Cinio Dathlu 20 Mlynedd ers i Gymru ddweud IE

Wales_Says_Yes.jpg

Mae Plaid Cymru yn cynnal cinio codi arian mawreddog a hynny ar union benblwydd y refferendwm ar Ddatganoli, ar 18 Medi yng Ngwesty’r Ivy Bush, Caerfyrddin am 7yh.

Yn ogystal â mwynhau cinio tri chwrs, byddwn yn cael cyfle i glywed trafodaeth wedi ei harwain gan Rhun ap Iorwerth, yng nghwmni Dafydd Wigley, yr Athro Richard Wyn Jones, a Liz Saville Roberts ac i ddiweddu'r noson bydd y cerddor a'r awdur Gareth Potter yn perfformio cyflwyniad wedi ei chomisiynnu'n arbennig, ar ddylanwad cerddoriaeth boblogaidd dros y degawdau ar yr ymgyrch dros gael llais gwleidyddol i'n cenedl. Bydd hefyd ocsiwn arbennig ar y noson.

Dylai fod yn noson hynod o ddifyr - yn y sir a fu'n lleoliad i’r cyfrif a roddodd y canlyniad tyngedfennol i Gymru ar y noson.

Pris tocyn yw £50. Bydd pob elw yn mynd tuag at sicrhau bod y Blaid mewn sefyllfa gadarn i sicrhau bod Cymru yn ennill mwy o rym dros ei dyfodol yn yr etholiadau sydd i ddod.

Ffoniwch Gwennol Haf ar 02920 472272 i sicrhau eich lle neu RSVPwch yma ac fe wnawn ni gysylltu â chi cyn gynted â phosib i gadarnhau eich archeb.

PRYD
September 18, 2017 at 7pm - 10:30pm
BLE
Gwesty'r Ivy Bush
11 Stryd Spillman
Caerfyrddin SA31 1LG
United Kingdom
Map Google a chyfarwyddiadau
CYSWLLT
Gwennol Haf · · 02920 472272
32 RSVPs

A fyddwch yn dod?


Dangos 2 o ymatebion

  • rsvped 2017-09-05 15:03:53 +0100
  • rsvped 2017-09-04 14:09:42 +0100

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.