Mesur Cymru “annigonol” wedi methu yn ei unig ddiben

LSR_conf_1.jpg

Plaid Cymru yn gresynnu at Fesur Cymru yn y ddadl Seneddol derfynol

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth y DG am fethu â chyflawni eu nod fel y’i datganwyd o ddarparu “setliad datganoli clir a pharhaol”, yn y ddadl derfynol ar Fesur Cymru yn y Senedd, a feirniadwyd mor hallt.

Cyhuddodd y blaid Lywodraeth y DG o anwybyddu barn arbenigwyr yn ogystal â barn Llywodraeth Cymru a’r gwrthbleidiau, gan alw Mesur Cymru yn “anghynaliadwy” ac “wedi dyddio”.

Mae Mesur Cymru yn trosglwyddo rhai cyfrifoldebau o San Steffan i Fae Caerdydd ar faterion megis trefniadau etholiadol, ynni a threth incwm, ond mae hefyd yn tynnu ymaith rai meysydd arwyddocaol o gyfrifoldeb ar iechyd, addysg a’r iaith Gymraeg, ymysg meysydd eraill.

Mewn sylw, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar y cyfansoddiad, Liz Saville Roberts:

“Aeth Plaid Cymru at ddatblygu Mesur Cymru newydd yn ddidwyll, gan weithio’n adeiladol gyda phob plaid a’r rhai heb ymlyniad pleidiol, er mwyn sicrhau fod gan Gymru y sylfaen gadarn sydd ei angen er mwyn adeiladu’r wlad a’i gwneud yn genedl ffyniannus, iach gydag addysg dda, fel y dylai fod.

“Buom yn ymwneud â Chomisiwn Silk oedd yn sail i Fesur Cymru ac fe wnaethom gyfaddawdu, ynghyd â’r pleidiau eraill, er mwyn cytuno ar safbwynt rhwng pedair plaid wahanol iawn er budd pobl Cymru. Pan adroddodd Comisiwn Silk , roedd consensws na welwyd ei fath o’r blaen rhwng y chwe phrif blaid yng Nghymru.

“Mae’n siomedig a rhwystredig fod Llywodraeth y DG wedi penderfynu datod y consensws hwnnw a chynhyrchu Mesur hynod o annigonol sydd yn brin iawn o’r hyn y cytunodd Comisiwn Silk arno. Diflannodd y consensws y dylai adnoddau naturiol Cymru fod yn nwylo pobl Cymru; diflannodd y consensws mai Llywodraeth Cymru sydd yn y sefyllfa orau i bennu blaenoriaethau plismona Cymru; a diflannodd y consensws y dylid caniatáu i Lywodraeth Cymru fuddsoddi yn seilwaith ein gwlad.

“Mae’r Mesur mewn gwirionedd yn dwyn cyfrifoldeb ymaith oddi wrth bobl Cymru, ar waethaf y mandad a roddwyd gan bobl Cymru yn refferendwm 2011 ar drosglwyddo cyfrifoldebau pellach i Gaerdydd.

“Ar waethaf tystiolaeth lethol arbenigwyr cyfreithiol gerbron Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin a Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, parhaodd Llywodraeth y DG i anwybyddu galwadau am greu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân yng Nghymru er mwyn caniatáu symleiddio’r Mesur a’i dynhau yn gyfreithiol.

“Y canlyniad yw Mesur wedi’i ddrafftio’n wael ac sy’n gyfreithiol wan sy’n cyflawni ar fân feysydd ond ar yr un pryd yn dwyn oddi ar Gymru gyfrifoldebau hanfodol mewn meysydd megis iechyd, addysg a’r iaith Gymraeg.

“Ymhell o gyflwyno setliad datganoli clir a pharhaol, mae’r Mesur hwn eisoes wedi dyddio, ac yn amlwg, nid yw yn gynaliadwy.

“Nid oedd Plaid Cymru eisiau cael eu gorfodi i bleidleisio yn erbyn Mesur Cymru ond roddodd Llywodraeth y DG ddim dewis i’r Cynulliad ond gwneud hynny. Fyddwn ni ddim yn ymgreinio’n ddiolchgar am fargen ddi-uchelgais, a fyddwn ni ddim yn ddiolchgar chwaith am Fesur heb uchelgais.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.