"Ni ddaw Cymru yn rhydd tan bod ein dinaysddion LDHT hefyd yn rhydd" meddai Adam Price

lgbtadam.jpg

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia Deuffobia a Trawsffobia 2018, mae Adam Price AC yn adlewyrchu ar y brwydrau sydd wedi eu hennill a'r brwydrau o'n blaenau. 

Wythnos i heddiw byddwn yn nodi tri deg mlynedd ers pasio adran 28 yn Neddf Llywodraeth Leol 1988. Daeth Adran 28 i rym ar y 24 o Fai 1988 ac roedd yn nodi na ddylai awdurdod lleol "hyrwyddo cyfunrywioldeb yn fwriadol nac ychwaith gyhoeddi deunydd gyda'r bwriad o hyrwyddo cyfunrywioldeb" na "hyrwyddo addysgu mewn unrhyw ysgol derbyniaeth o gyfunrywioldeb fel berthynas deuluol".

Protest yn erbyn Adran 28 oedd yr orymdaith gyntaf LDHT yng Nghaerdydd, os nad yng Nghymru, ac roeddwn i yno. Roedd mynychu'r orymdaith honno, i mi, fel cymryd y cam cyntaf i ddod allan fel dyn hoyw.

Tri deg mlynedd yn ddiweddarach ac rwyf yma o hyd - yn ddyn hoyw balch yn gwasanaethu pobl fy ngwlad ac yn falch o ddathlu'r gymuned LDHT.

Mae tri deg mlynedd yn amser hir ac er fod cynnydd wedi ei wneud mae gwaith mawr ar ol i'w gyflawni. 

Mae ystadegau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Stonewall Cymru yn dangos bod 41% o bobl ifanc trawsrywiol yng Nghymru wedi ceisio hunanladdiad a bod 77% o bobl traws ifanc wedi hunan-niweidio ar rhyw bwynt yn eu bywydau. Nid yw oddeutu 60% o ddisgyblion LDHT yn ysgolion Cymru yn derbyn addysg ar faterion LDHT. Mae pobl ifanc LDHT hefyd yn wynebu cyfraddau uchel o fwlio a phroblemau iechyd meddwl.

Mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn trawsffobia ac ymgyrchoedd ffiaidd yn y cyfryngau yn erbyn y gymuned traws. Mae menywod traws yng Nghymru yn benodol yn wynebu heriau sylweddol gan gynnwys bod yn fwy tebygol o ddioddef o cam-drin domestig, trais, aflonyddu, troseddau o gasineb a digartrefedd.

Mae'n destun balchder i mi i gyd-sefyll gyda arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mewn cefnogi Ddeddf Cydnabod Rhywedd ddiwygiedig fydd yn rhoi'r modd i unigolion traws ac anneuaidd i ddatgan eu hunaniaeth yn gyfreithiol heb fod angen cyflwyno tystiolaeth feddygol neu brosesau fiwrocrataidd sarhaus - gan roi iddynt yr hawl dros hunan-benderfyniad. Mae cyfreithiau fel hyn eisoes yn bodoli mewn gwledydd megis Iwerddon, Norwy, Malta ac yr Ariannin ac wedi profi'n llwyddiannus. 

Rwy'n falch o record Plaid Cymru yn sefyll dros hawliau LDHT a byddwn yn parhau i gynrychioli'r gymuned LDHT yng Nghymru gan ymgyrchu dros addysg a goddefgarwch. Mae ein gweledigaeth dros Gymru yn un o wlad heb homoffobia, deuffobia a trawsffobia. Adeiladwn Gymru ble mae pawb yn gydradd ac yn byw yn rhydd o drais a chasineb. Wedi'r cyfan, nid wyf yn credu y gall Cymru erioed fod yn rhydd tan fod ein dinaysddion LDHT hefyd yn rhydd. 

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.