AC, AS ac ASE Plaid Cymru yn uno i ddathlu DIwrnod Rhyngwladol Menywod

Daeth Leanne Wood, Liz Saville Roberts a Jill Evans ynghyd i ddathlu’r brwydrau a enillwyd dros hawliau menywod yn ystod y ganrif ddiwethaf, gan amlygu hefyd pwysigrwydd gwarchod yr hawliau a enillwyd drwy ddeddfwriaeth yr UE.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood:

"Cawn gyfle nid yn unig i ddathlu’r holl bethau a gyflawnwyd gan fenywod ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod, ond hefyd i adfyfyrio ar bopeth.

"Mae’n bryd i ni sylweddoli fod yna lawer iawn i’w wneud o hyd os ydym am gyflawni cydradoldeb rhywiol. Wrth gydnabod fod yna fwy i’w gyflawni, does dim modd i ni esgus nad oes yna fygythiadau’n bodoli i’r hawliau a enillwyd gan fenywod hyd yn hyn.

"Yn ystod y ganrif ddiwethaf, fe wnaeth griw o fenywod cryf roi eu hunain yn llythrenol mewn perygl er mwyn cael y bleidlais i fenywod. Doedd dim ofn arnyn nhw.

"Doedden nhw ddim yn barod i dderbyn cael eu trin fel dinasyddion eilradd. Gan mlynedd wedi hynny ac rydym o hyd yn brwydro am gydraddoldeb rhywiol, diwedd i drais yn erbyn menywod a nifer o fesurau cydraddoldeb."

Ychwanegodd yr AC dros y Rhondda:

"Rwy’n falch o fedru galw fy hun yn ffeminist a byddaf yn ymuno â miliynau o rai eraill o amgych y byd er mwyn dathu Diwrnod Rhyngwladol Menywod."

Yn y cyfamser, fe ddywedodd Aelod Seneddol Dwyfor Meironydd, Liz Savile Roberts:

"Mae pryderon difrifol yn parhau i fodoli ynglŷn â’r effaith gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd ei gael ar hawliau menywod a bwriad y Llywodraeth o’u gwarchod.

"Mae angen sicrwydd pendant ar fenywod gan y llywodraeth y bydd hawliau sylfaenol fel tâl cyfartal a hawliau menywod beichiog yn y gweithle yn cael eu gwarchod ar ôl Brexit.

"Mae hi hefyd yn bryd i ni fel cymdeithas i addasu ein gwerthoedd ein hunain. Pam gaiff y gwaith a gysylltir gan amlaf â menywod gyn lleied o werthfawrogiad?

"Pam ddylai rhywun sydd yn ennill miliynau yn y ddinas, neu berson sydd yn cynnal peiriannau ennyn statws uchel a thâl gwell na rhywun sydd yn gofalu am hen bobl?

"Ni ddylai unrhyw berson ifanc gael ei wahardd fyth rhag cyflawni ei nod ar sail rhyw. Credaf ein bod i gyd yn gytun ar hyn. Ond yr hyn sydd fwyaf pwysig yw sut mae cymdeithas yn galluogi merched i ddychmygu a gwireddu eu nodau."

Amlygodd Jill Evans ASE rai o‘r ffyrdd mae’r Undeb Ewropeaidd wedi hyrwyddo achos cydraddoldeb rhywiol ymhellch:

"Fel cyn Is-gadeirydd y Pwyllgor Hawliau i Fenwyod & Chyfleoedd Cyfartal, rwyf wedi gweld ar yr olwg gyntaf yr effeithiau cadarnhaol a gafodd polisiau a phrojectau’r UE ar greu cydraddoldeb rhywiol.

"Mae bod yn rhan o’r UE wedi sicrhau bod yna fesurau mewn lle i ddiogelu menywod a phlant rhag trais ac sydd wedi darparu fframweithiau i amddiffyn y cysyniad o absenoldeb rhiant a sydd yn amddiffyn gweithwyr rhan-amser, sydd gan amlaf yn fenywod, rhag cael eu hecsploetio.

"Ar hyn o bryd, mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop a’r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd yn ariannu mynediad at gyflogaeth, camu ymlaen yn eich gyrfa, tâl cyfartal am waith cyfartal, yn ogystal â budsoddi yn narpariaeth isadeiledd gofal plant.

"Byddai colli’r arian hyn yn golygu y gallai elusennau a sefydliadau menywod yng Nghymru golli llawer iawn o’u nawdd. Ond yr hyn sydd yn peri mwy o ofid yw, o fod heb y fframwaith sydd ar hyn o bryd yn gwarchod hawliau menywod, byddai gan Lywodraeth y DG yr hawl i ddiddymu’r holl hawliau a enillwyd ganddyn nhw.

"Rhaid i ni weithio gyda’n gilydd yng Nghymru er mwyn sicrhau bod ein hawliau cyfredol yn cael eu cadw. Yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol, mae hyn yn bwysicach nac erioed."

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.