Ymateb Leanne Wood i ddyfarniad yr Uchel Lys ar R (Miller ac eraill) v yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd

IMG_4367.JPG

Mae Plaid Cymru yn croesawu dyfarniad yr Uchel Lys nad oes gan Lywodraeth y DG y pŵer i roi cychwyn ar Erthygl 50 heb ganiatâd y senedd, sy’n golygu na all y broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd gychwyn cyn i’r Senedd fod wedi pleidleisio i wneud hynny.

Pleidleisiodd Cymru i adael yr UE ar Fehefin 23. Mae Plaid Cymru yn parchu’r canlyniad hwn, ac yr ydym yn derbyn fod yn rhaid i Gymru adael yr UE. Mae’n siomedig, ond nid yn syndod, efallai, fod rhai yn fwriadol wedi camddehongli dyfarniad yr Uchel Lys ddoe er mwyn ymosod heb unrhyw gyfiawnhad ar annibyniaeth y farnwriaeth. Byddai rhai o’r adweithiau mwy dramatig o du ochr Brexit i ddyfarniad yr Uchel Lys yn ddoniol petaent mewn comedi sefyllfa fel Yes, Minister neu The Thick Of It.  Fodd bynnag, nid comedi oedd hyn, ac yr oedd llawer o’r sylwadau – gan bobl ddylai wybod yn well – yn gamarweiniol, yn afresymol ac, a dweud yn blaen, yn fygythgiad i ddemocratiaeth ac annibyniaeth y farnwriaeth. 

 

Nid ymgais oedd dyfarniad yr Uchel Lys i ‘flocio Brexit’, ac nid oedd chwaith yn  farn ynghylch a ddylai’r DG dynnu allan o’r UE neu beidio. Gwnaed hynny yn glir sawl gwaith yn y dyfanriad, ond ymddengys bod rhai pobl yn rhy brysur yn bytheirio i sylwi. Dyfarniad ar bwynt o gyfraith ydoedd; ynglŷn ag a ddylai llywodraeth y DG roi cychwyn ar Erthygl 50 gan ddefnyddio pwerau uchelfraint neu ynteu a oedd angen pleidlais seneddol i wneud hynny.

 

Gwnaeth y sawl oedd o blaid i’r DG dynnu allan o’r UE lawer, yn ystod y misoedd cyn y refferendwm, o sofraniaeth y senedd. Mor eironig fod rhethreg o’r fath wedi diflannu bron yn llwyr mewn ymateb i’r dyfarniad ddoe. Penderfynodd un o lysoedd y DG y dylai senedd y DG gael lleisio barn ar yr un mater a fydd, efallai, yn diffinio’n fwyaf manwl ddyfodol y DG am genedlaethau i ddod – onid sofraniaeth seneddol mo hyn?  Onid yw hyn yn grynhoad amlwg o fantra Brexit o ‘adennill rheolaeth’?  Efallai y dylid ei newid i ‘adennill rheolaeth…….pan fydd hynny’n ein siwtio ni a’n hagenda.’

 

Bwriada llywodraeth y DG apelio at y Goruchaf Lys yn erbyn y dyfarniad hwn. O gofio pwysigrwydd penderfyniad y Goruchaf Lys ar drefniadau cyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Gyfunol a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datganoli, mae’n hollbwysig fod llais Cymru yn cael ei glywed yn yr apêl hon. Mae Plaid Cymru felly yn croesawu penderfyniad Cwnsler Cyffredinol Cymru i ofyn am ganiatâd i wneud sylwadau am oblygiadau penodol penderfyniad arfaethedig y llywodraeth i Gymru. 

 

Y cyfan yr oedd y papur pleidleisio yn refferendwm mis Mehefin yn ofyn i bobl oedd a fynnent aros yn yr UE neu adael; nid oedd yn gofyn sut yr oeddent am weithredu ‘Brexit’. Nid oedd, er enghraifft, yn gofyn a oedd pobl am aros yn yr undeb tollau neu ei adael, na beth oedd eu barn ar aelodaeth o’r Farchnad Sengl. 

 

Dyna pam y dylai’r senedd yn San Steffan, a seneddau cenedlaethol y DG, gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael cyfle i fod yn glir am delerau ymadawiad y DG o’r UE. Mae’n bwysig iddynt wneud hynny, oherwydd mae llawer o gwestiynau y mae’n rhaid eu hateb i bennu telerau’r ymadawiad. 

Pleidleisiodd Cymru i adael yr UE, a gadael sydd raid, ond ni phleidleisiodd neb dros y ‘Brexit caled’ y mae llywodraeth Geidwadol y DG yn ceisio ei wthio drwodd; ‘Brexit’ fydd yn llusgo Cymru allan o’r farchnad sengl a’r undeb tollau yn ogystal â’r UE. Ni ddylai cabinet Ceidwadol osod telerau ymadawiad y DG. Rhaid i’r seneddau datganoledig, yn ogystal â senedd y DG, gael cyfle i drafod telerau ‘Brexit’ a dylanwadu arnynt. 

 

Mae Plaid Cymru yn gyson wedi galw am barhau i fod yn aelod o’r Farchnad Sengl fel y dewis ‘Brexit’ gorau i Gymru, ac economi Cymru yn arbennig. Mae Cymru, yn wahanol i weddill y DG, yn allforiwr net o nwyddau, sy’n golygu fod cadw mynediad rhydd o dariffau a rhwystrau rheolaethol at y farchnad sengl yn hollbwysig i’n heconomi. Byddai parhau i fod yn aelod o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau yn diogelu ein gwarged masnachu gwerth £5 biliwn a byddai’n galluogi Cymru i fod yn gymwys am rai rhaglenni a chyllid trawsffiniol. Ni ddylai’r manteision amlwg a ddygodd aelodaeth o’r  UE i’r DG ar faterion fel cryfhau hawliau gweithwyr gael eu hanghofio yn ystod trafodaethau Brexit, na chwaith yr hawl i absenoldeb mamolaeth a rhieni, yn ogystal â gwarchodaeth amgylcheddol ar faterion fel newid hinsawdd a gwarchod bywyd gwyllt. Mae’r materion hyn yn bwysig i Blaid Cymru, fel y maent i gyfran helaeth o boblogaeth Cymru. Ni ddylent gael eu gwthio o’r neilltu gan y bydd ein cymdeithas, a’n bywydau, yn dlotach o’r herwydd. 

 

Pleidleisiodd pedair cenedl y DG mewn ffyrdd gwahanol ar aelodaeth o’r UE, ac felly dylai pob un gael llais dros delerau ‘Brexit’. Nid oedd y refferendwm yn nodi union ddull ymadawiad y DG o’r UE, ac felly fel gwleidyddion etholedig, ein gwaith ni yn awr yw pennu sut beth fydd ‘Brexit’, a thrwy wneud hynny, sicrhau’r fargen orau i Gymru a’r DG fel ei gilydd.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.