywedodd un mai dyma’r tro cyntaf erioed iddo longyfarch Llywodraeth Lafur ar unrhyw beth. Mae hynny’n dweud popeth wrthym am lywodraeth y safodd eu Prif Weinidog unwaith ochr yn ochr â Nicola Sturgeon o’r Alban i wrthod ymgais San Steffan i gipio grym. Byrhoedlog iawn oedd ei safbwynt herfeiddiol.

Yn yr un modd, treuliodd Gweinidog Tai Llafur bron i awr yn Siambr y Cynulliad yr wythnos ddiwethaf yn beirniadu penderfyniadau a wnaed gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, a hithau funudau’n unig ynghynt wedi dweud nad oedd am i’r cyfrifoldeb dros les gael ei ddatganoli i Gymru. Anhygoel.

Cadarnhaodd Llafur yng Nghymru y byddai’n well ganddynt ganiatáu i Lywodraeth Dorïaidd y DG barhau i ymosod ar ein dinasyddion tlotaf a mwyaf bregus, yn hytrach na mynnu pwerau ar batrwm yr Alban dros les er mwyn eu hamddiffyn.

Dyma blaid sydd yn amlwg wedi colli ei chyfeiriad moesol. Mae’n amddifad o uchelgais i’r wlad lle bu’n tra-arglwyddiaethu yn wleidyddol ers bron i ganrif. Mae wedi tanseilio datganoli trwy lywodraethiant gwael, diwylliant cyfeillion cudd ac agenda gwleidyddol o gadw grym a rheolaeth yn hytrach na defnyddio’r grym hwnnw ers lles y cyhoedd.

Roedd yna unwaith Blaid Lafur yng Nghymru.

 

 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.