Rhaid gwarchod ieithoedd yn sgil Brexit

00_Sian_Gwenllian_AC.jpg

Mae'r Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol dros yr Iaith Gymraeg, Sian Gwenllian, wedi galw am weithredu i gefnogi ieithoedd lleiafrifol ledled y DG.

Wrth ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet, rhybuddiodd hi fod Brexit yn peri bygythiad i ieithoedd lleiafrifol y DG gan alw ar Lywodraeth Cymru i warchod aelodaeth Cymru o'r farchnad sengl, ac i sefydlu gweithlu rhyng-lywodraethol i fynd i'r afael ag effaith Brexit ar yr ieithoedd Celtaidd.

Rhybuddiodd Sian Gwenllian y byddai gadael y farchnad sengl yn cael effaith niweidiol ar ragolygon economaidd Cymru, ac yn amharu ar ymdrechion i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Wrth ysgrifennu at Weinidog yr Iaith Gymraeg, dywedodd Sian Gwenllian, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros yr Iaith Gymraeg:

“Deallaf fod Ysgrifennydd Cyffredinol Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop (ELEN) wedi ysgrifennu atoch cyn hyn yn gofyn ar i Lywodraeth Cymru gefnogi eu menter i sefydlu gweithgor rhynglywodraethol i ymdrin ag effaith Brexit ar yr ieithoedd Celtaidd.

"Byddai’r fenter yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Iwerddon, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Cyngor Cernyw, ELEN ac NGOs yr ieithoedd. Ysgrifennu yr wyf i ategu’r galwadau hynny, a’ch annog i fwrw ymlaen yn hyn o beth fel mater o frys.

“Fe all Brexit gael effaith hynod negyddol ar yr iaith Gymraeg a’r holl ieithoedd Celtaidd eraill a siaredir yn y Deyrnas Unedig. Nid yn unig y mae’r cymunedau ieithyddol hyn yn wynebu’r posibilrwydd o golli cyllid uniongyrchol trwy raglenni Ewropeaidd megis Erasmus Plus, ond y maent hefyd mewn perygl o golli’r arian strwythurol sydd wedi creu llawer o gyfleoedd am swyddi i siaradwyr Cymraeg mewn amrywiol sectorau ledled Cymru.


“Hefyd, gyda bwriad Llywodraeth y DU o geisio Brexit caled a allai niweidio ein gallu i gyrchu marchnadoedd Ewropeaidd, gallai hyn effeithio’n ddifrifol ar bob sector economaidd yng Nghymru. Elfen greiddiol i ymdrechion i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg yw bod yn rhaid darparu amodau economaidd i’r iaith Gymraeg oroesi a ffynnu. Mae allfudo oherwydd amodau economaidd gwael yn dinistrio rhannau o’n cymunedau Cymraeg eu hiaith. Felly yn ystod trafodaethau Brexit, rhaid i’n llywodraethau gyda’i gilydd wneud yr achos dros les economaidd ein cenedl a fydd yn sicrhau diogelwch a ffyniant ein hieithoedd a’n cymunedau.

“Bu’r UE yn wastad yn ganolbwynt gobaith i ieithoedd lleiafrifol cenhedloedd y DU a gweddill Ewrop. Rhaid i ni yn awr ofalu ein bod yn cynnal y gobaith hwnnw trwy weithio gyda’n cefndryd Celtaidd i sefyll i fyny ac amddiffyn iaith a diwylliant ein cenedl rhag effeithiau andwyol posib Brexit.”

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.