Er lles y blaned

Un o'r heriau mwyaf sydd yn wynebu Cymru a’r byd yw newid hinsawdd, a’r gwir fygythiad mae’n ei gynrychioli i’n cymunedau.

● Yn 2009, galwodd y pedair plaid yn y Cynulliad Cenedlaethol ar Lywodraeth Cymru i leihau allyriannau gan 40% erbyn 2020 yn erbyn gwaelodlin 1990. Ers 2011, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriannau nwyon tŷ gwydr gan 3% y flwyddyn mewn meysydd polisi datganoledig. Ond er gwaethaf y cynnydd mae Cymru’n ei wneud, dydyn ni ddim ar hyn o bryd yn mynd i fwrw ein targed o 40%.
● Yn 2011, daeth dim ond 7.9% o’r trydan a gynhyrchwyd yng Nghymru o ynni adnewyddadwy.

Beth yw manteision aelodaeth o’r UE?

● Gan fod newid hinsawdd yn broblem rhyngwladol mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef ar y cyd. Rydym yn elwa o 100 o gyfreithiau Ewropeaidd sydd yn amddiffyn ein pobl a’n hamgylchedd.
● Fe wnaeth y trafodaethau IPPC ym Mharis – wedi ei arwain gan yr UE – sicrhau cytundeb i fynd i'r afael ag allyriadau carbon deuocsid.

Beth fyddai’n digwydd pe byddem yn gadael yr UE?

● Byddai Cymru’n colli ei llais mewn sefydliad rhyngwladol hanfodol o bwysig, sydd ar flaen yr ymgyrch yn erbyn newid hinsawdd a achoswyd gan ddynoliaeth.
● Pe byddem yn gadael yr UE, byddai’r holl reoliadau ynglŷn â newid hinsawdd, sydd yn rhaid i gwmniau eu bodloni, yn dod o dan reolaeth Llywodraeth Prydain.

Beth allem ni ei wneud yn well yn yr UE?

● Dysgu gan enghreifftiau da o fannau eraill yn y byd.
● Cymryd rhan mwy gweithgar wrth weithredu targedau a gweithio’n uniongyrchol gyda’r comisiwn i’w gyflawni.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.