John Osmond

JohnOsmond_-_Preseli_Penfro.jpg

Ymgeisydd Plaid Cymru dros etholaeth Preseli Penfro

John Osmond yw ymgeisydd Plaid Cymru ym Mhreseli Penfro ar gyfer etholiad y Cynulliad. Mae ganddo wreiddiau dwfn yn y sir, wedi cael ei fagu yn yr Aber Bach yn ogystal ag yn y Fenni.

Safodd ym Mhreseli yn etholiad y Cynulliad yn 2007 ac arweiniodd ymgyrch lwyddiannus y flwyddyn honno i atal israddio Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd. Dywed y bydd hyn yn dal yn flaenoriaeth yn yr ymgyrch sydd ar droed.

Fel ysgrifennwr a newyddiadurwr, John oedd sylfaenydd a Chyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig, melin drafod polisi sydd wedi canolbwyntio llawer o’i waith ynghylch polisïau a datblygiadau yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’n awdur nifer o lyfrau ar wleidyddiaeth a diwylliant Cymru; bu’n newyddiadurwr gyda’r Western Mail a hefyd wedi gweithio fel cynhyrchydd teledu i ITV a’r BBC. Mae’n Gymrawd o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd a dyfarnwyd iddo MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.

Helpwch ymgyrch John

Nôl i’r map etholaethau

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.