'Ma'n rhaid i Senedd ddadwneud ei gamgymeriad dros Ryfel Irac' - Adam Price

Adam_Price_med.jpg

Adam Price oedd Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr rhwng 2001 a 2010 ac mae bellach yn cynrychioli'r etholaeth fel ei Aelod Cynulliad

Bydd 2.6 miliwn gair Chilcot – pump neu lai ar gyfer pob bywyd gafodd ei golli o ganlyniad i’r rhyfel – yn cymryd peth amser i’w dreulio.

Ond er mwyn ei ddeall mae angen deall ei darddiad. Daeth yr ymrwymiad i gynnal ymchwiliad newydd i Ryfel Irac – er protestiadau fod Hutton, Butler ac adroddiadau gan Bwyllgorau Dethol eisoes wedi troedi’r tir – yn y nos ar Hydref 31ain 2006. Fe wnaeth cynnig gan Blaid Cymru / SNP oedd yn galw am ymchwiliad newydd gefnogaeth annisgwyl gan yr Wrthblaid Swyddogol yn ogystal â 12 rebel o’r Blaid Lafur, gan gynnwys unigolyn o’r enw Jeremy Corbyn. Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Amddiffyn ar y pryd, Des Brown, ildio ar College Green yn San Steffan y byddai ymchwiliad newydd wedi’r cwbl, “pan oedd yr amser yn iawn”. Fe wnaethom ni gymryd mai yn dilyn tynnu milwyr Prydeinig yn ôl yr oedd yn ei feddwl, ond efallai fod enciliad personol Tony Blair yn ei feddwl hefyd.

Roedd cynnwys y cynnig y noson honno wnaeth sicrhau consesiwn Chilcot o’r Llywodraeth wedi yn seiliedig ar gynnig uchelgyhuddo oedd wedi dechrau fel menter trawsbleidiol yn 2004, oedd yn galw am ymchwiliad seneddol i asesu’r prif gyhuddiadau yn erbyn Blair. Ei fod wedi camarwain y Senedd. Ei fod wedi taro bargen gyfrinachol i gefnogi’r rhyfel. Ei fod wedi bod yn fyrbwyll wrth wneud ei ddyletswyddau, yn enwedig ei ddyletswydd o ofal tuag at filwyr Prydeinig.

Roedd casgliad Chilcot yn y tair prif feysydd yn gondemniol, ond y cwestiwn o dwyll sydd wrth galon yr achos yn erbyn y dyn a oedd yn Brif Weinidog. Mae’r adroddiad yn dweud fod Blair wedi gwneud datganiadau annilys dro at ôl tro: doedd ei honiad fod y wybodaeth am arfau o ddinistr torfol yn “helaeth, manwl ac awdurdodol” ddim yn “ddisgrifiad cywir o’r wybodaeth oedd yn seiliedig ar adroddiad y Cydbwyllgor Cudd-wybodaeth”; roedd ei ddatganiad fod y wybodaeth yn dangos “tu hwnt i unrhyw amheuaeth” fod Saddam yn parhau i gynhyrchu arfau cemegol a biolegol a’i fod yn gallu datblygu arfau niwclear “yn mynd yn bellach nag asesiadau’r pwyllgor”. Ni chafodd y gudd-wybodaeth ei hun ei ffugio ond mi gafodd yn fwriadol ei “ddefnyddio i baratoi deunydd er mwyn cefnogi datganiadau’r Llywodraeth, gan roi’r argraff bod sicrwydd heb gydnabod cyfyngiadau'r gudd-wybodaeth”.

Nid yw’n wir fod Blair wedi cyflwyno gwybodaeth oedd yn anghywir mewn ffordd onest i Dy’r Cyffredin fel y mae ef a’i glic o ffrindiau – sy’n lleihau trwy’r adeg – yn parhau i honni. Fe wnaeth e gam-gynrychioli’r gudd-wybodaeth gan wneud datganiadau yn ei gylch oedd ddim yn wir. Mae’r patrwm hwn o gelwyddau cyson yn awgrymu nad oedd hyn yn ddamweiniol ond yn cael ei yrru gan gymhelliant cudd – i geisio ennill hyder bregus y cyhoedd a’r Senedd dros bolisi rhyfel y Prif Weinidog ar y pryd. Gan na allwn ni adeiladu ffenestr i feddwl Blair, llai fyth ei enaid, mae hyn o leiaf yn dangos fod ei dwyll yn cyrraedd diffiniad o ddiystyru’r gwir y mae cyfraith Lloegr a Chymru yn ei ddefnyddio fel sail ar gyfer anwiredd maleisus.

Mae’r ymchwiliad gafodd ei ragweld gan y cynnig uchelgyhuddo gwreiddiol bellach wedi cael ei gwblhau. Mae’r ffeil wedi cael ei yrru i’r erlynydd cyhoeddus, sef, yn yr achos hwn, y Senedd ei hun. Cafodd Tŷ’r Cyffredin ei dwyllo i gefnogi rhyfel diangen, oedd o bosib yn anghyfreithlon, ar gynsail anwir. Fel mae Chilcot yn dadlau, mae hyn wedi gadael staen ar ein democratiaeth sef cwymp llwyr yn hyder y cyhoedd mewn Llywodraeth. Mae’n bosib mai gwaddol chwerwaf Irac yw’r cyfnod ôl-wirionedd hwn o gwrth-wleidyddiaeth, lle mae pob gwleidydd a phob arbenigwr yn cael ei ystyried i fod yn gelwyddgwn. Pwy all ddweud os wnaeth y ffordd tuag at Brexit ddechrau i rai yn rwbel a llanast Basra a Baghdad. Ond os yw arwain a chamarwain yn dod i olygu'r un fath ym meddwl ein dinasyddion, dyna ddechrau lawr y ffordd i uffern. Mi fydd mwy o dwyll, gwirioneddol neu canfyddiedig, fydd yn bwydo fflamau angerdd cyhoeddus i’r fath raddau nes y gall losgi democratiaeth ei hun.

Mae’r Senedd wnaeth y camgymeriad hwn angen ei ddadwneud gan ddefnyddio’r arfau sydd ganddo. Mae camarwain Tŷ’r Cyffredin yn gyfystyr a bod yn euog o ddirmyg tuag at y senedd, fel cafodd ei sefydlu yn achos Profumo dros hanner canrif yn ôl. Byddai’r fersiwn modern hwn o uchelgyhuddo, petai’n cael ei basio fel cynnig Seneddol, yn golygu y byddai rhaid i’r cyn Brif Weinidog sefyll ger Bar y Tŷ wrth i’r cyhuddiad gael ei ddarllen mas. Byddai sancsiynau eraill ar gael i’r Senedd yn unol á’i ddymuniadau – cael ei ddiarddel o’r Cyfrin Gyngor neu noson symbolaidd dan glo, nid ar bleser Ei Mawrhydi ond Ringyll y Senedd. Ond i lawer fe ddaw heddwch wrth weld y cyn Brif Weinidog yn dychwelyd i leoliad y drosedd, nid i ailadrodd ymddiheuriad hunangeisiol a'i dynnu nôl ddarn wrth ddarn dros gyfnod o ddwy awr mewn cynhadledd i'r wasg, ond i sefyll yn fud ac ar ben ei hun wrth i hanes gyflwyno ei ddyfarniad.

Fe wnaeth yr erthygl hon ymddangos yn wreiddiol yn y Sunday Times ar Orffennaf 10, 2016.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.